Cynnig prosesau busnes i gwmnïau allanol

URN: INSML058
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnig prosesau busnes nad ydynt yn rhan o gymwyseddau craidd eich sefydliad i gwmnïau allanol. Rydych chi'n nodi prosesau busnes nad ydynt yn rhai craidd a allai gael eu cynnig i gwmnïau allanol, gan asesu'r manteision a'r risgiau allai ddeillio o hynny i'ch sefydliad. Rydych chi'n paratoi achosion busnes ynghylch cynnig i gwmnïau allanol ac yn cyflwyno'r rhain i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gadarnhau cytundeb. Rydych hefyd yn rheoli'r goblygiadau o ran adnoddau dynol sy'n gysylltiedig â chynnig gwaith i gwmnïau allanol. Mae'r safon yn cynnwys datblygu manyleb i dendro gwerthwyr, gwahodd gwerthwyr i gyflwyno tendrau ac asesu ceisiadau i ddewis y cyflenwr mwyaf addas. Rydych chi'n gweithio gydag arbenigwyr cyfreithiol i drafod contract y gwerthwr ac yn cyfathrebu'r cynlluniau i randdeiliaid mewnol ac allanol. Rydych chi'n gweithio gyda'r gwerthwr i drosglwyddo prosesau busnes, ac yna'n rheoli risgiau a monitro perfformiad yn erbyn y contract.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth wneud penderfyniadau ynghylch cynnig gwaith i gwmnïau allanol a rheoli'r trefniadau hynny
  2. dadansoddi cymwyseddau craidd eich sefydliad a nodi prosesau busnes di-graidd
  3. asesu manteision, costau, anfanteision, risgiau a goblygiadau cyfreithiol a moesegol posibl o gynnig prosesau di-graidd i gwmnïau allanol
  4. cynhyrchu achosion busnes ar gyfer cynnig prosesau di-graidd i gwmnïau allanol
  5. cyflwyno achosion busnes i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chadarnhau camau gweithredu os ydynt yn cytuno ei bod yn werth mynd ar drywydd cynnig y gwaith i gwmnïau allanol
  6. rheoli'r goblygiadau adnoddau dynol o gynnig gwaith i gwmnïau allanol, gan gynnwys unrhyw ddileu swyddi, adleoli, hyfforddi a datblygu, a materion diwylliannol
  7. nodi a gwerthuso darpar werthwyr i gynnig prosesau iddynt
  8. datblygu manyleb o'ch gofynion wrth gynnig gwaith i gwmnïau allanol
  9. gwahodd darpar werthwyr i dendro am waith a gynigir i gwmnïau allanol
  10. asesu tendrau a dderbynnir yn erbyn y manylebau
  11. dewis y gwerthwr sy'n bodloni eich meini prawf orau
  12. trafod contract a gynigir i gwmnïau allanol gyda'r gwerthwr sy'n nodi maint a lefel y gwasanaeth sydd i'w ddarparu, telerau talu
  13. monitro perfformiad y gwerthwr mewn partneriaeth â gwaith gydag arbenigwyr cyfreithiol
  14. cyfathrebu cynlluniau i gynnig gwaith i gwmnïau allanol, a gwneud hynny'n fewnol ac yn allanol yn ôl yr angen
  15. monitro ymatebion staff i gynlluniau i gynnig gwaith i gwmnïau allanol a mynd i'r afael â'u pryderon
  16. datblygu cynllun i drosglwyddo'r prosesau busnes i'r gwerthwr gan gynnwys cynlluniau wrth gefn i reoli risgiau
  17. trosglwyddo'r prosesau busnes i'r gwerthwr, gan fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg
  18. monitro perfformiad parhaus y gwerthwr yn unol â'r contract, gan fynd i'r afael ag unrhyw anghysonderau
  19. adolygu'r trefniant o roi'r gwaith i gwmnïau allanol ar adegau y cytunwyd arnynt ac os bydd newidiadau sylweddol yn yr amgylchedd gweithredu
  20. gwerthuso'r prosesau o gynnig gwaith i gwmnïau allanol i nodi meysydd i'w gwella
  21. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i gynnig prosesau busnes i gwmnïau allanol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid mewn penderfyniadau i gynnig gwaith i gwmnïau allanol a rheoli'r trefniadau hynny

2.      y gwahaniaeth rhwng prosesau busnes craidd a di-graidd

3.      sut i asesu manteision, costau, anfanteision, risgiau a goblygiadau cyfreithiol a moesegol posibl o gynnig prosesau di-graidd i gwmnïau allanol

4.      sut i gyflwyno achos busnes dros gynnig prosesau di-graidd i gwmnïau allanol

5.      rheoli'r goblygiadau posibl o ran adnoddau dynol o gynnig gwaith i gwmnïau allanol, gan gynnwys unrhyw ddileu swyddi, adleoli, hyfforddi a datblygu, a materion diwylliannol

6.      sut i nodi a gwerthuso darpar werthwyr allanol y gallech gynnig y broses iddynt, gan gynnwys defnyddio systemau graddio gwerthwyr

7.      pwysigrwydd gwahodd darpar werthwyr i dendro yn erbyn manyleb o'ch gofynion

8.      sut i asesu a dewis y gwerthwr sy'n bodlonirrpa eich meini prawf orau

9.      y technegau ar gyfer trafod a chytuno ar gontract allanol sy'n rhwymo'n gyfreithiol, a sut i weithio gydag arbenigwyr cyfreithiol

10.  pwysigrwydd contract allanol sy'n rhwymo'n gyfreithiol gyda gwerthwr sy'n nodi'n fanwl faint a lefel y gwasanaeth sydd i'w ddarparu, telerau talu a sut bydd perfformiad y gwerthwr yn cael ei fonitro

11.  pwysigrwydd cyfathrebu, yn fewnol ac yn allanol yn ôl yr angen, y cynlluniau i gynnig gwaith i gwmnïau allanol, a sut i wneud hynny'n glir ac yn effeithiol

12.  sut i fonitro perfformiad gwerthwr yn unol â'r contract, gan fynd i'r afael ag unrhyw anghysonderau yn gyflym ac yn effeithiol

13.  pwysigrwydd gweithio'n agos gyda'r gwerthwr i drosglwyddo'r broses fusnes iddynt, a sut i wneud hyn

14.  sut i nodi risgiau posibl a materion sy'n dod i'r amlwg wrth drosglwyddo'r broses fusnes a sut i'w datrys

15.  pwysigrwydd adolygu'r trefniant i gynnig gwaith i gwmnïau allanol ar adegau y cytunwyd arnynt ac os bydd newidiadau o bwys yn yr amgylchedd busnes

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

16.  gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer cynnig prosesau busnes i gwmnïau allanol

17.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i gynnig prosesau busnes i gwmnïau allanol

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

18.  yr unigolion ym maes eich gwaith, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial

19.  prosesau busnes craidd a di-graidd eich sefydliad

20.  gweithdrefnau eich sefydliad a gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer gwahodd tendrau i gyflenwi eich gofynion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Dadansoddi
  2. Asesu
  3. Cyfathrebu
  4. Gwneud penderfyniadau
  5. Gwerthuso
  6. Monitro
  7. Cyd-drafod
  8. Argyhoeddi
  9. Cyflwyno gwybodaeth
  10. Cwestiynu
  11. Adolygu
  12. Rheoli risg
  13. Meddwl yn strategol

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LED4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; cynnig gwaith yn allanol; prosesau busnes