Darparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau i gefnogi rhaglenni marchnata cymdeithasol

URN: INSSMA13
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Cymdeithasol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau i gefnogi rhaglenni marchnata cymdeithasol. Dim ond rhan o'r marchnata cymdeithasol cymysg sy'n ofynnol i elwa'n llawn ar newid ymddygiad yw'r cynhyrchion a'r gwasanaethau.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n gyfrifol am gyflwyno cynhyrchion, gwasanaethau a systemau er mwyn cefnogi grwpiau targed a sefydliadau i fabwysiadu a chynnal ymddygiad buddiol yn rhan o raglen marchnata cymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi cynhyrchion, gwasanaethau a systemau sy'n gallu cefnogi'r rhaglenni marchnata cymdeithasol
  2. nodi nodweddion y cynhyrchion, y gwasanaethau a'r systemau gofynnol
  3. nodi cynhyrchion, gwasanaethau a systemau fydd yn diwallu anghenion y grwpiau targed
  4. adolygu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol
  5. pennu'r targedau a dangosyddion perfformiad allweddol y cynhyrchion, gwasanaethau a systemau a chytuno arnynt gyda rhanddeiliaid allweddol  

  6. nodi'r angen i ddarparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau

  7. sicrhau bod y cynhyrchion a'r gwasanaethau yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
  8. monitro a gwerthuso cynhyrchion, gwasanaethau a systemau er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion ac amcanion y rhaglen marchnata cymdeithasol.
  9. ceisio cyngor gan randdeiliaid allweddol mewn ymateb i adborth gan grwpiau targed
  10. cymryd camau mewn ymateb i unrhyw gyfleoedd, bygythiadau neu gwynion sy'n dod i'r amlwg gyda'r cynhyrchion, gwasanaethau a systemau  
  11. disgrifio marchnata cymdeithasol i gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a nodi sut mae'n wahanol i ddulliau eraill sy'n dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
  12. dogfennu canlyniadau cynlluniau marchnata cymdeithasol a'u cyflwyno i gydweithwyr, rhanddeiliaid, cymunedau a sefydliadau a grwpiau perthnasol eraill
  13. hysbysu'r rhanddeiliaid allweddol am ddeilliannau perfformiad y cynhyrchion, gwasanaethau a systemau yn rhan o'r rhaglen marchnata cymdeithasol
  14. sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ystod y cynhyrchion a'r gwasanaethau sy'n cefnogi rhaglenni marchnata cymdeithasol
  2. y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
  3. nodweddion sylfaenol y cynhyrchion a'r gwasanaethau
  4. yr anghenion a nodwyd ar gyfer grwpiau targed mewn cysylltiad â darparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau  
  5. yr egwyddorion, y dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
  6. cydymffurfiad y cynhyrchion a'r gwasanaethau â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
  7. sut i gyfosod adborth gan ddefnyddwyr cynhyrchion, gwasanaethau a systemau  
  8. egwyddorion a thechnegau perthnasol monitro a gwerthuso cynhyrchion, gwasanaethau a systemau
  9. y targedau disgwyliedig a'r dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer darparu cynhyrchion, gwasanaethau a systemau
  10. y manylebau gofynnol, disgwyliadau'r defnyddwyr a lefelau bodlonrwydd a dargedir mewn cysylltiad â chynhyrchion, gwasanaethau a systemau
  11. y camau perthnasol i'w cymryd mewn ymateb i gyfleoedd, bygythiadau neu broblemau sy'n dod i'r amlwg gyda'r cynhyrchion gwasanaethau a systemau
  12. sut i ddogfennu canlyniadau cynlluniau marchnata cymdeithasol a'u cyflwyno i gydweithwyr, rhanddeiliaid, cymunedau ac unrhyw sefydliadau neu grwpiau perthnasol eraill
  13. manteision marchnata cymdeithasol mewn cysylltiad â dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
  14. y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ymddygiad buddiol

Mae hyn yn golygu ymddygiad lle mae cydbwysedd y dystiolaeth yn dangos y gallai wella bywydau pobl.

Rhaglen marchnata cymdeithasol

Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.

Rhanddeiliaid

Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.

Partneriaid

Cydnabyddir bod rhaglenni marchnata cymdeithasol fel arfer yn cynnwys nifer o sefydliadau “partner” yn cydweithio’n agos.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html

Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf

Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

24 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASMD2.1V3.0

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Sefydliadau polisi cymdeithasol, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol

Cod SOC

3543

Geiriau Allweddol

ymddygiad buddiol; cynaliadwyedd; cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR); ymddygiad buddiol; rhaglen marchnata cymdeithasol; mabwysiadu