Hwyluso ymchwil gymunedol ac ymgyngoriadau

URN: JETSCD08
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi grwpiau cymunedol i gyflawni eu hymgyngoriadau eu hunain er mwyn pennu pryderon a/neu flaenoriaethau eu cymunedau eu hunain, dichonoldeb y gweithgareddau a gynigiwyd, a chasglu barn aelodau o'r gymuned a grwpiau neu sefydliadau ynghylch camau gweithredu arfaethedig neu newidiadau i'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Mae'r safon yn rhagdybio bod ymchwil gymunedol yn cael ei defnyddio i greu newidiadau cadarnhaol mewn cymunedau. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol.

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol: 
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Dau 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 cefnogi cyfraniad aelodau o'r gymuned i gynigion ar gyfer ymchwil gymunedol ac ymgyngoriadau
2 cefnogi unigolion a chymunedau i nodi a chytuno ar ddiben a chanlyniadau'r gwaith ymchwil/gweithgaredd ymgynghori
3 defnyddio dulliau cynhwysol a chyfranogol i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad yn y gweithgaredd ymchwil 
4 cynllunio ymchwil gymunedol gyda'r holl bobl berthnasol, i gynnwys rolau, camau gweithredu, adnoddau a dyddiadau adolygu
5 datblygu sgiliau aelodau o'r gymuned mewn ymchwil yn y gymuned trwy weithgareddau dysgu
6 hysbysu ymchwilwyr cymunedol ynghylch ymchwil gymunedol foesegol, broffesiynol a diogel 
7 hysbysu ymchwilwyr cymunedol ynghylch gofynion a gweithdrefnau cyfreithiol delio gyda gwybodaeth sensitif a chyfrinachol
8 defnyddio data a gwybodaeth sy'n ddilys, yn gywir, yn ddibynadwy ac yn ddigonol i gyflawni diben arfaethedig y gwaith ymchwil


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Ymchwil gymunedol a chasglu data
1 dulliau ac agweddau cyfranogol i'w defnyddio gydag aelodau o'r gymuned ar draws proses yr ymchwil
2 sut mae cyrchu ffynonellau data presennol ynghylch cymunedau
3 ffyrdd a dderbynnir o wirio cywirdeb, dibynadwyedd a dilysrwydd data
4 fframweithiau moesegol, diogel a chyfreithiol ar gyfer casglu a thrafod gwybodaeth gyfrinachol a sensitif
5 dulliau o gofnodi ac adolygu gwybodaeth
6 ble mae cael adnoddau ar gyfer dulliau a arweinir gan y gymuned o broffilio, ymgynghori ac ymchwilio

Cynnwys pobl a sefydliadau
7 sut mae nodi partneriaid posibl ac asesu eu potensial o ran cydweithio mewn ymgyngoriadau ac ymchwil cymunedol
8 technegau cynllunio cyfranogol 
9 technegau ar gyfer annog edrych yn sensitif ar amrywiaeth
10 sut mae cefnogi aelodau o'r gymuned i ddatblygu sgiliau ymchwil gymunedol
11 agweddau a dulliau i'w defnyddio wrth werthuso prosesau ymchwilio neu ymgynghori


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod canlyniadau ymchwil gymunedol ac ymgyngoriadau yn amlygu anghydraddoldebau sy'n bodoli yn y gymuned
2 bod gwahanol farn a safbwyntiau'n cael eu cydnabod a'u parchu'n gyfartal yn yr ymchwil/ymgynghoriad
3 bod pob asiantaeth yn gosod gwerth ar yr arbenigedd a'r wybodaeth a geir mewn cymuned
4 bod gan aelodau cymuned reolaeth a pherchnogaeth ar y cyd ar brosesau ymchwilio ac ymgynghori cymunedol
5 bod prosesau ymchwilio ac ymgynghori yn cael eu monitro a'u hadolygu, a bod y dysgu'n cael ei ddefnyddio i hysbysu cynllunio yn y dyfodol​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD07

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol