Datblygu strategaethau cyfathrebu a marchnata eraill er mwyn cefnogi rhaglenni marchnata cymdeithasol

URN: INSSMA08
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Cymdeithasol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu dulliau cyfathrebu a strategaethau marchnata eraill drwy weithgareddau perthnasol er mwyn ategu rhaglenni marchnata cymdeithasol. Mae'n weithgaredd cylchol, gyda sawl elfen yn cael ei hailadrodd, felly nid yw'r meini prawf o reidrwydd mewn trefn gronolegol. Er enghraifft, efallai bydd angen adolygu pob elfen o ymyriadau gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol ar ôl monitro eu heffeithiolrwydd.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n gyfrifol am reoli gweithgareddau mewn cysylltiad â datblygu dulliau cyfathrebu a strategaethau marchnata eraill er mwyn ategu rhaglenni marchnata cymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. creu strategaeth marchnata cymdeithasol integredig a chymysg gan ystyried yr holl gyfarpar a damcaniaethau priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd eu hangen i ddylanwadu ar ymddygiad a ddymunir.
  2. datblygu'r dulliau cyfathrebu a'r holl strategaethau eraill yn unol ag amcanion y rhaglen marchnata cymdeithasol
  3. sicrhau bod y dulliau cyfathrebu perthnasol a gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal yn unol â gwerthoedd ac amcanion y rhaglen
  4. rhoi'r dulliau cyfathrebu a strategaethau perthnasol eraill ar waith, cytuno ar rôl a chyfrifoldebau priodol grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
  5. ymgysylltu â grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol drwy gyfathrebu a gweithgareddau perthnasol eraill a ddiffinnir gan y rhaglen marchnata cymdeithasol
  6. datblygu amrywiaeth y dulliau cyfathrebu a dulliau perthnasol eraill fydd yn hwyluso ymgysylltiad â gwahanol grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
  7. nodi'r prif negeseuon ar gyfer gwahanol grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
  8. sicrhau bod y staff perthnasol yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn unol ag elfennau cyfathrebu a thactegau gweithredu perthnasol eraill
  9. cydlynu dulliau cyfathrebu a gweithgareddau perthnasol eraill yn rhan o'r strategaeth marchnata cymdeithasol
  10. monitro a gwerthuso dulliau cyfathrebu a gweithgareddau perthnasol eraill yn rheolaidd
  11. rheoli dulliau cyfathrebu uniongyrchol ac anuniongyrchol ac ymyriadau perthnasol eraill drwy sgyrsiau anffurfiol, a digwyddiadau a drefnwyd yn arbennig
  12. cymryd camau os na chedwir at ddulliau cyfathrebu ac elfennau marchnata perthnasol eraill neu os na chyflawnir yr amcanion
  13. nodi'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ac ymateb iddynt
  14. cyflwyno canlyniadau'r dulliau cyfathrebu a gweithgareddau perthnasol eraill a ddysgwyd i'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
  15. myfyrio'n feirniadol a phrofi effeithiolrwydd, derbynioldeb a moeseg strategaethau marchnata cymdeithasol posibl gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol, a'u haddasu os oes angen
  16. sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y strategaeth marchnata cymdeithasol integredig a chymysg gan ystyried yr holl gyfarpar a damcaniaethau priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd eu hangen i ddylanwadu ar ymddygiad a ddymunir.
  2. y dulliau cyfathrebu a'r gweithgareddau perthnasol eraill a'r amcanion cysylltiedig mewn perthynas â'r strategaethau marchnata cymdeithasol
  3. y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
  4. yr egwyddorion, y dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
  5. y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
  6. sut i ddatblygu dulliau cyfathrebu a strategaethau perthnasol eraill er mwyn llywio'r rhaglen marchnata cymdeithasol
  7. amrywiaeth y dulliau cyfathrebu a'r mathau eraill o ddulliau, arddull ac iaith y gellir eu defnyddio gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid
  8. y sianelau cyfryngau cymdeithasol perthnasol sy'n hysbysebu ac yn cyfathrebu â grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
  9. y rôl a'r cyfrifoldebau a ddyrennir mewn cysylltiad â chyfathrebu a strategaethau perthnasol eraill
  10. y technegau monitro a gwerthuso perthnasol ar gyfer elfennau cyfathrebu a rhai eraill perthnasol
  11. y dulliau cyfathrebu uniongyrchol ac anuniongyrchol drwy sgyrsiau anffurfiol, a digwyddiadau a drefnwyd yn arbennig
  12. pa gamau i'w cymryd os na chaiff amcanion y rhaglen eu cyflawni neu os na chedwir at elfennau cyfathrebu ac elfennau eraill perthnasol
  13. y gweithdrefnau adrodd perthnasol ar gyfer canlyniadau gweithgareddau cyfathrebu a rhai eraill perthnasol a'r gwersi a ddysgwyd
  14. sut i nodi'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg a'u cyfosod
  15. sut i fyfyrio'n feirniadol a phrofi effeithiolrwydd, derbynioldeb a moeseg strategaethau marchnata cymdeithasol posibl gyda grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
  16. y gofynion cyfreithiol,
    trefniadol, y côd ymarfer a’r polisïau sy’n berthnasol i’ch rôl, eich sefydliad
    a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Rhaglen marchnata cymdeithasol

Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.

Cydnabyddir bod rhaglenni marchnata cymdeithasol fel arfer yn cynnwys nifer o sefydliadau "partner" yn cydweithio'n agos.

Rhanddeiliaid

Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.

Iaith

Mae dau ystyr i hyn: iaith ffurfiol (fel Cymraeg, Saesneg, Wrdw, ac ati) ac iaith anffurfiol (h.y. geirfa, cystrawen a dywediadau priodol i'w defnyddio gyda grŵp targed penodol).

Dulliau cyfathrebu

Mae'r rhain yn cynnwys: geiriau llafar, geiriau printiedig, platfformau a sianelau cyfryngau cymdeithasol, iaith arwyddion, Braille, ac ati.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html

Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf

Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

24 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASMC2.1V3.0

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Sefydliadau polisi cymdeithasol, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol

Cod SOC

3543

Geiriau Allweddol

marchnata cymdeithasol; rhaglenni marchnata cymdeithasol; cyfathrebiadau marchnata cymdeithasol; cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol