Dadansoddi, dehongli a chyfosod data a chanfyddiadau ymchwil er mwyn llywio strategaethau marchnata cymdeithasol

URN: INSSMA03
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Cymdeithasol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dadansoddi, dehongli a chyfosod data a chanfyddiadau ymchwil er mwyn llywio strategaethau yng nghyd-destun marchnata cymdeithasol. Gellir cynnal y gweithgaredd hwn ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen marchnata cymdeithasol:

  • ar y dechrau er mwyn diffinio nodau a dulliau strategol;
  • yn ystod y rhaglen er mwyn monitro cynnydd a llywio newidiadau i'r strategaeth; neu;

  • ar y diwedd er mwyn gwerthuso'r canlyniadau, nodi'r gwersi a ddysgwyd a'u rhannu.

Mae'r safon hon ar gyfer ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol mewn swyddi rheoli sy'n dadansoddi, dehongli a chyfosod data a chanfyddiadau ymchwil er mwyn llywio strategaethau marchnata cymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu pwrpas, cwmpas ac adnoddau ar gyfer dehongli a chyfosod y dadansoddiad, a chytuno ar y rhain gyda'r rhanddeiliaid allweddol
  2. y rhanddeiliaid perthnasol, y grwpiau a dargedir, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'r hyn sydd orau ganddynt
  3. cadarnhau'r amserlen a'r fformatau ar gyfer y dadansoddiad a'r dehongliadau i'w cyflwyno
  4. nodi'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer dadansoddi, dehongli a chyfosod
  5. nodi'r data a'r canfyddiadau ymchwil sy'n berthnasol i ddiben y dadansoddiad a chael gafael arnynt
  6. nodi'r dulliau. y cyfarpar a'r technegau ar gyfer dadansoddi, dehongli a chyfosod, a gwerthuso pa mor addas a dibynadwy yw'r rhain
  7. defnyddio'r dulliau, y cyfarpar a'r technegau perthnasol er mwyn dadansoddi'r canfyddiadau ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth o'r meysydd o ddiddordeb a gwybodaeth amdanynt
  8. rhoi dehongliadau o'r dadansoddiad sy'n cofnodi'r wybodaeth a'r meysydd lle na lwyddodd y canfyddiadau ymchwil i gyflawni deilliant
  9. ailadrodd rhwng dadansoddi a dehongli er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r deilliannau ymchwil
  10. ymgysylltu â'r grwpiau targed a'r rhanddeiliaid allweddol er mwyn profi eich dadansoddiad a'ch dehongliadau, gan sicrhau bod y grwpiau agored i niwed ac anodd eu cyrraedd wedi'u cynnwys
  11. dylunio a chynnal dadansoddiad sefyllfaol ac ymchwil ffurfiannol, gan ddefnyddio dulliau cymysg
  12. deall beth sy'n rhwystro neu'n galluogi'r gynulleidfa, yn ogystal â'r gwahanol ymddygiadau a'r hyn sy'n dylanwadu arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol
  13. cymharu eich dehongliadau â'r hyn y mae cydweithwyr wedi'i gynhyrchu mewn meysydd gwaith tebyg
  14. nodi unrhyw anawsterau wrth gynnal y dadansoddiad a chymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain
  15. cofnodi eich dadansoddiad a'ch dehongliadau yn y fformat sy'n hwyluso'r dibenion y cytunwyd arnynt
  16. myfyrio ar eich arferion eich hun o ran ansawdd yr ymchwil a'u gwerthuso
  17. asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â thybiaethau sy'n sail ar gyfer eich dadansoddiad a'ch dehongliadau
  18. cyflwyno eich dadansoddiad a'ch dehongliadau yn y fformat ac o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt, gan barchu cyfrinachedd a sensitifrwydd gwybodaeth
  19. sicrhau cydymffurfiad â'r gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y pwrpas, y cwmpas a'r adnoddau ar gyfer dehongli'r dadansoddiad a chyfosod y rhaglen ymchwil
  2. y patrymau a'r datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd ac sy'n dod i'r amlwg yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol
  3. y fformatau a'r amserlenni perthnasol ar gyfer cyflwyno dadansoddiad a dehongliadau'r ymchwil
  4. yr adnoddau data perthnasol ar gyfer dadansoddi, dehongli a chyfosod
  5. y grwpiau targed, eu diddordebau, anghenion, galluoedd a'u dewisiadau amrywiol
  6. yr egwyddorion, dulliau, cyfarpar a'r technegau ar gyfer dadansoddi, dehongli a chyfosod data a chanfyddiadau ymchwil
  7. sut i gofnodi'r hyn a ddysgir yn y dadansoddiad a'r dehongliadau
  8. y modelau marchnata cymysg sy'n addas ar gyfer marchnata cymdeithasol
  9. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i'r afael ag anawsterau wrth gyfosod, dadansoddi neu ddehongli
  10. pam mae'n bwysig profi'r canlyniadau neu eich dadansoddiad a'ch dehongliadau drwy ymgysylltu a'r grwpiau targed a'r rhanddeiliaid allweddol
  11. sut i drin gwybodaeth sensitif a chyfrinachol a'r gofynion sefydliadol ar gyfer defnyddio gwybodaeth sensitif a chyfrinachol
  12. asesu risgiau'r tybiaethau sy'n sail ar gyfer eich dadansoddiad a'ch dehongliadau
  13. pwysigrwydd myfyrio a gwerthuso er mwyn gwella eich arferion eich hun
  14. y dulliau dilysu a gwerthuso perthnasol o ddehongliadau yn erbyn gofynion y rhaglen
  15. sut i sicrhau bod canfyddiadau'r ymchwil yn cyd-fynd â diben a chwmpas y rhaglen ymchwil
  16. y gweithdrefnau adrodd perthnasol ar gyfer y canfyddiadau ymchwil er mwyn llywio'r strategaethau marchnata cymdeithasol
  17. yr egwyddorion marchnata cymdeithasol, egwyddorion, cysyniadau, damcaniaethau a thechnegau moesegol
  18. y gofynion cyfreithiol, trefniadol, y côd ymarfer a'r polisïau sy'n berthnasol i'ch rôl, eich sefydliad a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Data

