Recriwtio, ymsefydlu a chadw gweithwyr yn eu rolau

URN: INSML020
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â recriwtio, ymsefydlu a chadw gweithwyr i ymgymryd â gweithgareddau neu rolau gwaith a nodwyd. Rydych chi'n adolygu'r gwaith sy'n ofynnol i nodi diffygion yn nifer y gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd. Rydych chi'n datblygu disgrifiadau swyddi a manylebau ar gyfer recriwtio. Rydych chi'n cynllunio ac yn recriwtio drwy ddefnyddio meini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer dethol a chnynnig swyddi. Rydych chi'n ymsefydlu staff yn eich sefydliad gan ystyried eu hanghenion amrywiol. Mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i fonitro eu cynnydd ymsefydlu eu hunain. Rydych hefyd yn cadw eich staff trwy roi cyfleoedd parhaus iddynt ddatblygu eu potensial a rhannu unrhyw broblemau er mwyn gallu eu datrys.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth recriwtio, ymsefydlu a chadw staff
  2. ceisio adnoddau arbenigol, lle bo angen
  3. adolygu'r gwaith sy'n ofynnol ym maes eich cyfrifoldeb
  4. nodi unrhyw ddiffygion yn nifer y gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd
  5. gwerthuso'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â diffygion a phenderfynu ar yr opsiynau gorau
  6. datblygu disgrifiadau swydd a manylebau person cyfoes ar gyfer recriwtio
  7. cynllunio'r broses recriwtio a dethol ar gyfer swyddi gwag a nodwyd, y dulliau a ddefnyddir, yr amseriadau o dan sylw a phwy fydd yn cymryd rhan
  8. nodi a chytuno ar feini prawf ar gyfer asesu ymgeiswyr a'u dewis
  9. hysbysu ymgeiswyr am hynt eu ceisiadau, yn unol â pholisi sefydliadol
  10. recriwtio yn unol â'ch cynllun, gan ddefnyddio'r meini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer dethol
  11. cynnig swyddi i ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r meini prawf o ran dethol
  12. rhoi adborth adeiladol i ymgeiswyr aflwyddiannus, yn unol â pholisi sefydliadol
  13. croesawu staff newydd ac egluro eu rolau wrth gyflawni amcanion y sefydliad a'u maes gwaith
  14. sefydlu anghenion gweithwyr o ran eu gwybodaeth am eich sefydliad, polisïau ac arferion sefydliadol, eu rolau gwaith a'r bobl y byddant yn gweithio gyda nhw
  15. nodi'r anghenion dysgu a datblygu i alluogi gweithwyr i gyflawni eu dyletswyddau
  16. darparu rhaglen ymsefydlu i ddiwallu anghenion staff newydd o ran gwybodaeth, dysgu a datblygu
  17. ystyried anghenion gweithwyr wrth ddylunio eu rhaglenni ymsefydlu
  18. cyflwyno gweithwyr i'w cydweithwyr, gan egluro rolau pawb o dan sylw a sut byddant yn rhyngweithio
  19. annog gweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am fonitro eu cynnydd a chwblhau eu rhaglenni ymsefydlu
  20. rhoi cefnogaeth, goruchwyliaeth ac adborth i alluogi gweithwyr i gyflawni eu rolau yn unol â gofynion eich sefydliad
  21. rhoi cyfleoedd gwaith sy'n herio gweithwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymwyseddau'n effeithiol i ddatblygu eu potensial
  22. adolygu perfformiad a datblygiad gweithwyr mewn modd systematig a rhoi adborth adeiladol
  23. cydnabod perfformiad gweithwyr a'u cyflawniadau yn unol â pholisi eich sefydliad
  24. cefnogi gweithwyr i gael mynediad at y cyfleoedd gyrfa a datblygiad proffesiynol yn eich sefydliad
  25. rhoi cyfleoedd i weithwyr drafod problemau sy'n ymwneud â'u gwaith neu eu datblygiad gyda chi
  26. nodi pan fydd gweithwyr yn anfodlon a chytuno ar atebion sy'n diwallu anghenion unigol a sefydliadol
  27. nodi pan fydd gwerthoedd, cymhellion a dyheadau gweithwyr yn mynd yn groes i weledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad a chwilio am atebion amgen gyda'r gweithwyr dan sylw
  28. cwrdd â gweithwyr sy'n bwriadu gadael eich sefydliad a datrys unrhyw broblemau neu gamddealltwriaeth
  29. gwerthuso'r broses recriwtio, ymsefydlu a chadw i nodi unrhyw feysydd i'w gwella
  30. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i recriwtio, ymsefydlu a chadw staff

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i adolygu'r llwyth gwaith yn eich maes i nodi diffygion yn nifer y gweithwyr, eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymhwysedd

2.      sut i nodi sgiliau gwirioneddol ac osgoi stereoteipio lefelau sgiliau a moeseg gwaith

3.      y gwahanol opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â diffygion a nodwyd, yn ogystal â'u manteision a'u hanfanteision

4.      pa ddisgrifiadau swyddi a manylebau person ddylai gael eu cynnwys a pham mae'n bwysig ymgynghori ag eraill wrth eu cynhyrchu neu eu diweddaru

5.      y gwahanol gamau yn y broses recriwtio a dethol

6.      pam mae'n bwysig ymgynghori ag eraill ar y camau a'r dulliau recriwtio a dethol i'w defnyddio, amseriadau o dan sylw a phwy fydd yn cymryd rhan

7.      y gwahanol ddulliau recriwtio a dethol a'u manteision a'u hanfanteision cysylltiedig

8.      pam mae'n bwysig rhoi gwybodaeth glir am swyddi gwag i ddarpar ymgeiswyr

9.      sut y gall gwahaniaethau diwylliannol mewn iaith, iaith y corff, tôn y llais a gwisg fod yn wahanol i ddisgwyliadau a sut i osgoi rhagfarn

10.  sut i fesur cymhwysedd a gallu ymgeiswyr yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt ac asesu a ydynt yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u datgan ar gyfer y swydd wag

11.  pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i ymgeiswyr am gynnydd a sut i wneud hynny

12.  sut i roi adborth clir ac adeiladol i ymgeiswyr aflwyddiannus

13.  diben a phwysigrwydd rhaglen ymsefydlu strwythuredig a'r hyn y dylai rhaglen ymsefydlu ei gwmpasu i ystyried anghenion gweithwyr

14.  sut i annog gweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu cynnydd gan ddefnyddio technegau gwrando a chwestiynu gweithredol

15.  sut a phryd i adolygu cynnydd gweithwyr tuag at gyflawni'r amcanion yn eu rhaglenni ymsefydlu

16.  sut i nodi anghenion y gweithwyr o ran gwybodaeth, dysgu a datblygu

17.  pwysigrwydd cydnabod perfformiad unigol a sut i wneud hynny

18.  pwysigrwydd rhoi cefnogaeth a chyfleoedd i weithwyr drafod problemau gyda chi

19.  yr atebion amgen y gellir eu defnyddio pan fydd gwerthoedd, cymhellion a dyheadau gweithwyr yn mynd yn groes i'w gwaith neu weledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad

20.  pwysigrwydd deall y rhesymau pam mae gweithwyr yn gadael sefydliad

21.  pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd prosesau dethol, ymsefydlu a chadw a'r ffyrdd o gael adborth i nodi meysydd i'w gwella

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

22.  y problemau recriwtio a dethol a mentrau a threfniadau penodol yn y diwydiant a'r sector

23.  yr arferion cyflogaeth perthnasol yn eich sector a'r codau ymarfer a pholisïau cyfreithiol, sefydliadol, mewn perthynas â recriwtio, ymsefydlu a chadw staff

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

24.  amrywiaeth anghenion gweithwyr, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial

25.  y disgrifiadau swyddi a'r manylebau person ar gyfer swyddi gwag a gadarnhawyd

26.  amodau'r farchnad gyflogaeth leol a chyfradd trosiant staff yn eich maes chi

27.  strwythur, gwerthoedd a diwylliant eich sefydliad a'r cynlluniau gweithredol y cytunwyd arnynt, a newidiadau i ofynion gwaith yn eich maes

28.  yr adnoddau arbenigol sydd ar gael i gefnogi recriwtio, ymsefydlu a chadw, a sut i'w defnyddio

29.  y cyfleoedd a'r adnoddau hyfforddi a datblygu sydd ar gael

30.  y polisïau a'r arferion cyfreithiol a chyflogaeth yn eich sefydliad, gan gynnwys recriwtio, dethol, ymsefydlu, datblygu, hyrwyddo, cadw, dileu swyddi, diswyddo, tâl a thelerau ac amodau eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Cyfathrebu
  2. Ymgynghori
  3. Gwneud penderfyniadau
  4. Gwerthuso
  5. Gwerthuso
  6. Rheoli gwybodaeth
  7. Ysbrydoledig
  8. Cyfweld
  9. Cynnwys eraill
  10. Monitro
  11. Cyd-drafod
  12. Cael adborth
  13. Cynllunio
  14. Cyflwyno gwybodaeth
  15. Blaenoriaethu
  16. Datrys problemau
  17. Rhoi adborth
  18. Adolygu
  19. Adeiladu Tîm
  20. Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LDA2, CFAM&LDA3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; recriwtio; dewis; cadw; pobl