Rheoli gwrthdaro yn yr amgylchedd gwaith

URN: INSML033
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwrthdaro yn yr amgylchedd gwaith ehangach. Gall y gwrthdaro fod rhwng gwahanol randdeiliaid, cydweithwyr sy'n gweithio ar wahanol lefelau, gweithwyr mewn gwahanol adrannau neu sefydliadau eraill. Rydych chi'n cyfleu prosesau rheoli gwrthdaro a datrys i'r amgylchedd gwaith ehangach, gan nodi gwahaniaethau mewn disgwyliadau i hyrwyddo ffyrdd o reoli sefyllfaoedd. Rydych chi'n cymryd camau ataliol i osgoi effeithiau negyddol gwrthdaro a datrys gwrthdaro pan fyddant yn dod i'r amlwg. Rydych hefyd yn gweithredu fel cyfryngwr ac yn cael gafael ar gefnogaeth gan arbenigwyr yn ôl yr angen.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfleu'r gwahanol fathau o brosesau rheoli gwrthdaro a datrys anghydfodau sydd ar gael i'ch sefydliad
  2. nodi gwahaniaethau mewn disgwyliadau a dulliau gweithio gweithwyr o wahanol gefndiroedd
  3. hyrwyddo ffyrdd o reoli gwahaniaethau sy'n ystyried gwahanol ddisgwyliadau
  4. creu hinsawdd o ymddiriedaeth a pharchu ein gilydd
  5. cymharu sefyllfaoedd anodd o safbwyntiau gwahanol weithwyr i ddeall y gwrthdaro
  6. nodi unrhyw broblemau gyda strwythurau, systemau neu weithdrefnau sefydliadol sy'n debygol o arwain at wrthdaro
  7. datrys unrhyw broblemau gyda strwythurau, systemau neu weithdrefnau sefydliadol sy'n creu gwrthdaro
  8. nodi gwrthdaro posibl ar draws y sefydliad ehangach neu gyda sefydliadau eraill a chymryd camau ataliol i osgoi'r rhain
  9. annog y gweithwyr dan sylw i ddatrys eu problemau a'u gwrthdaro ymysg ei gilydd
  10. cymryd camau i weithredu fel cyfryngwr trydydd parti i ddelio â gwrthdaro pan nad yw'r gweithwyr dan sylw yn gallu datrys y gwrthdaro eu hunain
  11. dangos parch at emosiynau gweithwyr ynglŷn â'r gwrthdaro
  12. rheoli unrhyw emosiynau negyddol sydd gennych chi bobl o dan sylw
  13. ymchwilio i achosion y gwrthdaro, gan roi cyfleoedd i bawb o dan sylw gyflwyno'r ffeithiau a'u canfyddiadau am y gwrthdaro
  14. cytuno ar sut i ddatrys y gwrthdaro gyda phawb o dan sylw, heb roi'r bai ar neb
  15. derbyn cefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr, lle bo angen
  16. cydymffurfio â gofynion sefydliadol a chyfreithiol wrth ddatrys gwrthdaro
  17. cadw cofnodion cyflawn, cywir a chyfrinachol o wrthdaro a'u canlyniadau, yn unol â pholisi sefydliadol
  18. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i reoli gwrthdaro yn yr amgylchedd gwaith ehangach

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      egwyddorion cyfathrebu, rheoli gwrthdaro a datrys anghydfodau a sut i'w cymhwyso

2.      sut i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw faterion gyda strwythurau, systemau neu weithdrefnau sefydliadol a allai greu gwrthdaro

3.      sut y gall cefndiroedd gweithwyr greu gwahaniaethau mewn disgwyliadau a sut i reoli'r gwahaniaethau hyn

4.      pwysigrwydd nodi gwrthdaro posibl ar draws y sefydliad i gymryd camau ataliol i osgoi'r rhain, a sut i wneud hynny

5.      y ffyrdd o ddelio â gwrthdaro pan fyddant yn codi, gan gynnwys pa fathau o gamau y dylid eu cymryd a phryd

6.      proses ac egwyddorion cyfryngu i ddatrys gwrthdaro yn y gwaith

7.      y gwahanol dechnegau datrys gwrthdaro a sut i'w cymhwyso mewn gwahanol sefyllfaoedd

8.      pwysigrwydd cydnabod a pharchu emosiynau gweithwyr ynglŷn â'r gwrthdaro a sut i reoli unrhyw emosiynau negyddol sydd gennych chi eich hun a'ch gweithwyr

9.      sut i nodi achosion y gwrthdaro, aros yn ddiduedd, a rhoi cyfleoedd i bawb o dan sylw gyflwyno'r ffeithiau a'u canfyddiadau am y gwrthdaro

10.  pwysigrwydd nodi a chytuno ag aelodau'r tîm ynglŷn â sut i ddatrys y gwrthdaro, heb roi'r bai ar neb, a sut i wneud hynny

11.  pryd a sut i ofyn am gefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr

12.  sut a pham mae gwrthdaro yn digwydd yn yr amgylchedd gwaith ehangach, rhwng gwahanol randdeiliaid, gwahanol lefelau, gwahanol adrannau neu sefydliadau

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

13.  gofynion a systemau'r diwydiant a'r sector ar gyfer rheoli gwrthdaro

14.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol er mwyn rheoli gwrthdaro yn yr amgylchedd gwaith ehangach

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

15.  diwylliant, safle a rôl hierarchaethau eich sefydliad, a sut mae rolau gwaith yn rhyngwynebu, yn ategu ac yn cefnogi ei gilydd

16.  y strwythurau, y systemau a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n debygol o greu gwrthdaro

17.  y ffynonellau cefnogaeth arbenigol neu allanol sydd ar gael ichi i reoli gwrthdaro

18.  y gofynion sefydliadol a chyfreithiol ar gyfer datrys gwrthdaro a chynnal cofnodion a'u deilliannau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Cyfathrebu
  2. Dangos empathi
  3. Gwerthuso
  4. Rheoli gwybodaeth
  5. Rheoli gwrthdaro
  6. Monitro
  7. Cael adborth
  8. Datrys problemau
  9. Rhoi adborth
  10. Cwestiynu
  11. Adolygu
  12. Rheoli risg
  13. Rheoli Straen
  14. Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LDD5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; rheoli gwrthdaro; amgylchedd gwaith ehangach