Datblygu cynlluniau marchnata a'u rhoi ar waith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau marchnata ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a'u rhoi ar waith. Mae'n cynnwys dealltwriaeth o'ch marchnadoedd a'ch cwsmeriaid trwy gasglu ac adolygu data, ac ymgynghori ag arbenigwyr yn ôl yr angen. Rydych chi'n gwerthuso marchnadoedd a chwsmeriaid cyfredol a phosibl, a sut mae eich sefydliad yn cyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau o gymharu â'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn.
Rydych chi'n ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu cynlluniau marchnata ar gyfer marchnadoedd targed ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad. Rydych chi'n trafod eich cynlluniau a'ch cyllidebau gydag uwch-reolwyr i ennill eu hymrwymiad a sicrhau'r adnoddau sydd eu hangen arnoch chi. Rydych chi'n rhoi eich cynlluniau ar waith, yn briffio'r cydweithwyr perthnasol ac yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth. Mae'r safon hefyd yn cynnwys monitro eich gweithgareddau marchnata ac adrodd ar berfformiad.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu cynlluniau marchnata a'u rhoi ar waith
- nodi a blaenoriaethu amcanion marchnata ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
- gwirio bod amcanion marchnata yn cyd-fynd â chynllun busnes, diwylliant, gweledigaeth a gwerthoedd cyffredinol eich sefydliad
- ystyried anghenion meysydd eraill o'ch sefydliad wrth ddatblygu amcanion marchnata
- cael cyngor a chefnogaeth gan arbenigwyr marchnata a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau marchnata, yn ôl yr angen
- ymgysylltu â chydweithwyr yn eich sefydliad a rhanddeiliaid i ddatblygu dealltwriaeth o'ch marchnadoedd a'ch cwsmeriaid
- adolygu'r data a'r wybodaeth sydd ar gael am gwsmeriaid
- adolygu'r data a'r wybodaeth sydd ar gael am eich marchnadoedd
- cynnal ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth o farchnadoedd a chwsmeriaid eich sefydliad
- gwerthuso gwybodaeth am farchnadoedd cyfredol a phosibl ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau i nodi'r nodweddion sy'n gwahaniaethu segmentau'r farchnad
- gwerthuso cwsmeriaid cyfredol a darpar gwsmeriaid i nodi eu hymddygiad, eu hanghenion a'u disgwyliadau
- gwerthuso i ba raddau mae cynhyrchion a disgwyliadau a gwasanaethau eich sefydliad neu rywun sy'n cystadlu yn eich erbyn yn diwallu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid
- gwerthuso datblygiadau cyfredol a phosibl yn eich sector, gan gynnwys gweithgareddau'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
- gwerthuso cyfleoedd i fynd i roi cynnig ar farchnadoedd newydd
- asesu'r cyfleoedd i gyflwyno arloesiadau sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid
- sefydlu pam mae cwsmeriaid yn dewis cynhyrchion a gwasanaethau penodol, naill ai sefydliadau gan eich sefydliad neu gan y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
- nodi unrhyw fygythiadau i gynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad, a gwendidau ynddynt
- rhoi data a gwybodaeth am farchnadoedd a chwsmeriaid i helpu rheolwyr i wneud penderfyniadau
- datblygu cynlluniau marchnata a chyllidebau ar gyfer cyflawni'r strategaethau, gan nodi camau gweithredu, risgiau, cynlluniau wrth gefn, cyfrifoldebau a cherrig milltir clir
- trafod cynlluniau marchnata a chyllidebau gydag uwch-reolwyr a rhanddeiliaid
- cadarnhau ymrwymiad uwch-reolwyr a rhanddeiliaid i'ch cynlluniau marchnata a darparu'r gweithwyr a'r adnoddau angenrheidiol
- nodi'r gweithwyr a'r adnoddau eraill sydd eu hangen ar gyfer eich cynlluniau marchnata a chael gafael arnynt
- cyfleu eich cynlluniau marchnata i sicrhau dealltwriaeth ac ymrwymiad cydweithwyr a chefnogaeth rhanddeiliaid
- sicrhau bod y rhai sy'n ymwneud â gweithredu cynlluniau marchnata yn deall eu cyfrifoldebau unigol ac wedi ymrwymo i gyflawni amcanion
- rhoi hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth i alluogi cydweithwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau
- rhoi cynlluniau marchnata ar waith fel y cytunwyd, wrth ymateb yn hyblyg i ymatebion gan gwsmeriaid a newidiadau yn y marchnadoedd, gan gynnwys gweithgareddau'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn
- monitro sut y rhoddir eich cynllun marchnata ar waith a'i berfformiad yn erbyn cerrig milltir a chyllidebau
- gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw amrywiadau o bwys mewn perfformiad yn erbyn y cynllun
- adrodd ar berfformiad eich cynlluniau marchnata i uwch-reolwyr a rhanddeiliaid
- gofyn am yr awdurdod i wneud unrhyw newidiadau sylweddol i gynlluniau marchnata, lle bo angen
- gwerthuso sut y rhoddir eich cynlluniau marchnata ar waith a defnyddio'r wybodaeth i wella cynllunio marchnata yn y dyfodol
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i ddatblygu cynlluniau marchnata a'u rhoi ar waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys gweithwyr yn eich sefydliad a'ch rhanddeiliaid wrth ddatblygu cynlluniau marchnata a'u rhoi ar waith
2. sut i nodi, datblygu a blaenoriaethu amcanion marchnata ar gyfer maes eich cyfrifoldeb sy'n cyd-fynd â chynllun busnes cyffredinol eich sefydliad
3. pwysigrwydd cael cyngor a chefnogaeth gan arbenigwyr marchnata a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau, yn ôl yr angen
4. sut i gynnwys cydweithwyr yn eich sefydliad a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu dealltwriaeth o'ch marchnadoedd a'ch cwsmeriaid
5. lle gallwch gael gwybodaeth am eich cwsmeriaid a'r farchnad yn ogystal â manteision ac anfanteision gwahanol ffynonellau
6. sut y gallwch gael gwybodaeth am y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn neu sefydliadau tebyg
7. sut i asesu ffynonellau gwybodaeth am eich cwsmeriaid a'r farchnad i weld pa mor addas yw'r ffynonellau hyn i'w defnyddio
8. ffynonellau arbenigedd ymchwil am y farchnad broffesiynol
9. y dulliau o gael adborth gan gwsmeriaid, a'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â nhw
10. sut i ddadansoddi, mesur ac asesu data a'i droi yn wybodaeth sy'n addas at ddibenion busnes
11. sut y gall cynhyrchion meddalwedd gwybodaeth eich helpu i gasglu a dadansoddi gwybodaeth
12. yr egwyddor bod cwsmeriaid yn prynu cynhyrchion a gwasanaethau i gael y manteision maen nhw'n eu rhoi iddyn nhw
13. yr egwyddor o geisio sicrhau mantais gystadleuol fel y bydd yn well gan fwy o gwsmeriaid gynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad
14. sut i nodi a thargedu marchnadoedd trwy ddatblygu strategaethau priodol ar gyfer cyflawni amcanion marchnata
15. sut i ddatblygu cynlluniau marchnata a chyllidebau ar gyfer cyflawni'r strategaethau, gan nodi camau gweithredu clir, atebolrwydd a cherrig milltir a phwysigrwydd cytuno ar y rhain
16. sut i nodi a chael gafael ar yr adnoddau a'r galluoedd sy'n ofynnol ar gyfer eich cynlluniau
17. pwysigrwydd cyfleu cynlluniau i weithwyr a sicrhau dealltwriaeth ac ymrwymiad, a sut i wneud hynny'n effeithiol
18. pwysigrwydd sicrhau ymrwymiad uwch-reolwyr a rhanddeiliaid eraill i'ch cynlluniau marchnata, a sut i wneud hynny'n effeithiol
19. sut i nodi a darparu'r hyfforddiant, y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth sydd eu hangen ar weithwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau marchnata
20. sut i fonitro ac adrodd ar berfformiad cynlluniau yn erbyn cerrig milltir a chyllidebau a sut caiff y rhain eu rhoi ar waith
21. pwysigrwydd cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw amrywiadau o bwys mewn perfformiad yn erbyn y cynllun, a sut i wneud hynny'n effeithiol
22. pwysigrwydd nodi ffyrdd posibl o wella cynllunio marchnata yn y dyfodol
23. sut i baratoi mesurau a dulliau a'u rhoi ar waith er mwyn gwerthuso datblygiad a cynlluniau marchnata a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
24. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu cynlluniau marchnata a'u rhoi ar waith
25. y codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i ddatblygu cynlluniau marchnata a'u rhoi ar waith
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
26. cynllun busnes cyffredinol eich sefydliadau sy'n berthnasol i faes eich cyfrifoldeb
27. ffynonellau cyngor a chefnogaeth arbenigwyr marchnata a darparwyr gwasanaethau marchnata
28. cynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad, eu nodweddion a'u manteision posibl
29. sylfaen cwsmeriaid eich sefydliad ar hyn o bryd a'r cwsmeriaid y gallech eu cael yn y dyfodol
30. y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
31. yr adnoddau a'r galluoedd sefydliadol sydd ar gael i gefnogi eich cynlluniau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Dadansoddi
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Gwneud penderfyniadau
- Darogan
- Cynnwys eraill
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Gosod amcanion
- Meddwl yn greadigol
- Meddwl yn strategol
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Dirprwyo
- Gwerthuso
- Cynnwys eraill
- Monitro
- Yn ysgogi
- Cael adborth
- Cyflwyno gwybodaeth
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Cwestiynu
- Adrodd
- Meddwl gyda phwyslais ar gwsmeriaid
- Rheoli amser