Integreiddio a defnyddio gwerthoedd a phroses datblygu cymunedol

URN: JETSCD01
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rôl yr ymarferydd datblygu cymunedol yn dehongli, defnyddio ac esbonio proses a gwerthoedd datblygu cymunedol. 

Mae'n golygu gweithio gydag eraill i ddangos beth sy'n unigryw am natur datblygu cymunedol ac annog pobl, grwpiau ac asiantaethau i gydnabod cyfraniad datblygu cymunedol ym mhroses newid. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol: 
Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Un 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 cymhwyso gwerthoedd a phroses datblygu cymunedol i'ch rôl eich hun 
2 hybu gwerthoedd datblygu cymunedol i unigolion, sefydliadau a chymunedau  
3 cefnogi cymunedau i ddefnyddio gwerthoedd a phroses datblygu cymunedol
4 cefnogi cymunedau i herio polisïau a phenderfyniadau lleol a chenedlaethol sy'n cael effaith negyddol ar gymunedau lleol 
5 hybu gweithredu cynhwysol a grymusol ar y cyd wrth benderfynu a gweithio ar y newidiadau a nodir gan gymunedau 
6 cefnogi cymunedau i greu cysylltiadau rhwng ffactorau strwythurol a'u heffaith ar lesiant
7 hybu agweddau dysgu a datblygiadol ar weithio gyda chymunedau
8 caniatáu gwerthuso effaith ymarfer datblygu cymunedol ar gymunedau
9 cefnogi cymunedau ac eraill i ddeall sut mae polisïau ar wahanol lefelau yn effeithio ar gymunedau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol
1 diben, gwerthoedd a phroses allweddol datblygu cymunedol 
2 sut mae esbonio cysyniadau datblygu cymunedol mewn gwahanol gyd-destunau, i wahanol gynulleidfaoedd ac at wahanol ddibenion
3 technegau seiliedig ar werth, sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau, ar gyfer adfyfyrio a datrys problemau 
4 dulliau o gynnwys a grymuso'r gymuned 
5 dulliau ar gyfer gweithredu a newid a arweinir gan y gymuned
6 sut mae gweithio gyda gwrthdaro cymunedol (rhwng grwpiau a rhwng cymunedau) 
7 sut mae gwerthuso effaith polisïau ar gymunedau

Cymunedau fel cysyniad 
8 yr ystod o ddiffiniadau o'r cysyniad ‘cymuned’, sy'n adlewyrchu diddordeb, hunaniaeth a daearyddiaeth

Materion pŵer, anghydraddoldeb a chyfiawnder
9 persbectifau a ddefnyddir i esbonio ffactorau strwythurol a'r cysylltiadau rhyngddynt
10 sut mae ffactorau strwythurol yn effeithio ar gymunedau
11 ffyrdd o herio anghydraddoldeb, anghyfiawnder cymdeithasol a chamwahaniaethu 
12 gwahanol bersbectifau ar sut mae pŵer yn gweithio
13 technegau ar gyfer adnabod a defnyddio pŵer
14 hawliau i osod eich agendâu eich hun a pharhau'n annibynnol
15 y cyfraniad y gall datblygu cymunedol ei wneud i bolisïau a mentrau cyfredol y llywodraeth leol a chenedlaethol

Gwneud penderfyniadau
16 sut mae'r broses o lunio polisi yn gweithio
17 sut mae defnyddio prosesau cyfranogol a democrataidd o wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu a newid cymunedol
18 sut mae cefnogi cymunedau i ymgysylltu'n weithredol ac yn feirniadol yn y broses o lunio polisi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau. Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon. Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 bod arfer datblygu cymunedol yn cyfrannu at gymdeithas fwy cyfartal lle mae hawliau sifil a dynol yn cael eu cydnabod a'u parchu
2 bod arferion sy'n cyfrannu at anghydraddoldebau yn cael eu nodi a'u herio pryd bynnag a ble bynnag maen nhw'n codi
3 bod yr holl ymyriadau a gweithgareddau a gynlluniwyd oddi mewn i gymunedau yn ymdrin â'r materion a nodwyd gan aelodau o'r gymuned ac yn ceisio gwireddu eu dyheadau 
4 bod gweithredu ar y cyd yn cael ei hyrwyddo'n weithredol fel ffyrdd effeithiol o gyflawni newid cymdeithasol cadarnhaol
5 bod adfyfyrio ar brofiadau'n rhan hanfodol o bob gweithgaredd ac yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD01

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; ymarfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol