Datblygu cynigion marchnata cymdeithasol a phrofi eu potensial er mwyn dylanwadu ar ymddygiad grwpiau targed
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynigion marchnata cymdeithasol, eu profi gyda samplau cynrychioladol o'r grwpiau targed a ddiffiniwyd a gwerthuso eu gallu i ddylanwadu ar ymddygiadau, gan gynnwys credoau, gwerthoedd ac agweddau sylfaenol. Mae'n cynnwys amrediad eang o weithgareddau, fel cyflwyno cynigion i grwpiau ffocws neu dreialu cymysgedd o gynigion mewn ardal ddaearyddol.
Mae'r safon hon ar gyfer ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n gyfrifol am ddatblygu cynigion marchnata cymdeithasol a phrofi eu gallu i ddylanwadu ar ymddygiad y grwpiau targed.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol ac ymgysylltu â nhw er mwyn datblygu a phrofi cynigion marchnata cymdeithasol
- sefydlu diben, cwmpas, meini prawf, fformatau ac amserlen ar gyfer cynigion marchnata cymdeithasol, eu profi a chytuno arnynt gyda'r rhanddeiliaid allweddol
- dyrannu'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer datblygu cynigion a'u profi
cynnal asesiad risg er mwyn datblygu cynigion, eu profi, a dyrannu camau lliniaru
datblygu cynigion i'w profi, ar sail y dystiolaeth o ymchwil a dadansoddiad o wybodaeth
- dewis y dulliau a'r systemau ar gyfer mesur gallu'r cynigion i ddylanwadu ar ymddygiad y grwpiau targed
- cydweithio â grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol sy'n gallu bod o gymorth er mwyn cynnal y prawf
- nodi a dewis sampl cynrychioladol o'r grwpiau targed a rhoi'r data gofynnol iddynt
nodi unrhyw ystyriaethau moesegol neu faterion sensitif sy'n gysylltiedig â'r prawf, a chytuno ar sut gellir datrys y rhain a'u trin gyda'r rhanddeiliaid allweddol
cynnal y prawf drwy ddefnyddio'r adnoddau a'r cyfrifoldebau perthnasol
- monitro cynnydd y prawf a chofnodi unrhyw risgiau, ystyriaethau moesegol neu faterion sensitif
- addasu'r prawf mewn ymateb i broblemau neu gyfleoedd sy'n deillio o'r cytundeb gyda'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol
- dod â'r prawf i ben os bydd y data a ddaw i'r amlwg yn awgrymu bod y cynigion yn cael effaith negyddol ar ymddygiad neu elfennau eraill o'r grŵp targed, fel eu hiechyd meddwl
- gwirio'r data a ddaw o'r prawf, gan gymryd camau perthnasol er mwyn mynd i'r afael â data annibynadwy, anghyflawn neu amwys
- gwerthuso'r cynigion a brofwyd yn erbyn y meini prawf y cytunwyd arnynt ac asesu sut maent yn dylanwadu ar ymddygiad y grwpiau targed
- myfyrio'r feirniadol a phrofi effeithiolrwydd, derbynioldeb a moeseg strategaethau marchnata cymdeithasol posibl gyda chynrychiolwyr o gynulleidfaoedd targed a rhanddeiliaid, a'u haddasu lle bo angen
- cyflwyno canlyniadau'r prawf yn y fformat ac ar yr adeg y cytunwyd arno, gan roi manylion y dystiolaeth a'r tybiaethau a wnaed am y canlyniadau
- gwirio gyda'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol bod canlyniadau'r prawf yn bodloni eu gofynion
- sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr egwyddorion, y dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol ar gyfer ymgysylltu â phartneriaid, rhanddeiliaid allweddol a grwpiau targed, gan gynnwys grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd
- y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
- y diben, cwmpas, meini prawf, fformatau a'r amserlen ar gyfer datblygu'r cynigion a phrofi
- sut i liniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r prawf
- y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
- sut i ddatblygu'r cynigion marchnata cymdeithasol er mwyn profi'r dylanwadau ar ymddygiadau'r grwpiau targed
- y dulliau a'r systemau ar gyfer mesur gallu'r cynigion i ddylanwadu ar ymddygiad y grwpiau targed
- y cytundebau partneriaeth ar gyfer hwyluso'r prawf
- Sut i samplu'r grwpiau targed gofynnol a rhoi'r data sydd ei angen ar gyfer profi
- y gofyniad i deilwra'r prawf gan ddibynnu ar y cyfleoedd neu'r problemau sy'n codi
- eich dyletswydd gofal tuag at y grwpiau targed, y partneriaid a'r rhanddeiliaid allweddol
- sut i fynd i'r afael â'r ystyriaethau moesegol neu'r materion sensitif sy'n deillio o brofi'r cynigion
- egwyddorion, dulliau, cyfarpar a thechnegau hysbysu ac adrodd yn ôl
- yr egwyddorion, dulliau, cyfarpar a'r technegau perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnal prawf sy'n ceisio dylanwadu ar ymddygiad y grwpiau targed
- beth i'w wneud gyda data annibynadwy, anghyflawn neu amwys
- sut i asesu effaith a dylanwad y prawf ar ymddygiad y grwpiau targed
- yr egwyddorion, y dulliau, y cyfarpar a'r technegau ar gyfer gwerthuso, dilysu a gwirio
- y gweithdrefnau adrodd ar gyfer y canlyniadau, tystiolaeth ategol, y tybiaethau a gafodd eu gwneud
- sut i wirio gyda'r grwpiau targed, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol bod canlyniadau'r prawf yn bodloni eu gofynion
- y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhanddeiliaid
Yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'u heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys. Y 'rhanddeiliaid allweddol' yw'r rheiny sydd â'r diddordeb mwyaf yn y problemau hyn neu ddylanwad arnynt. Bydd y rhain bob amser yn cynnwys y grwpiau targed neu fuddiolwyr y gweithgaredd marchnata cymdeithasol mewn golwg.
Diben
Dyma'r rheswm pam mae'r prawf yn cael ei gynnal. Cewch hyd i'r diben drwy ofyn: pa benderfyniadau mae canlyniadau'r prawf yn ceisio eu llywio?
Cwmpas
Mae hyn yn cynnwys y grwpiau targed a'r ymddygiadau yr ydych am fynd i'r afael â nhw Gallai cwmpas y prawf fod yn llawer mwy cyfyngedig na chwmpas y nodau marchnata cymdeithasol cyffredinol (er enghraifft, gallai gael ei gynnal mewn ardal benodol a gyda sampl fach o'r grŵp targed).
Adnoddau
Mae'r rhain yn cynnwys: ffisegol (eiddo, cyfarpar, nwyddau traul, ynni); ariannol; dynol (boed am dâl neu'n ddi-dâl, mewnol neu allanol); gwybodaeth.
Risg
Mae hyn yn golygu'r posibilrwydd o ddigwyddiad yn cael ei gynnal a difrifoldeb goblygiadau'r digwyddiad hwn. Nid oes arwyddocâd negyddol yn gysylltiedig â 'risg' o reidrwydd; gall digwyddiad beri goblygiadau cadarnhaol a negyddol fel ei gilydd. Un o'r prif risgiau wrth gynnal gweithgaredd marchnata prawf yw bod newidiadau mewn ffactorau amgylcheddol eraill yn difetha'r canlyniadau.
Rheoli risg
Mae hyn yn cynnwys: asesu'r risgiau; cymryd camau i osgoi digwyddiadau sy'n peri goblygiadau negyddol; cynllunio fel bod cyn lleied o oblygiadau negyddol â phosibl, a manteisio'n llawn ar gyfleoedd os bydd digwyddiadau.
Cynnig
Ystyr hyn yw gwneud cynnig i'r segment a dargedir sy'n rhoi gwobr neu fantais sy'n fwy gwerthfawr na'r gost o newid yr ymddygiad o dan sylw. Gall cynnig fod yn rhan o neges, ond gellir ei fynegi hefyd ar ffurf cynnig gwasanaeth newydd, fel amserau agor mwy hwylus i wasanaeth cymdeithasol.
Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html
Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf
Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf