Cefnogi dysgu a datblygu gweithwyr

URN: INSML029
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi dysgu a datblygu gweithwyr. Rydych chi'n hyrwyddo diwylliant o ddysgu ac yn annog gweithwyr i ofyn am adborth a dysgu ohono. Rydych chi'n helpu gweithwyr i nodi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd y mae angen iddynt eu datblygu i fodloni gofynion eu rolau gwaith presennol ac yn y dyfodol, ac i gyflawni eu dyheadau personol. Rydych yn cytuno ar gynlluniau datblygu ac yn galluogi gweithwyr i ymgymryd â dysgu a datblygu i gyflawni eu hamcanion. Rydych hefyd yn helpu gweithwyr i nodi'r mathau o weithgaredd dysgu, dulliau a phlatfformau dysgu sydd fwyaf effeithiol ar eu cyfer, gan ddefnyddio cyfleoedd heb eu cynllunio. Mae'r safon yn cynnwys rhoi cyfleoedd i weithwyr gymhwyso eu sgiliau yn y gwaith a'u hannog i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. hyrwyddo manteision dysgu i weithwyr ym maes eich cyfrifoldeb
  2. annog gweithwyr i ofyn am adborth ar eu perfformiad gan gydweithwyr sy'n gallu rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys
  3. rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys i weithwyr ar eu perfformiad gwaith, gan drafod a chytuno ar sut y gallant wella
  4. cytuno gyda gweithwyr ar y wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd sy'n ofynnol i fodloni gofynion eu rolau gwaith presennol a rolau posibl yn y dyfodol
  5. rhoi cyfleoedd ac offer i weithwyr allu gwneud asesiad cywir o lefelau eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd cyfredol yn ogystal â'u potensial
  6. gwerthuso unrhyw wybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ychwanegol, neu uwch, sydd eu hangen ar weithwyr ar gyfer eu rolau gwaith cyfredol, eu rolau gwaith posibl yn y dyfodol a'u dyheadau personol
  7. ennyn diddordeb gweithwyr i nodi a chael gwybodaeth am y gweithgareddau dysgu sydd ar gael i fynd i'r afael ag anghenion dysgu a nodwyd
  8. cytuno ar gynlluniau datblygu personol sy'n cynnwys gweithgareddau dysgu i'w cyflawni, yr amcanion dysgu i'w cyflawni, yr adnoddau a'r amserlenni gofynnol
  9. nodi a gwerthuso unrhyw anawsterau dysgu neu anghenion penodol a allai fod gan weithwyr
  10. cynnig cyfleoedd ac offer er mwyn i weithwyr allu nodi'r mathau o ddysgu sydd fwyaf effeithiol yn eu barn nhw
  11. cynnig gweithgareddau dysgu a datblygu sy'n cyd-fynd â'u dewisiadau dysgu
  12. nodi'r ystod o ddulliau, platfformau a thechnolegau dysgu i weddu i anghenion neu ddewisiadau unigol
  13. annog gweithwyr i ganolbwyntio ar eu hanghenion dysgu wedi'u blaenoriaethu wrth ddewis gweithgareddau dysgu a chynllunio eu datblygiad
  14. trefnu cyngor a chefnogaeth gan arbenigwyr dysgu a datblygu, pan fo angen
  15. cefnogi gweithwyr i ymgymryd â gweithgareddau dysgu, gan wneud yn siŵr bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael
  16. dileu unrhyw rwystrau i ddysgu, os oes angen
  17. cynnig cyfleoedd i weithwyr gymhwyso eu cymwyseddau sy'n datblygu yn y gweithle
  18. nodi a defnyddio cyfleoedd dysgu heb eu cynllunio
  19. trafod cynnydd tuag at gyflawni amcanion dysgu
  20. trafod parodrwydd i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd gyda gweithwyr
  21. cytuno ar y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth y bydd eu hangen ar weithwyr i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd
  22. penodi gweithwyr i rolau a chyfrifoldebau sy'n cyd-fynd â'u cymwyseddau a'u potensial
  23. rhoi'r gefnogaeth a'r oruchwyliaeth sydd eu hangen ar weithwyr
  24. rhoi adborth penodol i alluogi gweithwyr i wella eu perfformiad
  25. trafod a chytuno ar ddiwygiadau i gynlluniau datblygu personol yn seiliedig ar berfformiad, gweithgareddau dysgu yr ymgymerir â nhw ac unrhyw newidiadau ehangach
  26. annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, gan gynnwys ymarfer a myfyrio ar yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu
  27. gwerthuso gweithgareddau dysgu a datblygu i nodi gwelliannau i'r gefnogaeth a roddir yn y dyfodol
  28. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      manteision dysgu i weithwyr a'r ffyrdd y gallwch ddatblygu diwylliant lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi a pharodrwydd ac ymdrechion i ddysgu yn cael eu cydnabod

2.      sut i nodi rolau a chyfrifoldebau posibl gweithwyr yn y dyfodol

3.      sut i roi adborth penodol i weithwyr sydd wedi'i gynllunio i wella eu perfformiad

4.      yr offer sydd ar gael ar gyfer asesu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd

5.      sut i ddadansoddi'r bylchau rhwng y lefelau cyfredol o wybodaeth, sgiliau a chymhwysedd, a'r lefelau sy'n ofynnol

6.      sut i ddatblygu cynlluniau dysgu a datblygu yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn o anghenion dysgu

7.      pam mae'n bwysig bod gan weithwyr gynllun datblygiad personol ysgrifenedig a'r hyn y dylai ei gynnwys (er enghraifft, anghenion dysgu a nodwyd, gweithgareddau dysgu i'w cyflawni a'r amcanion dysgu i'w cyflawni, amserlenni a'r adnoddau gofynnol)

8.      sut i flaenoriaethu anghenion dysgu gweithwyr, gan gynnwys ystyried anghenion a blaenoriaethau sefydliadol, a'r anghenion datblygu personol a gyrfaol

9.      y gwahanol fathau o weithgareddau dysgu, eu manteision a'u hanfanteision a'r adnoddau gofynnol (er enghraifft, amser, ffioedd, staff dirprwyol)

10.  yr ystod o ddulliau, platfformau a thechnolegau ar gyfer dysgu a datblygu

11.  sut a ble i gael gwybodaeth am wahanol weithgareddau dysgu a sut i'w paru â gwahanol ddewisiadau dysgu unigol a chynnwys dysgu.

12.  sut i osod amcanion dysgu sy'n Benodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â therfyn amser (CAMPUS)

13.  y mathau o gefnogaeth y gallai fod eu hangen ar weithwyr i ymgymryd â gweithgareddau dysgu, y mathau o rwystrau y gallent eu hwynebu a sut gellir eu datrys

14.  sut i fonitro a gwerthuso a yw gweithgareddau dysgu wedi cyflawni eu hamcanion dysgu arfaethedig

15.  pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau datblygu personol yn rheolaidd yn seiliedig ar berfformiad, gweithgareddau dysgu yr ymgymerir â hwy ac unrhyw newidiadau ehangach

16.  sut i annog gweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, gan gynnwys myfyrio'n bersonol ar eu perfformiad

17.  ffynonellau arbenigol mewn perthynas â nodi dysgu a'i ddarparu i weithwyr

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

18.  gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd yn ogystal â chynlluniau a threfniadau penodol

19.  y codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol gweithwyr

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

20.  y gweithwyr yn eich tîm, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial

21.  y gofynion gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd ar gyfer gwahanol rolau ym maes eich cyfrifoldeb y bylchau a nodwyd yng ngwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd gweithwyr

22.  yr offer a ddefnyddir yn eich sefydliad i nodi anghenion a dewisiadau dysgu unigol

23.  yr anghenion dysgu a nodwyd ar gyfer y gweithwyr a'u cynlluniau datblygu personol sy'n gysylltiedig â rheoli perfformiad neu arfarnu

24.  y gweithgareddau dysgu a'r adnoddau sydd ar gael yn eich sefydliad

25.  y cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu gyrfaoedd gweithwyr yn eich sefydliad

26.  y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth sydd ar gael i weithwyr yn eich sefydliad

27.  polisi ac arferion dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol eich sefydliad

28.  ffynonellau cyngor a chefnogaeth arbenigol fewnol ac allanol sydd ar gael i chi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Hyfforddi
  2. Cyfathrebu
  3. Gwneud penderfyniadau
  4. Dirprwyo
  5. Dangos empathi
  6. Grymuso
  7. Gwerthuso
  8. Dylanwadu
  9. Ysbrydoledig
  10. Cynnwys eraill
  11. Arwain trwy esiampl
  12. Mentora
  13. Monitro
  14. Yn ysgogi
  15. Argyhoeddi
  16. Cynllunio
  17. Cyflwyno gwybodaeth
  18. Blaenoriaethu
  19. Datrys problemau
  20. Rhoi adborth
  21. Cwestiynu
  22. Adolygu
  23. Gosod amcanion
  24. Meddwl yn strategol
  25. Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LDC1, CFAM&LDC2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; cefnogaeth; dysgu a datblygu