Ymgysylltu â llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth a sefydliadau a’u cefnogi

URN: INSSMA17
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Cymdeithasol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â materion strategol marchnata cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a'u cefnogi. Nod y gweithgareddau ymgysylltu yw llywio a bod o gymorth wrth wneud penderfyniadau polisi a datblygu gwell dealltwriaeth o raglenni marchnata cymdeithasol.

Hyd yn oed ar ôl cynnal ymchwil drylwyr, mae'n amhosibl darogan yn llawn beth fydd yn digwydd o ganlyniad o ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae angen i weithgareddau ymgysylltu fod yn hyblyg ac yn ymatebol i ganlyniadau sy'n dod i'r amlwg. Gall y llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau fod naill ai mewn adrannau llywodraeth, awdurdodau neu asiantaethau neu mewn sefydliadau sy'n defnyddio, neu allai ddefnyddio, marchnata cymdeithasol i'w helpu i gyflawni eu hamcanion.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli neu weithredu sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth neu mewn sefydliadau er mwyn llywio a chynorthwyo penderfyniadau polisi yn rhan o'r rhaglen masnach cymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi ystod y llunwyr polisiau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i weld a oes posibilrwydd o gydweithio mewn rhaglenni marchnata cymdeithasol
  2. pennu rôl a swyddi llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn cysylltiad ag amcanion y rhaglen
  3. ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn meithrin eu dealltwriaeth o farchnata a sut allai gyflawni amcanion eu polisïau
  4. gwerthuso pa mor addas a dibynadwy yw'r llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  5. nodi unrhyw beth a allai rwystro ar ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a phennu sut i leihau'r peryglon hyn
  6. mynd i'r afael ag unrhyw anawsterau, camdybiaethau ac argraffiadau posibl sydd gan lunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch marchnata cymdeithasol a datrys y rhain
  7. monitro ac adolygu dulliau hyrwyddo manteision marchnata cymdeithasol ymysg llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  8. cefnogi llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau wrth baratoi eu strategaethau marchnata cymdeithasol
  9. monitro strategaethau marchnata cymdeithasol llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a rhoi cyngor arbenigol lle bo angen
  10. cyfosod barn gyhoeddus drwy gamau cymunedol a digwyddiadau ymgynghori er mwyn cynorthwyo rhagor o ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  11. cyfosod y dystiolaeth, ffactorau a dadleuon a allai lywio a chynorthwyo gyda pholisïau a phenderfyniadau
  12. blaenoriaethu a dewis ymddygiadau mesuradwy unigolion, sefydliadau neu lunwyr polisïau er mwyn dylanwadu arnynt
  13. datblygu'r ymyriadau sydd eu hangen i lywio a chynorthwyo gyda phenderfyniadau polisi a pholisïau
  14. addasu eich ymagwedd at ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i lywio cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol
  15. sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi'r llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn cysylltiad a rhaglenni marchnata cymdeithasol
  2. sut i flaenoriaethu a dewis ymddygiadau mesuradwy unigolion, sefydliadau neu lunwyr polisïau er mwyn dylanwadu arnynt
  3. ystod rôl a swyddi llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn cysylltiad ag amcanion y rhaglen
  4. y dulliau, y cyfarpar a'r technegau ymgysylltu â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  5. sut i werthuso pa mor addas a dibynadwy yw'r llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  6. yr hyn a allai rwystro ymgysylltiad â llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r strategaethau i leihau'r risgiau hyn
  7. mathau o anawsterau, camdybiaethau ac argraffiadau posibl sydd gan lunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch marchnata cymdeithasol a datrys y rhain
  8. dulliau hyrwyddo manteision marchnata cymdeithasol ymysg llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  9. strategaethau a gweithgareddau marchnata cymdeithasol llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  10. sut i gyfosod barn gyhoeddus drwy gamau cymunedol a digwyddiadau ymgynghori
  11. y dystiolaeth, ffactorau a dadleuon a allai lywio a chynorthwyo gyda phenderfyniadau ynglŷn â pholisïau
  12. yr ymyriadau perthnasol sy'n ceisio llywio a chynorthwyo gyda pholisïau a phenderfyniadau ynglŷn â pholisïau
  13. dulliau monitro gweithgareddau ymgysylltu a deilliannau'r rhaglen marchnata cymdeithasol
  14. pwysigrwydd cadw'n gyfredol gyda chanllawiau arferion gorau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  15. y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Rhaglen marchnata cymdeithasol

Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.

Risg

Mae hyn yn golygu'r posibilrwydd o ddigwyddiad yn cael ei gynnal a difrifoldeb goblygiadau'r digwyddiad hwn. Nid oes arwyddocâd negyddol yn gysylltiedig â 'risg' o reidrwydd; gall digwyddiad beri goblygiadau cadarnhaol a negyddol fel ei gilydd. Un o'r prif risgiau wrth gynnal gweithgaredd marchnata prawf yw bod newidiadau mewn ffactorau amgylcheddol eraill yn difetha'r canlyniadau.

Rheoli risg

Mae hyn yn cynnwys: asesu'r risgiau; cymryd camau i osgoi digwyddiadau sy'n peri goblygiadau negyddol, cynllunio fel bod cyn lleied o oblygiadau negyddol â phosibl, a manteisio'n llawn ar gyfleoedd os bydd digwyddiadau.

Llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau

Mae gwahaniaeth rhwng llunwyr polisïau (h.y. y rhai sy'n creu polisïau) a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau (h.y. y rhai sy'n penderfynu a ddylai'r polisïau sydd wedi'u creu gael eu rhoi ar waith). Mewn rhai cyd-destunau, gall hwn fod yr un person. Fodd bynnag mewn cyd-destunau llywodraeth gallai'r lluniwr polisïau fod yn was sifil neu'n swyddog llywodraeth leol, a gallai'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau fod yn aelod etholedig (neu'n grŵp o weinidogion neu aelodau etholedig e.e. cabinet, senedd neu gyngor).


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html

Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf

Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf 


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

24 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASMD1.2V3.0

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Sefydliadau polisi cymdeithasol, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol

Cod SOC

3543

Geiriau Allweddol

polisi marchnata cymdeithasol; y rhai sy’n gwneud penderfyniadau; polisi CSR; polisi cynaliadwyedd