Ymwneud â gwahanol gymunedau

URN: JETSCD03
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â chydnabod bod cymunedau'n amrywiol ac yn gymhleth. Mae'n bwysig bod ymarferwyr datblygu cymunedol yn gweithio gyda'r ystod gyfan o wahanol unigolion a sefydliadau mewn cymuned. Mae hyn yn galw am wahanol ddulliau gweithredu gyda gwahanol gymunedau a chydnabod perthnasoedd cyfredol ac yn y gorffennol, a gwirioneddau gwahanol gymunedau Mae angen i ymarferwyr datblygu cymunedol ganfod sut byddant yn gweithio gyda'r sefydliadau hyn a sut byddant yn cynnig cefnogaeth i alluogi sefydliadau o wahanol gymunedau i weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r newidiadau y maent yn eu dymuno. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol: 
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Un


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1 dadansoddi natur, cyfansoddiad, perthnasoedd pŵer a ffactorau strwythurol sy'n effeithio ar gymunedau
2 meithrin perthnasoedd sy'n cydnabod persbectifau cymunedau ar eu profiadau bywyd
3 cynnwys cymunedau sydd wedi'u heithrio ac ar y cyrion mewn gweithgaredd cymunedol
4 cydnabod hawliau cymunedau i beidio ag ymgysylltu â gweithgaredd cymunedol
5 annog cymunedau sefydledig a rhai mwy newydd i gydweithio
6 bhwyluso cymunedau a sefydliadau i nodi eu materion a rennir wrth gydweithio
7 cefnogi perthnasoedd gwaith cydweithredol rhwng cymunedau a sefydliadau yn eich maes cyfrifoldeb
8 cefnogi cymunedau amrywiol i gyflawni newid yn yr hir dymor
9 lle bo hynny'n briodol, defnyddio'r dysgu o brofiadau cymunedau i ymgyrchu dros newid cymdeithasol neu bolisi
10 cefnogi cymunedau i ddeall, a lle bo hynny'n briodol, herio polisïau lleol a chenedlaethol
11 sicrhau bod eich gwybodaeth eich hun a'ch ymarfer ym maes datblygu cymunedol yn dal yn gyfredol​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol
1 pwysigrwydd defnyddio a hybu gwerthoedd a phroses datblygu cymunedol 
2 sut mae symbylu pobl a goresgyn rhwystrau i ymgysylltiad
3 sut mae hwyluso cynnull pobl a grwpiau o fewn ac ar draws cymunedau ynghylch materion cyffredin 
4 sut mae defnyddio dulliau datblygu cymunedol i herio anghydraddoldebau, anghyfiawnder cymdeithasol a chamwahaniaethu
5 sut mae sicrhau'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch newidiadau i gymunedau ac arfer datblygu cymunedol

Cymunedau fel cysyniad
6 y gwahanol fathau o gymunedau sy'n bodoli 
7 ffactorau cymdeithasol a strwythurol sy'n eithrio cymunedau ac yn eu gyrru i'r cyrion
8 ffynonellau gwybodaeth am y cymunedau y gweithir gyda hwy

Materion pŵer, anghydraddoldeb a chyfiawnder
9 persbectifau a ddefnyddir i esbonio ffactorau strwythurol a'r cysylltiadau rhyngddynt
10 sut mae ffactorau strwythurol yn effeithio ar gymunedau
11 hawliau i osod eich agendâu eich hun a pharhau'n annibynnol
12 ffyrdd o gefnogi grymuso cymunedol a hwyluso cynnwys y gymuned 
13 ffyrdd o feithrin parch a deialog rhwng cymunedau trwy archwilio hanes a phersbectifau gormes 
14 sut gall credoau, gwerthoedd a rhagfarnau tuag at wahanol gefndiroedd, diwylliannau, ffydd a thraddodiadau effeithio ar berthnasoedd gwaith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod ymarferwyr yn sicrhau'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch newidiadau i'r boblogaeth leol ac yn ystyried y ffordd orau o ymateb i anghenion sydd newydd eu nodi
2 bod ymarferwyr yn derbyn cyfrifoldeb am ymestyn allan i gymunedau sydd ar y cyrion ac wedi'u heithrio, fel bod modd clywed eu lleisiau
3 bod gan gymunedau wybodaeth ddigonol i wneud penderfyniadau ynghylch pryd a sut mae ymgysylltu â chymunedau, grwpiau a chyrff statudol eraill
4 bod yr anghenion, y buddiannau a'r pryderon sydd gan y gwahanol gymunedau yn llywio'r cynllunio gan gyrff statudol
5 bod ffyrdd gwahanol o ymateb i anghenion datblygu, cefnogi a hyfforddi gwahanol gymunedau yn cael eu cydnabod​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD03

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol