Datblygu cynhyrchion a chyfarpar dysgu ym maes marchnata cymdeithasol

URN: INSSMA14
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Cymdeithasol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynhyrchion a chyfarpar dysgu i helpu gweithwyr proffesiynol ym maes marchnata cymdeithasol, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol i gefnogi eu harferion gwaith.  Gall enghreifftiau o gynhyrchion o'r fath gynnwys cyhoeddiadau, fideos, enghreifftiau o feincnodau, gwefannau, adnoddau dysgu, astudiaethau achos, fframweithiau gyrfaoedd, cynlluniau achredu, enghreifftiau o ddisgrifiadau swyddi, ac ati.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli a gweithredu sy'n gyfrifol am ddatblygu cynhyrchion a chyfarpar dysgu er mwyn cefnogi arferion gwaith ym maes marchnata cymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu gwybodaeth a thystiolaeth er mwyn nodi meysydd i ddatblygu cynhyrchion a chyfarpar dysgu mewn arferion marchnata cymdeithasol
  2. ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol er mwyn ceisio eu barn ar y cynhyrchion a'r cyfarpar sydd eu hangen
  3. cytuno ar y cynhyrchion a'r cyfarpar i'w datblygu gydag ymarferwyr marchnata cymdeithasol, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
  4. cyfosod manylebau ar gyfer y cynhyrchion a'r cyfarpar sydd eu hangen
  5. nodi a sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu'r cynhyrchion a'r cyfarpar
  6. nodi a gwerthuso cyfraniad posibl cynhyrchion a chyfarpar er mwyn cynghori arferion ym maes marchnata cymdeithasol
  7. comisiynu'r cynhyrchion a'r cyfarpar yn unol â'r manylebau
  8. sicrhau bod cynhyrchion a chyfarpar yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol, brandio a diogelwch
  9. peilota'r cynhyrchion a'r cyfarpar a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut i'w defnyddio
  10. rhoi'r cynhyrchion a'r cyfarpar gofynnol i weithwyr proffesiynol, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol, gan ystyried eu hanghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
  11. ceisio adborth gan ddefnyddwyr y cynhyrchion a'r cyfarpar mewn cysylltiad â'u harferion
  12. gwerthuso cynhyrchion a chyfarpar er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r manylebau gofynnol
  13. addasu cynhyrchion a chyfarpar i gyd-fynd ag anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau gan weithwyr proffesiynol, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol, lle bo angen
  14. monitro cyfraniadau disgwyliedig cynhyrchion a chyfarpar at wella arferion ymarferwyr marchnata cymdeithasol
  15. cymryd camau priodol mewn ymateb i adborth a gwybodaeth o'ch gweithgareddau monitro a gwerthuso
  16. sicrhau cydymffurfiad
    â’r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a’r polisïau sy’n
    berthnasol i’ch rôl, eich sefydliad a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y wybodaeth a'r dystiolaeth sydd eu hangen i ddatblygu cynhyrchion a chyfarpar dysgu
  2. y dulliau ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol cyfredol a darpar weithwyr, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol
  3. y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
  4. y cynhyrchion a'r cyfarpar i'w datblygu mewn cysylltiad ag arferion marchnata cymdeithasol penodol
  5. sut i gyfosod manylebau ar gyfer y cynhyrchion a'r cyfarpar er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben
  6. yr egwyddorion perthnasol ar gyfer comisiynu datblygiad cynhyrchion a chyfarpar.
  7. yr adnoddau ar gyfer darparu cynhyrchion a datblygu cyfarpar
  8. yr egwyddorion o gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol, brandio a diogelwch ar gyfer cynhyrchion a chyfarpar
  9. sut i beilota cynhyrchion a chyfarpar er mwyn llywio'r penderfyniadau ynghylch sut i'w defnyddio
  10. sut i roi'r cynhyrchion a'r cyfarpar gofynnol i'r gweithwyr proffesiynol, y sefydliadau partner a'r rhanddeiliaid allweddol
  11. y dulliau casglu adborth ar y cynhyrchion a'r cyfarpar
  12. sut i werthuso cynhyrchion a chyfarpar o ran bodloni'r manylebau gofynnol
  13. sut i addasu cynhyrchion a chyfarpar i gyd-fynd ag anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau gan y gweithwyr proffesiynol, y sefydliadau partner a'r rhanddeiliaid allweddol
  14. y camau priodol mewn ymateb i adborth a gwybodaeth o weithgareddau monitro a gwerthuso
  15. y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Rhanddeiliaid

Mae'r rhain yn cynnwys pawb sydd â diddordeb mewn gwella effeithiolrwydd marchnata cymdeithasol.

Gweithiwr proffesiynol ym maes marchnata cymdeithasol

Mae hyn yn cynnwys pawb sy'n gwneud gwaith sy'n cyfrannu at brif ddiben marchnata cymdeithasol sef "defnyddio marchnata ochr yn ochr â chysyniadau a thechnegau eraill er mwyn dylanwadu ar unigolion, sefydliadau, llunwyr polisïau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i fabwysiadu a chynnal ymddygiad sy'n gwella bywydau pobl". Gall rhai gweithwyr marchnata cymdeithasol proffesiynol fod yn cyflawni swyddogaethau marchnata cymdeithasol fel rhan fach yn unig mewn rôl lawer ehangach.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Cymwyseddau
Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a’i gymeradwyo gan y
Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol 

Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html

Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf

Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

24 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASME1.4V3.0

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Sefydliadau polisi cymdeithasol

Cod SOC

3543

Geiriau Allweddol

gweithgareddau marchnata cymdeithasol; arferion; hyrwyddo marchnata cymdeithasol; pwysigrwydd marchnata cymdeithasol cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR)