Gweithredu cynlluniau busnes strategol a gweithredol a'u gwerthuso

URN: INSML043
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cynlluniau busnes ar waith a'u gwerthuso. Rydych yn rhoi cynlluniau busnes strategol a gweithredol ar waith trwy ymgysylltu a dirprwyo gwaith i gydweithwyr, monitro cynnydd ac addasu cynlluniau, pan fo angen. Rydych hefyd yn gwerthuso i ba raddau y mae amcanion strategol a gweithredol wedi'u cyflawni, gan ddysgu gwersi, dathlu llwyddiant a chydnabod cyfraniadau gweithwyr.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfleu eich cynllun busnes strategol i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol i ennyn eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth
  2. dirprwyo cyfrifoldebau am gyflawni amcanion strategol i unigolion a sicrhau eu hymrwymiad i'w cyflawni
  3. gwerthuso risgiau i gyflawni amcanion strategol a chymryd camau i liniaru risgiau
  4. dangos eich ymrwymiad personol trwy arwain y gwaith o gyflawni amcanion strategol allweddol
  5. adolygu'r cynllun busnes strategol yn rheolaidd, gan ystyried newidiadau o bwys yn yr amgylchedd gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gallu cyflawni amcanion y sefydliad o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
  6. cyfleu cynlluniau gweithredol er mwyn i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eu deall a chael eu cefnogaeth
  7. dirprwyo cyfrifoldebau am gyflawni amcanion gweithredol i unigolion ac ennill eu hymrwymiad i'w cyflawni
  8. rhoi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r amcanion yn eich cynlluniau strategol a gweithredol
  9. dwyn gweithwyr i gyfrif am gyflawni'r amcanion strategol a gweithredol a ddirprwywyd iddynt
  10. defnyddio dulliau a mesurau y cytunwyd arnynt i fonitro sut y rhoddir eich cynlluniau busnes ar waith
  11. rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth er mwyn cyflawni amcanion strategol a gweithredol, pan fo angen
  12. defnyddio dangosyddion a dulliau ar gyfer monitro cynnydd yn erbyn eich cynlluniau busnes ar adegau y cytunwyd arnynt
  13. gwerthuso amrywiadau o'ch cynlluniau busnes a'r rhesymau dros amrywiadau o bwys
  14. gofyn i gydweithwyr egluro amrywiadau a chynnig camau i fynd i'r afael ag amrywiadau o bwys
  15. addasu eich cynlluniau busnes neu sut y defnyddir gweithwyr ac adnoddau i ystyried amrywiadau o bwys, argaeledd gweithwyr ac adnoddau, neu newidiadau yn amgylchedd gweithredu eich sefydliad
  16. rhoi gwybod i gydweithwyr am addasiadau i'ch cynlluniau a'u helpu i wneud newidiadau i'w cynlluniau eu hunain
  17. gwerthuso sut y gweithredir eich cynlluniau busnes i wneud argymhellion sy'n nodi arfer da a meysydd i'w gwella
  18. gwerthuso a chytuno â chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar i ba raddau y mae'r amcanion yn eich cynlluniau busnes strategol a gweithredol wedi'u cyflawni
  19. dathlu cyflawni amcanion strategol a gweithredol a chydnabod cyfraniadau'r rhai sy'n cymryd rhan
  20. dadansoddi'r rhesymau dros unrhyw ddiffygion wrth gyflawni amcanion strategol a gweithredol i lywio sut caiff cynlluniau busnes eu datblygu a'u rhoi ar waith yn y dyfodol
  21. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i weithredu a gwerthuso cynlluniau busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      egwyddorion a dulliau rheoli strategol, gweithredol a chynllunio busnes

2.      sut i ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill

3.      pwysigrwydd cyfleu cynlluniau busnes i weithwyr a sut i wirio eu dealltwriaeth o'r hyn sy'n ofynnol

4.      egwyddorion a dulliau dirprwyo

5.      sut i ddwyn gweithwyr i gyfrif am gyflawni amcanion

6.      sut i asesu risg a'i reoli

7.      pwysigrwydd dangos eich ymrwymiad personol i gynlluniau busnes a sut i wneud hynny

8.      sut i ddefnyddio adnoddau'n effeithiol i gyflawni amcanion

9.      sut i ddatblygu ac addasu'r cynllun ymhellach yng ngoleuni amrywiadau, gan gynnwys adleoli gweithwyr ac adnoddau i roi'r cynllun ar waith

10.  sut i fonitro ac adolygu gweithrediad a pherfformiad yn erbyn cynlluniau strategol a gweithredol

11.  y dangosyddion a'r dulliau ar gyfer mesur cynnydd yn erbyn cynlluniau a gwerthuso sut y rhoddir cynlluniau ar waith

12.  sut i werthuso sut y rhoddir cynlluniau busnes ar waith i nodi a rhannu'r gwersi a ddysgwyd

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

13.  y tueddiadau a'r datblygiadau yn eich diwydiant a'ch sector ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

14.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i weithredu a gwerthuso cynlluniau busnes

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

15.  gweledigaeth, strwythur, strategaeth, diwylliant, rhanddeiliaid allweddol a phrosesau cyfathrebu a busnes eich sefydliad

16.  adborth cwsmeriaid a gwybodaeth ariannol a rheoli arall sy'n llywio cynllunio busnes yn eich sefydliad

17.  y gweithwyr a'r adnoddau sydd ar gael i gyflawni amcanion strategol eich sefydliad

18.  y tueddiadau a'r datblygiadau yn amgylchedd gweithredu eich sefydliad

19.  y bygythiadau i gyflawni gweledigaeth a strategaeth eich sefydliad

20.  y ffyrdd o ddathlu cyflawniad amcanion strategol eich sefydliad

21.  y ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio i fonitro a gwerthuso cynlluniau a'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd a gwneud argymhellion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Dadansoddi
  2. Cyfathrebu
  3. Cyfathrebu
  4. Ymgynghori
  5. Dirprwyo
  6. Gwerthuso
  7. Dylanwadu
  8. Arloesi
  9. Cynnwys cydweithwyr
  10. Arwain
  11. Arwain trwy esiampl
  12. Monitro
  13. Rhwydweithio
  14. Argyhoeddi
  15. Cynllunio
  16. Cyflwyno gwybodaeth
  17. Blaenoriaethu
  18. Datrys problemau
  19. Rhoi adborth
  20. Myfyrio
  21. Adolygu
  22. Rheoli risg
  23. Gosod amcanion
  24. Meddwl yn strategol

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LFA1, CFAM&LFA2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; gwerthuso; strategol; cynlluniau busnes