Rheoli cyfathrebiadau tîm

URN: INSML026
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cyfathrebiadau tîm yn eich tîm eich hun a rhwng gwahanol dimau. Mae'n cynnwys cefnogi gweithwyr sy'n gweithio o bell neu mewn gwahanol leoliadau i gyfathrebu a theimlo'n rhan o dîm. Rydych yn cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen ar eich tîm a'r wybodaeth a roddir i dimau mewnol ac allanol. Rydych chi'n dewis y cyfryngau a'r arddulliau cyfathrebu y bydd eich tîm yn eu defnyddio, a'r dulliau sy'n cyd-fynd â gofynion targedau, adnoddau a thechnolegau eich sefydliad. Rydych chi'n monitro cyfathrebu ac yn rhoi cefnogaeth i'ch tîm ar gyfer unrhyw faterion sy'n codi. Mae'r safon hefyd yn cynnwys adolygu'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer timau rhithwir o bell, nodi, datblygu a chynnal offer a phrosesau i gefnogi gwaith. Rydych chi'n rhoi canllawiau ac yn hwyluso cydweithredu, gan annog aelodau'r tîm i rannu gwybodaeth. Rydych hefyd yn gwerthuso effeithiolrwydd cyfathrebiadau tîm er mwyn nodi a chynllunio camau ar gyfer gwella.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen ar eich tîm gennych chi, aelodau eraill y tîm a thimau eraill, a phryd mae ei hangen arnynt
  2. trafod y cyfryngau a'r arddulliau cyfathrebu sydd orau ar gyfer gwahanol weithwyr a sefyllfaoedd yn eich tîm
  3. cytuno ar y wybodaeth y mae angen i'ch tîm ei rhoi i chi, aelodau eraill y tîm a thimau eraill, a phryd y mae angen iddynt ei rhoi
  4. amlinellu pryd y dylai eich tîm drafod eu gwaith a'u problemau gyda chi, aelodau eraill o'r tîm a thimau eraill
  5. dewis y cyfryngau a'r arddulliau cyfathrebu a gaiff eu defnyddio
  6. cytuno ar ddulliau cyfathrebu tîm sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n cyd-fynd â thargedau sefydliadol, a'r adnoddau a'r dechnoleg sydd ar gael
  7. cytuno ar gysylltiadau unigol o fewn y tîm ar gyfer gweithgareddau gwaith penodol
  8. cytuno ar y dulliau cyfathrebu i'w defnyddio mewn amgylchiadau brys neu eithriadol
  9. rhoi gwybodaeth i'ch tîm yn ôl yr angen
  10. monitro bod eich tîm yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, aelodau eraill y tîm a thimau eraill, pan fydd ei hangen arnynt
  11. rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm drafod eu gwaith a phroblemau sy'n codi gyda chi
  12. nodi'r prif heriau cyfathrebu i weithwyr rhithwir o bell gyda rhanddeiliaid
  13. adolygu'r gofynion o ran adnoddau ar gyfer darparu offer a phrosesau cyfathrebu ar gyfer gweithio o bell, rhithwir gyda rhanddeiliaid
  14. nodi, datblygu a chynnal offer a phrosesau effeithiol i gefnogi timau rhithwir o bell
  15. nodi rhwydweithiau, prosesau a systemau sy'n caniatáu i weithwyr gysylltu â gwybodaeth o bell
  16. rhoi canllawiau, hyfforddiant, mentora a chefnogaeth i hwyluso ac annog defnydd effeithiol o offer a phrosesau cyfathrebu
  17. rhoi canllawiau i hwyluso cydweithredu rhyngweithiol rhwng rhanddeiliaid mewnol ac allanol
  18. annog eraill i rannu gwybodaeth o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd
  19. gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm yn deall ac yn cadw at ofynion rheoliadol, proffesiynol a masnachol
  20. datrys problemau rheoli cofnodion sy'n codi o gyfathrebu a gweithio o bell/rhithwir
  21. gwerthuso effeithiolrwydd dulliau cyfathrebu gydag aelodau'r tîm a thimau eraill i nodi gwelliannau
  22. cynllunio gweithredoedd i gynnal neu wella cyfathrebu effeithiol
  23. dilyn codau cyfreithiol, sefydliadol, codau ymarfer a pholisïau sy'n berthnasol i'ch rôl wrth reoli cyfathrebiadau tîm

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      egwyddorion a dulliau cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso

2.      yr ystod o gyfryngau (e.e. wyneb yn wyneb, papur, ffôn, ebost, rhyngrwyd) ac arddulliau cyfathrebu (e.e. ysgrifenedig, llafar, gweledol, arddangos) y gellir eu defnyddio a'u nodweddion, eu manteision a'u buddion

3.      y technolegau sy'n gallu cefnogi cyfathrebu mewn tîm a sut i'w defnyddio

4.      sut i drafod a chytuno ar anghenion cyfathrebu gydag aelodau'r tîm a thimau eraill (mewnol ac allanol)

5.      sut i adolygu effeithiolrwydd dulliau cyfathrebu gydag aelodau'r tîm a thimau eraill (mewnol ac allanol)

6.      pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm drafod eu gwaith a'r problemau sy'n codi, a sut i wneud hynny

7.      yr ystod o offer a thechnegau sydd ar gael i gefnogi gweithio o bell, rhithwir, gan gynnwys atebion wyneb yn wyneb ac sy'n cael eu galluogi gan dechnoleg

8.      sut i alluogi rheoli adnoddau gwybodaeth ar gyfer timau o bell a rhithwir

9.      sut mae rhyngwynebau o bell, rhithwir yn gweithio gyda phrosesau busnes craidd

10.  y problemau o ran rheoli cofnodion a gwybodaeth a allai godi yn sgîl gweithio mewn tîm ac yn rhithwir a sut i'w datrys

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

11.  codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol y diwydiant sy'n berthnasol i'ch rôl chi wrth reoli cyfathrebiadau tîm

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

12.  y mathau o anghenion cyfathrebu sydd gan eich tîm, yn unigol ac ar y cyd, i gyflawni'r amcanion sefydliadol a bennwyd

13.  y timau mewnol ac allanol y mae eich staff yn cyfathrebu â nhw i gael gwybodaeth, gan gynnwys pryd a sut y maent yn cael mynediad ati

14.  pam, sut a phryd mae eich tîm yn rhoi gwybodaeth i dimau eraill ac i'w gilydd

15.  pwysigrwydd derbyn a rhoi gwybodaeth pan fydd ei hangen a'r goblygiadau pan fydd cyfathrebu'n chwalu

16.  arferion gwaith eich sefydliad a sut mae'r rhain yn effeithio ar dimau, timau rhithwir a gweithwyr o bell

17.  y gweithwyr ym maes eich gwaith, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial

18.  gofynion eich sefydliad ar gyfer adrodd a rhoi gwybodaeth

19.  y technolegau a'r adnoddau eraill sydd ar gael yn eich sefydliad sy'n gallu hwyluso cyfathrebu, a'r cryfderau a'r heriau sy'n gysylltiedig â'u defnyddio

20.  aelodau'r tîm y dylid cysylltu â nhw at ddibenion penodol

21.  y mathau o amgylchiadau cyfathrebu brys neu eithriadol a allai godi a sut i ddelio â'r rhain


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Cyfathrebu
  2. Gwneud penderfyniadau
  3. Grymuso
  4. Gwerthuso
  5. Rheoli gwybodaeth
  6. Arloesi
  7. Cynnwys aelodau'r tîm
  8. Monitro
  9. Yn ysgogi
  10. Rhwydweithio
  11. Cael adborth
  12. Datrys problemau
  13. Myfyrio
  14. Adolygu
  15. Adeiladu Tîm
  16. Meddwl yn greadigol
  17. Meddwl yn strategol
  18. Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LDB5, CFAM&LDB6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; rheoli; cyfathrebu; o fewn timau