Cynnal archwiliadau ansawdd a chymryd rhan ynddynt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal archwiliadau ansawdd a chymryd rhan ynddynt. Rydych chi'n rheoli rhaglen o archwiliadau ansawdd i wneud yn siŵr bod pobl yn cydymffurfio â system ansawdd a gweithdrefnau eich sefydliad. Rydych chi'n cynnal archwiliadau ansawdd yn rhan o system rheoli ansawdd ffurfiol. Rydych hefyd yn paratoi ar gyfer archwiliadau ansawdd o faes eich cyfrifoldeb ac yn cymryd rhan ynddynt ac yn cymryd camau i wella prosesau, safonau ansawdd neu weithdrefnau busnes.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli a chynnal archwiliadau ansawdd
1. cynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid wrth archwilio cydymffurfiaeth â systemau ansawdd eich sefydliad
2. sefydlu cwmpas ac amcanion archwiliadau ansawdd
3. gwerthuso'r risgiau os na fydd prosesau sefydliadol yn cydymffurfio â systemau ansawdd
4. cynllunio rhaglenni archwiliadau ansawdd sy'n blaenoriaethu'r meysydd a'r prosesau sydd fwyaf o dan fygythiad
5. datblygu, cefnogi a goruchwylio pobl i gynnal rhaglenni archwilio
6. dyrannu archwiliadau i bobl, yn seiliedig ar eu harbenigedd a'u hanghenion datblygu
7. gwneud yn siŵr bod cydweithwyr sy'n gyfrifol am brosesau sefydliadol yn deall eu rolau mewn archwiliadau ansawdd, a gofynion systemau a gweithdrefnau ansawdd
8. monitro cynnydd archwiliadau ansawdd yn erbyn rhaglenni a gynlluniwyd
9. adolygu gweithgareddau archwilio os bydd amrywiadau neu newidiadau o bwys yn y strategaeth sefydliadol, yr asesiad risg neu'r adnoddau sydd ar gael
10. gwerthuso canlyniadau archwiliadau ansawdd a rhoi gwybod i uwch-reolwyr am ddiffyg cydymffurfiaeth a risgiau cysylltiedig yn unol â lefel y brys
11. rhoi adborth i archwilwyr i gynyddu eu hyder a'u hymrwymiad i ansawdd
12. defnyddio canlyniadau archwilio i lywio asesiad risg a rhaglenni archwilio ansawdd yn y dyfodol
13. cynnal archwiliadau o ansawdd yn unol â chynllun ac amserlen y cytunwyd arni, gan roi'r cyfnod rhybudd gofynnol i archwilwyr
14. cynnal archwiliadau ansawdd mewn ffyrdd sy'n cynyddu hyder archwilwyr yn y system ansawdd a'u hymrwymiad i gynnal safonau ansawdd
15. diffinio cwmpas archwiliadau, cyfrifoldebau archwilwyr, y gweithdrefnau ansawdd a hanes archwilio blaenorol
16. egluro diben archwiliadau a rolau, cyfrifoldebau a'r hyn a ddisgwylir gennych chi a'r archwilwyr
17. cynnal ymchwiliad i waith yr archwilwyr mewn modd digon manwl i ddatgelu unrhyw ddiffyg cydymffurfio â gweithdrefnau ansawdd gofynnol
18. annog archwilwyr i gydweithredu'n llawn i gyflawni diben archwiliadau
19. rhannu canlyniadau archwiliadau â'r rhai sy'n cael eu harchwilio
20. cytuno ar gamau i unioni unrhyw ddiffyg cydymffurfio, a'r dyddiad erbyn pryd y dylid cyflawni'r camau
21. gwirio gydag archwilwyr bod camau cywiro wedi'u cyflawni erbyn dyddiadau y cytunwyd arnynt
22. gofyn am gyngor gan eich rheolwr neu arbenigwyr ansawdd os na allwch gytuno ar gamau gweithredu gydag archwilwyr
23. rhoi gwybod i'ch rheolwr neu arbenigwyr ansawdd am unrhyw ddiffyg cydymffurfio sy'n peri risgiau difrifol neu uniongyrchol
24. nodi a dadansoddi unrhyw broblemau gyda phrosesau a gweithdrefnau a chyflwyno eich canfyddiadau ac unrhyw argymhellion
25. cadw cofnodion cyflawn o archwiliadau ansawdd gan roi mynediad i bobl awdurdodedig
26. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli a chynnal archwiliadau ansawdd
Cymryd rhan mewn archwiliadau ansawdd
27. sefydlu'r safonau a'r gweithdrefnau ansawdd sy'n berthnasol i faes eich cyfrifoldeb
28. monitro gwaith i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni safonau ansawdd yn gyson ac yn cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol
29. gwneud yn siŵr bod cofnodion a dogfennaeth yn gyflawn, yn gyfredol ac yn hygyrch
30. gwirio bod unrhyw gamau unioni y cytunwyd arnynt mewn archwiliadau blaenorol wedi'u cwblhau a bod camau wedi'u cymryd ar sail argymhellion, lle bo hynny'n briodol
31. gwneud yn siŵr bod gwybodaeth, cofnodion a dogfennaeth ar gael i'r archwilydd
32. trafod canlyniadau'r archwiliad er mwyn cytuno ar gamau i unioni unrhyw ddiffyg cydymffurfio a'r dyddiad erbyn pryd y dylid cyflawni'r camau.
