Datblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf

URN: INSML050
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Rydych chi'n diffinio gwerthoedd a chredoau eich sefydliad, gan asesu sut rydych chi'n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid ar adegau allweddol. Rydych chi'n paratoi cynlluniau i weithredu dulliau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf, cytuno arnynt â rhanddeiliaid a'u cyfleu i gydweithwyr. Rydych hefyd yn datblygu sgiliau, ymddygiadau ac agweddau gweithwyr sy'n rhoi cwsmeriaid yn gyntaf. Mae'r safon yn cynnwys cydweithredu â sefydliadau eraill, ymgymryd â gweithgareddau ar y cyd â chwsmeriaid a gwneud gwelliannau yn seiliedig ar ddadansoddiad.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. diffinio gwerthoedd a chredoau sefydliadol sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  2. asesu lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid y mae eich sefydliad yn ei rhoi ar hyn o bryd
  3. paratoi cynlluniau i roi cwsmeriaid wrth galon cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol eich sefydliad
  4. cyfleu eich cynlluniau i randdeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol i sicrhau eu bod yn cytuno â'ch dull gweithredu
  5. adolygu prosesau a systemau ar draws y sefydliad i sicrhau eu bod yn rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  6. cyfleu eich cynlluniau i gydweithwyr ar gyfer ymgorffori dulliau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf er mwyn ennill eu hymrwymiad
  7. datblygu sgiliau, ymddygiadau ac agweddau gweithwyr i feithrin diwylliant sy'n rhoi cwsmeriaid yn gyntaf
  8. gweithredu prosesau a systemau sy'n atgyfnerthu ymrwymiad staff i roi gwasanaeth sy'n bodloni disgwyliadau cwsmeriaid neu'n rhagori arnynt
  9. sefydlu partneriaethau gyda sefydliadau eraill i gynnal a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid, lle bo hynny'n briodol
  10. ymgymryd â gweithgareddau ar y cyd â chwsmeriaid i nodi gwelliannau i lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid a roddir gan eich sefydliad
  11. ymddwyn mewn modd sy'n dangos esiampl ac sy'n ysbrydoli gweithwyr i ddangos parch, bod yn gymwynasgar a chydweithio
  12. dadansoddi lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid y mae eich sefydliad yn ei roi ar adegau penodol, yn unol â'ch cynllun
  13. gwella lefel y gwasanaeth y mae eich sefydliad yn ei rhoi i gwsmeriaid yn seiliedig ar ddadansoddiad ac adborth
  14. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddatblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid effeithiol, y ffactorau sy'n gwneud cwsmeriaid yn fodlon

2.      sut i fesur lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael ei rhoi a pham mae'n bwysig

3.      manteision ffurfio partneriaethau â sefydliadau eraill i gynnal gwasanaeth i gwsmeriaid a'i wella

4.      yr arfer gorau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid y tu allan i'ch sector

5.      y technegau ar gyfer datblygu sgiliau, ymddygiadau ac agweddau gweithwyr, a sut i'w cymell i roi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid

6.      sut i ddylunio a rheoli prosesau a systemau sy'n canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

7.      y tueddiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg sy'n debygol o effeithio ar eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau

8.      y datblygiadau ym maes technoleg sy'n cefnogi gwasanaeth i gwsmeriaid

9.      y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddatblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

10.  cynhyrchion a gwasanaethau, gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cysylltiedig eich sefydliad

11.  cwsmeriaid eich sefydliad a'u hanghenion

12.  cryfderau a gwendidau eich sefydliad o ran bodloni cwsmeriaid

13.  sut bydd newid strwythur y farchnad, eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau yn effeithio ar eich cwsmeriaid

14.  gweithgareddau a gwasanaethau'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn neu sefydliadau tebyg, a sut y gallai hyn effeithio ar eich gallu i roi'r cwsmer yn gyntaf


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Creu consensws
  2. Cyfathrebu
  3. Grymuso
  4. Gwerthuso
  5. Arwain
  6. Monitro
  7. Yn ysgogi
  8. Adolygu
  9. Meddwl yn strategol
  10. Meddwl gyda phwyslais ar gwsmeriaid

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LFD1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; datblygu; sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf