Dod i adnabod cymuned

URN: JETSCD07
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu cysylltiad a pherthnasoedd â phobl a sefydliadau allweddol mewn cymuned, er mwyn dysgu am ei materion a'i phryderon. Mae'n golygu casglu gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli a chefnogi cymunedau i gynhyrchu gwybodaeth newydd, er mwyn deall yn well anghenion, cryfderau ac amgylchiadau cymunedau. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol: 
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Dau 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 dod i gysylltiad â gwahanol grwpiau mewn cymuned 
2 esbonio eich rôl eich hun a rôl y sefydliad i bobl yn y gymuned
3 cofnodi manylion y bobl a'r grwpiau y cysylltwyd â hwy ar gyfer ymgysylltiad cymunedol yn y dyfodol 
4 adolygu'r cofnod o gysylltiadau er mwyn canfod a llenwi bylchau
5 sefydlu cysylltiadau a dolenni ar draws pob adran o'r gymuned 
6 defnyddio amrywiaeth o ddulliau ymchwil a strategaethau cyfranogol i gynhyrchu archwiliad cymunedol
7 sefydlu prosesau ar gyfer adolygu a diwygio'r archwilliad cymunedol yn achlysurol 
8 addasu eich rôl eich hun mewn ymateb i archwiliadau cymunedol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Y cyd-destun
1 effeithiau ffactorau strwythurol ar gymunedau
2 effaith amrywiaeth ar ddatblygu cymunedol o fewn a rhwng cymunedau
3 sut mae deddfwriaeth a pholisïau yn effeithio ar gymunedau
4 rôl a chyfraniad ymarferwyr datblygu cymunedol sy'n gweithio gyda chymunedau
5 sut mae canfod blaenoriaethau a phryderon cymunedau trwy agweddau cyfranogol

Creu cysylltiad
6 dulliau ac arddulliau gwahanol o ymgysylltu ag ystod o unigolion a chymunedau 
7 sut gellir defnyddio rhwydweithiau anffurfiol i gynyddu nifer ac ansawdd y cysylltiadau y gellir eu defnyddio er lles cymunedau
8 pwysigrwydd cymryd amser i feithrin perthnasoedd a meithrin ymddiriedaeth a pharch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod cyd-destunau amgylcheddol, gwleidyddol, diwylliannnol, economaidd a chymdeithasol yn cael eu hymgorffori i archwiliadau cymunedol
2 bod ymdrechion rhagweithiol i ddod i gysylltiad â phobl o gymunedau amrywiol a rhai sydd ar y cyrion
3 bod safbwyntiau aelodau o'r gymuned a grwpiau cymunedol yn cael eu mynegi a'u cynrychioli'n glir
4 bod aelodau o'r gymuned yn ymwneud â chasglu a dehongli gwybodaeth
5 bod perthnasoedd gwaith sydd wedi'u seilio ar barch yn cael eu datblygu a'u cynnal​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD06

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol