Nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol

URN: INSML035
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi a chyfiawnhau'r adnoddau ariannol sy'n ofynnol er mwyn cyflawni amcanion sefydliadol. Rydych chi'n nodi'r adnoddau ariannol sy'n ofynnol, gan eu cyfiawnhau yn unol â'r amcanion a osodwyd. Rydych chi'n amcangyfrif costau gweithgareddau a gorbenion ar gyfer y dull rydych chi wedi'i ddewis. Rydych chi'n paratoi achos busnes gan gynnwys dulliau, amserlen, costau, risgiau a threfniadau gwerthuso ac yn gofyn am sêl bendith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae'r safon hefyd yn cynnwys cynnig opsiynau amgen yn ôl yr angen a chael adborth ar eich cyflwyniad o'r achos busnes i wella cynigion yn y dyfodol.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau'r amcanion sefydliadol i'w cyflawni
  2. nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid
  3. nodi dulliau o gyflawni amcanion
  4. gwerthuso effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd dulliau o ddewis y dull gorau posibl
  5. amcangyfrif costau'r gweithgareddau a'r gorbenion sy'n ofynnol i gyflawni amcanion trwy'r dull gorau posibl
  6. paratoi'r achos busnes sy'n cyflwyno eich gofynion ar gyfer adnoddau ariannol, gan nodi amcanion a manteision cyflawni'r amcanion hyn
  7. amlinellu'r dull arfaethedig, yr amserlenni ar gyfer gweithgareddau a'r costau sy'n gysylltiedig â'ch achos busnes
  8. cynnal dadansoddiad o'r costau a'r manteision
  9. nodi'r rhagdybiaethau a wnaed, y risgiau a sut bydd y rhain yn cael eu rheoli yn eich achos busnes
  10. amlinellu trefniadau gwerthuso
  11. cynnig unrhyw opsiynau amgen a ystyrir ond a wrthodir fel rhai is-optimaidd i randdeiliaid
  12. paratoi opsiynau amgen ar gyfer cyflawni amcanion, rhag ofn na fydd eich gofynion cyllidebol yn cael eu cymeradwyo
  13. cyflwyno eich achos busnes i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar y gyllideb, gan roi unrhyw wybodaeth neu resymeg bellach sy'n ofynnol
  14. amddiffyn eich achos busnes, gan ennyn cefnogaeth rhanddeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  15. ceisio cymeradwyaeth ar gyfer opsiynau amgen pan na dderbynnir eich achos busnes gwreiddiol ynghylch gofynion cyllideb
  16. cael adborth ar eich cyflwyniad o'r achos busnes gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i helpu i wella cynigion yn y dyfodol
  17. cyfleu'r penderfyniad ar eich gofynion cyllidebol i randdeiliaid, gan esbonio'r rhesymau dros unrhyw newidiadau neu opsiynau amgen a fabwysiadwyd
  18. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i gynnwys rhanddeiliaid wrth nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol

2.      yr egwyddorion a'r dulliau cynllunio adnoddau ariannol sydd ar gael a sut i'w defnyddio

3.      sut i nodi a dewis y dulliau gorau posibl ar gyfer cyflawni amcanion

4.      sut i gyfrifo costau sefydlog ac amrywiol gweithgareddau

5.      pwysigrwydd technegau dadansoddi costau a manteision a sut i'w defnyddio

6.      y gwahanol dechnegau sydd ar gael ar gyfer gwneud penderfyniadau a sut i'w dewis a'u cymhwyso

7.      beth ddylai achos busnes ei gwmpasu a sut i ddatblygu dadleuon argyhoeddiadol dros yr hyn rydych chi'n ei gynnig

8.      sut i gyflwyno a dadlau achos busnes

9.      pwysigrwydd nodi rhagdybiaethau a wneir

10.  sut i nodi risgiau a'u rheoli

11.  y gwahanol dechnegau trafod y gellir eu defnyddio a sut i'w defnyddio

12.  pwysigrwydd datblygu atebion amgen fel sefyllfaoedd wrth gefn

13.  pwysigrwydd cael adborth ar eich cyflwyniad o'r achos busnes a sut i ddefnyddio'r adborth hwn i wella cynigion yn y dyfodol

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

14.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

15.  rhanddeiliaid eich sefydliad, a'u buddiannau a'u hamcanion strategol

16.  yr amcanion rydych chi'n gyfrifol am eu cyflawni

17.  y rolau a'r gweithwyr sydd â chyfrifoldeb cyllidebol yn eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Gweithredu'n bendant
  2. Dadansoddi
  3. Cyfathrebu
  4. Gwneud penderfyniadau
  5. Gwerthuso
  6. Cynnwys cydweithwyr
  7. Cyd-drafod
  8. Cael adborth
  9. Argyhoeddi
  10. Cyflwyno gwybodaeth
  11. Datrys problemau
  12. Rhoi adborth
  13. Myfyrio
  14. Adrodd

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LEA1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; cyllidebau