33. trafod unrhyw feysydd lle gellir gwella prosesau busnes, safonau ansawdd neu weithdrefnau, gyda'r archwilydd
34. creu unrhyw gamau unioni a'u cyflawni erbyn dyddiadau y cytunwyd arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys pobl yn eich sefydliad a rhanddeiliaid eraill wrth archwilio cydymffurfiaeth â systemau ansawdd eich sefydliad
2. yr egwyddorion, y dulliau, yr offer a'r technegau rheoli ansawdd a risg y gellir eu defnyddio a datblygiadau cyfredol mewn arfer gorau
3. sut i flaenoriaethu meysydd a phrosesau sydd fwyaf mewn perygl o beidio â chydymffurfio
4. sut i baratoi rhaglen archwilio ansawdd
5. y cymwyseddau sydd eu hangen ar archwilwyr ansawdd
6. sut i gyfrifo'r adnoddau sydd eu hangen i gyflwyno rhaglen archwilio ansawdd
7. sut i fonitro cynnydd yn erbyn cynlluniau a nodi amrywiadau o bwys
8. sut i roi adborth i archwilwyr mewn ffyrdd sy'n cynyddu eu hyder a'u hymrwymiad i ansawdd
9. sut i gynnal archwiliadau ansawdd a phwysigrwydd gwneud hynny yn unol â chynllun archwilio ac amserlen y cytunwyd arni
10. y gwahanol ffyrdd o gynnal archwiliadau ansawdd mewn ffyrdd sy'n cynyddu hyder archwilwyr yn y system ansawdd a'u hymrwymiad i fodloni a chynnal safonau ansawdd
11. pwysigrwydd rhoi'r cyfnod rhybudd gofynnol i archwilwyr o'ch bwriad i archwilio
12. pwysigrwydd paratoi'n ofalus ar gyfer yr archwiliadau, a sut i wneud hynny
13. sut i gynnal ymchwiliad yn ddigon manwl i ddatgelu unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio
14. sut i benderfynu ar gamau i unioni pob achos o ddiffyg cydymffurfio, erbyn pryd y dylid cyflawni'r camau, a phwysigrwydd cytuno ar hyn gyda'r archwilwyr
15. sut i nodi a dadansoddi problemau cynhenid gyda phrosesau a gweithdrefnau ansawdd a pham mae'n bwysig adrodd ar eich canfyddiad a'ch argymhellion mewn da bryd.
16. pwysigrwydd gwirio gydag archwilwyr bod camau cywiro wedi'u cyflawni erbyn dyddiadau y cytunwyd arnynt, a sut i wneud hynny
17. sut i gadw cofnodion cyflawn o archwiliadau ansawdd a phwysigrwydd gwneud yn siŵr bod eich adroddiadau archwilio ar gael i bobl ag awdurdod
18. sut i nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio sy'n peri risgiau difrifol neu uniongyrchol i weithwyr neu i'r sefydliad, a phwysigrwydd dwyn hyn i sylw eich rheolwr neu arbenigwyr ansawdd yn brydlon
19. sut i fonitro gwaith i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni safonau ansawdd yn gyson ac yn cydymffurfio â gweithdrefnau
20. pwysigrwydd sicrhau bod cofnodion a dogfennaeth yn gyflawn ac yn gyfredol a sut i wneud yn siŵr bod y rhain ar gael i archwilwyr
21. sut i nodi meysydd lle gellir gwella prosesau busnes, systemau ansawdd neu weithdrefnau
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
22. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer rheoli ansawdd ac archwilio
23. y codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli a chynnal archwiliadau ansawdd
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
24. strategaeth, rhanddeiliaid, polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
25. y bobl yn eich sefydliad sy'n gyfrifol am ansawdd a'r systemau ansawdd a ddefnyddir
26. y diwylliant a'r systemau rheoli ansawdd sydd ar waith yn y sefydliad y mae'r archwiliad yn cael ei gynnal ynddo
27. cwsmeriaid yr archwiliad a'u hanghenion
28. cyfrifoldebau'r archwilwyr a'r gweithdrefnau ansawdd sy'n berthnasol i'w gwaith
29. ffynonellau cyngor, arweiniad a chefnogaeth gan eich rheolwr neu arbenigwyr ansawdd
30. y personél awdurdodedig a ddylai dderbyn eich adroddiadau archwilio
31. y safonau ansawdd a'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i faes eich cyfrifoldeb
32. y cofnodion a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
33. y camau cywiro a'r argymhellion y cytunwyd arnynt mewn archwiliadau blaenorol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Asesu
- Meincnodi
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Dirprwyo
- Gwerthuso
- Rheoli gwybodaeth
- Cyfweld
- Cynnwys gweithwyr
- Monitro
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Cwestiynu
- Adrodd
- Adolygu
- Rheoli risg
- Meddwl yn systematig