Hyrwyddo arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol

URN: INSSMA19
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Cymdeithasol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hyrwyddo tystiolaeth o arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol ac annog y grwpiau targed i gymhwyso'r egwyddorion hyn yn eu cyd-destunau a'u materion eu hunain. Gall yr hyrwyddo ddigwydd mewn sawl ffordd, fel mewn cyhoeddiadau electronig neu bapur; digwyddiadau a chyflwyniadau wyneb yn wyneb neu drwy gyfryngau cymdeithasol; cynnwys y dystiolaeth mewn deunyddiau dysgu neu raglenni addysgol arall.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli neu weithredu sy'n gyfrifol am hyrwyddo tystiolaeth o arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol ac annog iddi gael ei chymhwyso mewn cyd-destunau a materion amrywiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu tystiolaeth arferion marchnata cymdeithasol ac asesu ei heffeithiolrwydd, ei dilysrwydd a'i dibynadwyedd
  2. ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol er mwyn nodi'r grwpiau targed y gallai'r dystiolaeth fod yn berthnasol iddynt

  3. ymgysylltu â grwpiau targed a rhanddeiliaid allweddol er mwyn nodi eu nodweddion, diddordebau, anghenion, galluoedd a dewisiadau

  4. sefydlu sut gallai'r grwpiau targed elwa o ddeall tystiolaeth am farchnata cymdeithasol
  5. cyfosod enghreifftiau o arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'u cyflwyno yn y fformat perthnasol ac iaith briodol ar gyfer y grŵp targed
  6. sefydlu'r sianelau cyfathrebu gyda'r grwpiau targed
  7. annog a chefnogi'r grwpiau targed er mwyn profi a chymhwyso'r arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn marchnata cymdeithasol
  8. addasu eich ymagwedd at ddyrannu a hyrwyddo'r arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn marchnata cymdeithasol mewn ymateb i adborth neu broblemau neu gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg
  9. dyrannu'r wybodaeth a thystiolaeth o arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol
  10. gwerthuso sut ydych yn rhannu tystiolaeth a'i harwyddocâd
  11. adolygu sut y defnyddir ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn marchnata cymdeithasol
  12. sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. tystiolaeth o arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol
  2. dulliau asesu dilysrwydd a dibynadwyedd y dystiolaeth
  3. dulliau nodi'r grwpiau targed a'r rhanddeiliaid allweddol y gallai'r dystiolaeth fod yn berthnasol iddynt
  4. y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
  5. egwyddorion, dulliau, cyfarpar a thechnegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
  6. dulliau rhannu'r dystiolaeth â'r grwpiau targed a'r rhanddeiliaid allweddol
  7. ystod y sianelau cyfathrebu a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol y gellir eu defnyddio i rannu gwybodaeth
  8. enghreifftiau perthnasol a gweithgareddau ymarferol ar gyfer grwpiau targed
  9. sut i rannu a hyrwyddo'r arferion effeithiol ym maes marchnata cymdeithasol
  10. dulliau cyfosod yr adborth o weithgareddau rhannu
  11. camau penodol mewn ymateb i broblemau neu gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg
  12. eich dulliau gwerthuso er mwyn gwneud i'r grwpiau targed ddeall y dystiolaeth a'i harwyddocâd
  13. pam mae'n bwysig adolygu sut y defnyddir arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  14. y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Tystiolaeth

Gall y dystiolaeth fod yn ansoddol a/neu feintiol a gall ddeillio o'r gwerthusiad ffurfiol o effaith (mantais tymor byr) a deilliant (budd yn y pen draw) rhaglenni masnach cymdeithasol.

Rhanddeiliaid

Mae'r rhain yn cynnwys pawb sydd â diddordeb a chysylltiad â'r dystiolaeth o arferion effeithiol ac aneffeithiol ym maes marchnata cymdeithasol neu sydd wedi'i heffeithio ganddi.

Arwyddocaol

Mae hyn yn golygu perthnasol a phwysig i fuddiannau'r grwpiau targed.

Modd

Gall hyn gynnwys: cyhoeddiadau electronig neu bapur; digwyddiadau a chyflwyniadau wyneb yn wyneb neu drwy gyfryngau cymdeithasol; cynnwys y dystiolaeth mewn deunyddiau dysgu neu raglenni addysgol arall.

Dulliau cyfathrebu

Mae'r rhain yn cynnwys: geiriau llafar, geiriau printiedig, cyfathrebu electronig, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, delweddau gweledol, iaith arwyddion, Braille, ac ati.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html

Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf

Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

24 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASME1.2V3.0

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Sefydliadau polisi cymdeithasol, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol

Cod SOC

3543

Geiriau Allweddol

gweithgareddau marchnata cymdeithasol; arferion; hyrwyddo marchnata cymdeithasol; pwysigrwydd marchnata cymdeithasol cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR)