Cynnal arfer datblygu cymunedol yn eich sefydliad eich hun
URN: JETSCD05
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar:
28 Chwef 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r angen i bob sefydliad sy'n ymwneud â datblygu cymunedol integreiddio gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol yn eu gwaith eu hunain.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol sy'n cefnogi cymunedau yn y broses hon.
Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol
Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Un
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 esbonio diben, gwerthoedd a manteision datblygu cymunedol i eraill yn eich sefydliad eich hun
2 trafod perthnasedd prosesau datblygu cymunedol ac agweddau at waith y sefydliad gyda chydweithwyr a staff uwch
3 cefnogi'ch sefydliad eich hun i sicrhau y cyrhaeddir cymunedau sydd ar y cyrion
4 darparu gwybodaeth am y gwahanol gymunedau mewn ardal leol
5 archwilio anghenion datblygu eich sefydliad eich hun yng nghyswllt cefnogi arfer datblygu cymunedol
6 darparu cyfleoedd i gynyddu gwybodaeth a sgiliau ym maes datblygu cymunedol yn eich sefydliad eich hun**
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol
1 manteision ymarferol defnyddio cysyniadau datblygu cymunedol
2 sut mae herio agweddau amhriodol, anghynhwysol ac arwynebol at gynnwys y gymuned
3 sut mae anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yn effeithio ar fywydau unigolion a chymunedau
4 gwahanol bersbectifau ar rymuso cymunedol a chynnwys y gymuned
Archwilio anghenion sefydliadol
5 ffyrdd o gytuno ar anghenion a blaenoriaethau sefydliadol
6 sut mae teilwra blaenoriaethau sefydliadau i ddiwallu anghenion cymuned
Perthnasedd datblygu cymunedol i sefydliadau
7 ystod eich polisïau sefydliadol eich hun a all effeithio ar gymunedau
8 sut mae cymunedau'n gymhleth ac yn ddeinamig
9 sut mae defnyddio'r dysgu o brofiadau cymunedau ar gyfer agweddau sefydliadol at waith
10 arwyddocâd teyrngarwch rhanedig neu sy'n gwrthdaro rhwng datblygu cymunedol ac arfer sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;
1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.
1 bod gwerthoedd datblygu cymunedol yn hysbysu gwneud penderfyniadau sefydliadol yn benodol
2 bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu gwirio yn erbyn y gwerthoedd datblygu cymunedol
3 bod pob agwedd at gynnwys y gymuned a'i hymwneud wedi'u llunio i fod yn gynhwysol a grymuso'r rhai dan sylw
4 bod gwerthoedd a phroses datblygu cymunedol yn cael eu harchwilio'n rheolaidd er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin ar y cyd o fewn y sefydliad
5 bod y sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol o fewn y sefydliad i ymgymryd â datblygu cymunedol effeithiol yn cael eu cydnabod ac yn derbyn sylw creadigol
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Chwef 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Learning Skills Improvement Service
URN gwreiddiol
LSICD05
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol
Cod SOC
3231
Geiriau Allweddol
datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol