Rheoli gwaith yn eich tîm a sicrhau ei ansawdd

URN: INSML025
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith yn eich tîm a sicrhau ei ansawdd. Rydych chi'n cynllunio sut bydd amcanion yn cael eu cyflawni trwy ystyried llwythi gwaith presennol a'r sgiliau a'r profiad sydd gan aelodau eich tîm. Rydych yn cytuno ar amcanion unigol ac ansawdd y gwaith sy'n ofynnol, gan wneud yn siŵr bod gweithwyr yn ymrwymo i'w cyflawni. Rydych hefyd yn rhoi adnoddau, cefnogaeth ac adborth er mwyn cynnal perfformiad a'i wella. Mae'r safon yn cynnwys adolygu cynlluniau a chyfleu newidiadau i'r rhai sy'n cael eu heffeithio ganddynt, pan fo angen. Rydych chi'n monitro allbynnau gwaith yn erbyn safonau ansawdd eich sefydliad ac yn cymell eich tîm, gan gydnabod pan maent yn cyflawni amcanion. Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â datrys problemau, anghytundebau neu wrthdaro yn rhan o reoli'r tîm.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfathrebu'r safonau gwaith a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan aelodau'r tîm
  2. helpu aelodau'r tîm i ddeall sut mae rolau gwahanol aelodau'r tîm yn rhyngweithio, yn ategu ac yn cefnogi ei gilydd
  3. cynllunio sut y gellir cyflawni amcanion cyffredinol, gan nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau i'w blaenoriaethu
  4. adolygu llwythi gwaith presennol gweithwyr i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael
  5. dirprwyo cyfrifoldebau i weithwyr yn deg gan ystyried eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u cymhwysedd, eu cefndiroedd a'u profiad
  6. nodi cyfleoedd i ddatblygu gweithwyr
  7. cytuno ar amcanion campus (penodol, mesuradwy, cytunedig, realistig ac â therfyn amser) gyda gweithwyr, gan gynnwys safon y perfformiad a ddisgwylir
  8. cytuno â gweithwyr ynglŷn sut a phryd y bydd cynnydd tuag at amcanion, a'u cyflawni, yn cael ei fonitro, ei adolygu a'i werthuso
  9. gwneud yn siŵr bod gweithwyr wedi ymrwymo i gyflawni eu hamcanion a deall eu cyfraniad unigryw at amcanion y tîm a'r sefydliad
  10. trafod a chytuno ar ddulliau effeithiol ar gyfer cyflawni amcanion unigol a'r adnoddau, y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth sy'n ofynnol
  11. rhoi'r adnoddau, y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth y cytunwyd arnynt i weithwyr
  12. monitro cynnydd yn erbyn amcanion a gwerthuso perfformiad yn erbyn y safon a ddisgwylir ar adegau y cytunwyd arnynt
  13. rhoi adborth adeiladol i weithwyr er mwyn cynnal eu perfformiad a'i wella
  14. nodi unrhyw berfformiad anfoddhaol, trafod yr achosion a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gyda'r gweithwyr dan sylw
  15. cydnabod pan mae amcanion yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus yn unol â pholisi eich sefydliad
  16. adolygu cynlluniau, cyfrifoldebau ac amcanion fel y cytunwyd ac yn dilyn unrhyw newidiadau o bwys i gynlluniau ac amcanion sefydliadol
  17. cyfleu cynlluniau, cyfrifoldebau ac amcanion ac unrhyw newidiadau i'r rhai sy'n cael eu heffeithio arnynt
  18. gwirio ansawdd allbynnau gwaith aelodau'r tîm yn erbyn safon y perfformiad a ddisgwylir
  19. ysgogi aelodau'r tîm i gwblhau'r gwaith a ddyrannwyd iddynt ar amser ac yn unol â'r safon ansawdd sy'n ofynnol
  20. rhoi'r gefnogaeth a'r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar aelodau'r tîm i gwblhau eu gwaith ar amser ac yn unol â'r safon ansawdd sy'n ofynnol
  21. cymell aelodau'r tîm i gynnal eu perfformiad a'i wella'n barhaus
  22. defnyddio gwybodaeth a gasglwyd am berfformiad aelodau'r tîm mewn arfarniadau perfformiad ffurfiol
  23. nodi gwrthdaro posibl rhwng aelodau'r tîm a chymryd camau ataliol i osgoi'r rhain
  24. annog aelodau'r tîm i ddatrys eu problemau a'u gwrthdaro ymysg ei gilydd
  25. rheoli gwrthdaro pan na all aelodau'r tîm dan sylw ddatrys y gwrthdaro eu hunain
  26. cydnabod a pharchu emosiynau aelodau'r tîm ynglŷn â'r gwrthdaro a rheoli unrhyw emosiynau negyddol
  27. ymchwilio i achosion y gwrthdaro, gan roi cyfleoedd i bawb o dan sylw gyflwyno'r ffeithiau a'u canfyddiadau am y gwrthdaro
  28. cytuno ag aelodau'r tîm ynglŷn â sut i ddatrys y gwrthdaro, heb roi'r bai ar neb
  29. derbyn cefnogaeth gan gydweithwyr neu arbenigwyr, lle bo angen
  30. cadw cofnodion cyflawn, cywir a chyfrinachol o wrthdaro a'u canlyniadau, yn unol â pholisi sefydliadol
  31. dilyn codau cyfreithiol, sefydliadol, codau ymarfer a pholisïau'r diwydiant sy'n berthnasol i'ch rôl wrth reoli a gwaith eich tîm a sicrhau ei ansawdd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i gynllunio i gyflawni amcanion, nodi blaenoriaethau a materion hanfodol, a'r dulliau, adnoddau, cefnogaeth a goruchwyliaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni amcanion

2.      sut i ddatblygu amcanion Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â Therfyn Amser (CAMPUS), dirprwyo'n deg ac egluro safonau'r perfformiad sy'n ofynnol gyda gweithwyr

3.      sut i ennill ymrwymiad gweithwyr i'w hamcanion gan gynnwys sut i ddatblygu a chytuno ar gynllun ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso cynnydd unigol a chyflawni amcanion

4.      sut i ystyried gwahaniaethau diwylliannol wrth reoli perfformiad unigol

5.      sut i roi adborth adeiladol i weithwyr er mwyn iddynt gynnal perfformiad a'i wella

6.      pwysigrwydd nodi perfformiad annerbyniol neu wael a mynd i'r afael ag ef, a sut i wneud hynny

7.      pwysigrwydd adolygu amcanion a pherfformiad yn rheolaidd, a sut i wneud hynny

8.      sut i ddewis a chymhwyso gwahanol ddulliau ar gyfer cymell, cefnogi ac annog aelodau'r tîm i gyflawni'r gwaith a ddyrannwyd iddynt a gwella eu perfformiad yn barhaus.

9.      sut i ddewis a chymhwyso gwahanol ddulliau ar gyfer cydnabod cyflawniadau aelodau'r tîm

10.  pwysigrwydd nodi gwrthdaro posibl rhwng aelodau'r tîm, cymryd camau ataliol i osgoi'r rhain, a sut i wneud hynny

11.  pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i aelodau'r tîm drafod problemau difrifol sy'n effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar eu gwaith, a sut i annog aelodau'r tîm i wneud hynny

12.  pwysigrwydd cymryd camau yn ddiymdroi i drafod gwrthdaro a delio ag ef pan fyddant yn codi os na all aelodau'r tîm dan sylw ddatrys y gwrthdaro eu hunain

13.  y ffyrdd o ddelio â gwrthdaro pan fyddant yn codi, pa fathau o gamau y dylid eu cymryd a phryd

14.  pwysigrwydd cydnabod a pharchu emosiynau aelodau'r tîm am y gwrthdaro a sut i reoli unrhyw emosiynau negyddol

15.  sut i aros yn ddiduedd wrth nodi achosion y gwrthdaro, gan roi cyfleoedd i bawb o dan sylw gyflwyno'r ffeithiau a'u canfyddiadau am y gwrthdaro

16.  pwysigrwydd nodi a chytuno ag aelodau'r tîm ynglŷn â sut i ddatrys y gwrthdaro, heb roi'r bai ar neb, a sut i wneud hynny

17.  y gefnogaeth a'r adnoddau ychwanegol y gallai fod eu hangen ar aelodau'r tîm i'w helpu i gwblhau eu gwaith mewn pryd ac yn unol â'r safon ansawdd sy'n ofynnol, a sut i gynorthwyo i ddarparu hyn

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

18.  gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau

19.  deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer penodol y diwydiant a'r sector sy'n ymwneud â rheoli gwaith a sicrhau ei ansawdd

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

20.  y safonau gwaith ac ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau eich tîm

21.  sut i helpu eich tîm i ddeall sut mae rolau gwahanol aelodau'r tîm yn rhyngweithio, yn ategu ac yn cefnogi ei gilydd

22.  y gweithwyr ym maes eich cyfrifoldeb, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial

23.  yr amcanion ar gyfer maes eich cyfrifoldeb

24.  y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a'r adnoddau sydd ar gael i wneud y gwaith gofynnol

25.  safonau ansawdd neu lefel perfformiad disgwyliedig eich sefydliad

26.  polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â pherfformiad gwael

27.  polisïau a gweithdrefnau cwynion a disgyblu eich sefydliad

28.  systemau gwerthuso perfformiad eich sefydliad a pholisïau a gweithdrefnau gwobrwyo

29.  polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol

30.  gofynion eich sefydliad ar gyfer datrys gwrthdaro a chadw cofnodion o wrthdaro a'u deilliannau

31.  y llinellau adrodd yn eich sefydliad a therfynau eich awdurdod


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Gweithredu'n bendant
  2. Cyfathrebu
  3. Gwneud penderfyniadau
  4. Dirprwyo
  5. Grymuso
  6. Gwerthuso
  7. Cynnwys eraill
  8. Arwain
  9. Rheoli gwrthdaro
  10. Monitro
  11. Yn ysgogi
  12. Cynllunio
  13. Cyflwyno gwybodaeth
  14. Blaenoriaethu
  15. Datrys problemau
  16. Rhoi adborth
  17. Adolygu
  18. Gosod amcanion
  19. Adeiladu Tîm
  20. Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LDB4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; rheoli; perfformiad yn y gwaith