Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid

URN: INSML031
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr yn eich sefydliad eich hun, gweithwyr o sefydliadau eraill y mae eich sefydliad yn gweithio gyda nhw, a rhanddeiliaid allanol eraill. Rydych chi'n defnyddio offer a thechnolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys yn y swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt. Rydych chi'n sefydlu perthnasoedd gwaith ac yn parchu rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr a rhanddeiliaid, gan fynd ati i geisio deall eu safbwyntiau. Rydych chi'n nodi ac yn datrys gwrthdaro, yn monitro perthnasoedd gwaith ac yn nodi agweddau y gellir eu gwella. Rydych hefyd yn creu hinsawdd o ymddiriedaeth sy'n rhoi cefnogaeth i symud sefyllfaoedd anodd ymlaen. Mae'r safon yn cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid, cyflawni cytundebau â nhw a datrys gwrthdaro mewn buddiannau. Rydych chi'n monitro datblygiadau ehangach ac yn casglu adborth i werthuso perfformiad perthnasoedd gwaith.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr perthnasol yn eich sefydliad
  2. defnyddio offer a thechnolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys mewn swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt
  3. cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon cydweithwyr
  4. creu hinsawdd o ymddiriedaeth a pharchu eich gilydd lle nad oes gennych awdurdod, nac awdurdod a rennir dros eich cydweithwyr
  5. ystyried sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt cydweithwyr a rhoi cefnogaeth i symud pethau ymlaen
  6. rhoi gwybodaeth briodol i gydweithwyr i'w galluogi i berfformio'n effeithiol
  7. ymgynghori â chydweithwyr ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol, gan ystyried eu barn
  8. cyflawni'r cytundebau a wnaed gyda chydweithwyr
  9. cynghori cydweithwyr ynghylch anawsterau, neu lle nad yw'n bosibl cyflawni cytundebau
  10. nodi gwrthdaro mewn buddiannau ac anghytundebau gyda chydweithwyr a'u datrys mewn ffyrdd sy'n lleihau difrod i weithgareddau gwaith ac i'r unigolion dan sylw
  11. monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr i nodi meysydd i'w gwella
  12. rhoi adborth i wella perfformiad eich cydweithwyr
  13. dadansoddi'r adborth a gawsoch i wella'ch perfformiad eich hun
  14. nodi rhanddeiliaid allanol a natur eu diddordeb yng ngweithgareddau a pherfformiad eich sefydliad
  15. sefydlu perthnasoedd gwaith gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
  16. cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon rhanddeiliaid, yn enwedig mewn sefyllfaoedd o reoli matrics a gofynion eu rheolwyr
  17. gwerthuso sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt rhanddeiliaid
  18. rhoi cefnogaeth, lle bo angen, i symud sefyllfaoedd anodd ymlaen
  19. rhoi gwybodaeth briodol i randdeiliaid i'w galluogi i berfformio'n effeithiol
  20. ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol ac ystyried eu barn, gan gynnwys eu blaenoriaethau, eu disgwyliadau a'u hagweddau at risgiau posibl
  21. cyflawni cytundebau a wneir gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
  22. cynghori rhanddeiliaid yn brydlon ynghylch unrhyw anawsterau neu lle nad yw'n bosibl cyflawni'r cytundebau a wnaed
  23. nodi a datrys gwrthdaro mewn buddiannau ac anghytundebau â rhanddeiliaid mewn ffyrdd sy'n lleihau difrod i weithgareddau gwaith ac i'r rhanddeiliaid dan sylw
  24. monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith gyda rhanddeiliaid i nodi meysydd i'w gwella
  25. casglu adborth i wella eich perfformiad chi a pherfformiad rhanddeiliaid
  26. monitro datblygiadau ehangach i nodi materion o ddiddordeb neu bryder posibl i randdeiliaid yn y dyfodol
  27. nodi rhanddeiliaid newydd i adeiladu perthnasoedd gwaith gyda nhw
  28. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      pwysigrwydd cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon cydweithwyr a rhanddeiliaid

2.      yr offer a'r technolegau perthnasol ar gyfer rheoli gwahanol dimau, gan gynnwys yn y swyddfa, ar wasgar, o bell neu gyfuniad ohonynt

3.      pwysigrwydd creu hinsawdd o ymddiriedaeth a pharchu ei gilydd lle nad oes gennych awdurdod, nac awdurdod a rennir, dros y rhai rydych chi'n gweithio gyda nhw

4.      pwysigrwydd deall sefyllfaoedd anodd a phroblemau o safbwynt cydweithwyr a rhoi cefnogaeth, lle bo angen, i symud pethau ymlaen

5.      sut i nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr a rhanddeiliaid a'u diwallu

6.      y wybodaeth sy'n briodol i'w rhoi i gydweithwyr a rhanddeiliaid a'r ffactorau y mae angen eu hystyried

7.      sut i ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol

8.      pwysigrwydd ystyried barn, a chael eich gweld yn ystyried barn, cydweithwyr a rhanddeiliaid, yn enwedig mewn perthynas â'u blaenoriaethau, eu disgwyliadau a'u hagweddau at risgiau posibl

9.      pam mae cyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch cyflawni cytundebau neu unrhyw broblemau sy'n effeithio ar gyflawniad neu'n ei atal yn bwysig

10.  sut i nodi gwrthdaro mewn buddiannau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a'r technegau y gellir eu defnyddio i'w rheoli neu eu dileu

11.  sut i nodi anghytundebau â chydweithwyr a rhanddeiliaid a'r technegau ar gyfer eu datrys

12.  y difrod y gall gwrthdaro mewn buddiannau ac anghytundebau â chydweithwyr a rhanddeiliaid ei achosi i unigolion a sefydliadau

13.  sut i fonitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid

14.  sut i gael adborth gan gydweithwyr a rhanddeiliaid a gwneud defnydd effeithiol ohono

15.  sut i roi adborth i gydweithwyr a rhanddeiliaid sydd wedi'i gynllunio i wella eu perfformiad

16.  y gwahanol fathau o randdeiliaid ac egwyddorion allweddol sy'n sail i'r cysyniad o 'randdeiliad'

17.  sut i nodi rhanddeiliaid eich sefydliad, gan gynnwys gwybodaeth gefndir, natur eu diddordeb yn eich sefydliad a'u disgwyliadau

18.  sut i gydnabod ac ystyried materion gwleidyddol wrth ddelio â rhanddeiliaid

19.  pwysigrwydd monitro datblygiadau ehangach mewn perthynas â rhanddeiliaid i reoli eu disgwyliadau

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

20.  safonau ymddygiad a pherfformiad yn eich diwydiant a'ch sector

21.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol a sefydliadol sy'n berthnasol i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

22.  y cytundebau sydd ar waith ar hyn o bryd gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a'u hanghenion gwybodaeth a nodwyd

23.  y mecanweithiau ar gyfer ymgynghori a chyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid ar benderfyniadau a gweithgareddau allweddol

24.  y pŵer, y dylanwad a'r wleidyddiaeth o fewn eich sefydliad a'ch diwylliant

25.  y safonau ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir yn eich sefydliad

26.  y mecanweithiau sydd ar waith ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid

27.  y rhanddeiliaid allweddol, eu cefndir a'u buddiannau yng ngweithgareddau a pherfformiad eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Cyfathrebu
  2. Dangos empathi
  3. Rheoli gwybodaeth
  4. Arwain trwy esiampl
  5. Rheoli gwrthdaro
  6. Rhwydweithio
  7. Cael adborth
  8. Blaenoriaethu
  9. Rhoi adborth
  10. Rheoli Straen
  11. Cydbwyso anghenion a buddiannau sy'n cystadlu â'i gilydd
  12. Cyfathrebu
  13. Ymgynghori
  14. Dangos empathi
  15. Rheoli gwybodaeth
  16. Cynnwys cydweithwyr
  17. Arwain
  18. Rheoli gwrthdaro
  19. Monitro
  20. Rhwydweithio
  21. Cael adborth
  22. Cyflwyno gwybodaeth
  23. Blaenoriaethu
  24. Datrys problemau
  25. Rhoi adborth
  26. Adolygu
  27. Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LDD1, CFAM&LDD2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; datblygu; cynnal; perthynas waith gynhyrchiol