Myfyrio ar egwyddorion arferion gorau ym maes marchnata cymdeithasol, eu datblygu a’u cymhwyso

URN: INSSMA09
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Cymdeithasol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â myfyrio ar egwyddorion arferion gorau ym maes marchnata cymdeithasol, eu datblygu a'u cymhwyso, drwy eich wybodaeth am egwyddorion, damcaniaethau a thechnegau marchnata craidd er mwyn adolygu eich ymarfer eich yn hun yn sector a'u gwella.

Mae'r safon hon ar gyfer eich arferion proffesiynol ym mhob un o'r camau cynllunio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso ac mewn amrywiaeth o weithgareddau marchnata cymdeithasol eraill. Mae'n bwysig dilyn y côd moesegol sy'n mynd i'r afael ag elfennau pwysig o'r fath megis bod yn ddi-duedd, parch, cynhwysedd, amrywiaeth, tegwch, tryloywder, dyletswydd a gofal, a gwasanaethau er lles y cyhoedd.

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n myfyrio ar eu harferion, yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau, ac yn defnyddio egwyddorion arferion gorau yn eu gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. diffinio diben a manteision marchnata cymdeithasol mewn cysylltiad â dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
  2. nodi'r cysyniadau, egwyddorion, damcaniaethau a dulliau ymchwil craidd mewn cysylltiad â dylanwadau ar newid cymdeithasol
  3. datblygu eich dealltwriaeth o gysyniadau ac egwyddorion craidd marchnata cymdeithasol a'u cymhwyso yng nghyd-destun rhaglenni marchnata cymdeithasol
  4. nodi'r patrymau a'r datblygiadau cyfredol ac sy'n dod i'r amlwg ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes marchnata cymdeithasol
  5. mabwysiadu'r dull perthnasol yn unol ag arferion gorau ym maes marchnata cymdeithasol
  6. defnyddio cyfarpar sy'n seiliedig ar dystiolaeth i greu strategaethau marchnata cymdeithasol cymysg er mwyn dylanwadu ar newid ymddygiad
  7. cyfosod argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'u defnyddio i lywio arferion marchnata cymdeithasol
  8. cymhwyso egwyddorion moesegol wrth gynnal ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni marchnata cymdeithasol
  9. cymhwyso gwybodaeth, sgiliau ac egwyddorion arferion gorau mewn cysylltiad â gweithgareddau marchnata cymdeithasol
  10. nodi eich gwybodaeth, sgiliau ac arferion ym maes marchnata cymdeithasol a myfyrio arnynt yn feirniadol
  11. manteisio ar y cyfleoedd datblygu sydd eu hangen i gadw eich gwybodaeth, sgiliau ac arferion yn gyfredol
  12. asesu pa mor effeithiol mae'r cyfleoedd datblygu wedi bod wrth wella eich arferion
  13. myfyrio ar eich arferion yn barhaus a'u hadolygu yn seiliedig ar ddatblygiadau mewn damcaniaethau, cysyniadau, modelau a chyfarpar sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  14. rhannu tystiolaeth o arferion effeithiol ag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes marchnata cymdeithasol
  15. ceisio adborth gan gydweithwyr, partneriaid neu randdeiliaid er mwyn myfyrio ar eich perfformiad a'i werthuso
  16. sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben a manteision marchnata cymdeithasol mewn cysylltiad â dylanwadu ar ymddygiadau a newid cymdeithasol
  2. cysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau craidd marchnata cymdeithasol
  3. y patrymau a'r datblygiadau cyfredol ac sy'n dod i'r amlwg ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes marchnata cymdeithasol
  4. sut i fabwysiadu'r dull perthnasol yn unol ag arferion gorau ym maes marchnata cymdeithasol
  5. yr amrywiaeth o gyfarpar sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer creu strategaeth marchnata cymdeithasol cymysg er mwyn dylanwadu ar newid ymddygiad
  6. yr argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer llywio arferion marchnata cymdeithasol
  7. yr egwyddorion moesegol, y cysyniadau, y damcaniaethau a'r technegau mewn cysylltiad ag ymchwil a datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni marchnata cymdeithasol
  8. y wybodaeth, y sgiliau a'r egwyddorion arferion gorau mewn cysylltiad â gweithgareddau marchnata cymdeithasol
  9. sut i nodi eich gwybodaeth, sgiliau ac arferion ym maes cymdeithasol a myfyrio arnynt yn feirniadol
  10. sut i asesu'r cyfleoedd datblygu er mwyn gwella eich arferion, gwybodaeth a sgiliau
  11. sut i rannu tystiolaeth o arferion effeithiol ag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
  12. sut i gadw eich gwybodaeth, sgiliau ac arferion yn gyfredol
  13. pwysigrwydd myfyrio ar eich arferion yn barhaus a'i adolygu yn seiliedig ar ddatblygiadau mewn damcaniaethau, cysyniadau, modelau a chyfarpar sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  14. eich technegau gwerthuso eich perfformiad eich hun a'r dulliau a ddefnyddir i gael adborth amdano
  15. y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata
Cymdeithasol a ddatblygwyd a’i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata
Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA),
Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). 

https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html

Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf

Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf 


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

24 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASMD4.1V3.0

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Sefydliadau polisi cymdeithasol, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol

Cod SOC

3543

Geiriau Allweddol

ymddygiad buddiol; adolygu; newid; adolygu marchnata cymdeithasol; cynaliadwyedd; cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol; rhaglen marchnata cymdeithasol; arferion da; cymysgedd marchnata cymdeithasol