Mae hyn yn golygu ffeithiau craidd sydd heb eu dehongli mewn unrhyw ffordd i roi ystyr iddynt.

Canfyddiadau ymchwil

Mae hyn yn golygu troi deilliannau ymchwil yn ddamcaniaethau a thystiolaeth o beth sy'n ysgogi, rhwystro ac yn dylanwadu ar ymddygiadau penodol ymysg y grwpiau targed a ddiffiniwyd. Fel y defnyddir yn y safonau, mae'r "rhaglen marchnata cymdeithasol" yn cwmpasu rhaglenni tymor hwy (3 blynedd), ymgyrchoedd tymor canolig (1-3 blynedd) a chynlluniau tymor byr (<1 flwyddyn) wedi'u targedu.

Dulliau ymchwilio

Gall y rhain fod yn ansoddol (e.e. grwpiau ffocws, cyfweliadau), meintiol (e.e. arbrofion, arolygon), neu gall dyluniad y rhain fod yn gymysg ac yn cyfuno dulliau ansoddol a meintiol fel ei gilydd. Mae dyluniadau sy'n cynnwys dulliau cymysg yn cynnig dull trylwyr o ateb cwestiynau ymchwil i ymchwilwyr.

Diben

Dyma'r rheswm pam mae'r ymchwil yn cael ei chynnal. Cewch hyd i'r diben drwy ofyn: pa benderfyniadau mae'r ymchwil yn ceisio eu llywio?

Cwmpas

Mae hyn yn cynnwys y grwpiau targed a'r ymddygiadau yr ydych am fynd i'r afael â nhw

Adnoddau

Mae hyn yn cynnwys: ffisegol (eiddo, cyfarpar, nwyddau traul, ynni); ariannol; dynol (boed am dâl neu'n ddi-dâl, mewnol neu allanol); gwybodaeth

Rhanddeiliaid

Mae'r rhain yn cynnwys pawb sy'n gysylltiedig â'r strategaeth marchnata cymdeithasol, neu wedi'i heffeithio ganddi, a'r problemau mae'n ceisio'u datrys.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Cymwyseddau Academaidd mewn Marchnata Cymdeithasol a ddatblygwyd a'i gymeradwyo gan y Gymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ryngwladol (iSMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Ewrop (ESMA), Cymdeithas Marchnata Cymdeithasol Awstralia (AASM). https://socialmarketing.blogs.com/rcraiiglefebvres_social/2014/09/academic-competencies-for-social-marketing.html

Datganiad Moeseg Marchnata Cymdeithasol: https://www.instructus-skills.org/documents/SM%20statement%20of%20ethics%20FINAL%2006032020.pdf

Consensws Byd-eang o Egwyddorion, Cysyniadau a Thechnegau Marchnata Cymdeithasol gan ESMA, AAS, SMANA, iSMA: https://europeansocialmarketing.org/wp-content/uploads/2017/08/ESMA-endorsed-Consensus-Principles-and-concepts-paper.pdf 


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

24 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASMA1.4V3.0

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gwasanaeth Cyhoeddus a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig eraill, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Sefydliadau polisi cymdeithasol, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol

Cod SOC

3543

Geiriau Allweddol

ymchwil marchnata cymdeithasol, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR), casglu data, ymddygiadau, ymchwil, strategaeth marchnata cymdeithasol