Cynllunio'r gweithlu

URN: INSML019
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio'r gweithlu. Rydych chi'n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac arbenigwyr i gynorthwyo gyda chynllunio'r gweithlu. Rydych chi'n gwerthuso strategaeth a chynlluniau eich sefydliad i nodi'r hyn sy'n ofynnol i'w cyflawni. Rydych hefyd yn adolygu'r gweithlu presennol o ran eu gallu i gyflwyno a nodi anghenion dysgu a datblygu. Mae'r safon yn cynnwys gwirio amrywiaeth y gweithlu a datblygu cynlluniau drwy ddefnyddio arbenigwyr mewnol ac allanol. Rydych yn cadarnhau bod contractau cyflogaeth ac adnoddau ar waith i fodloni gofynion eich sefydliad. Rydych hefyd yn cyfathrebu cynlluniau gweithlu ac yn ystyried cynlluniau wrth gefn i ddelio ag amgylchiadau annisgwyl.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol wrth gynllunio gofynion y gweithlu
  2. cadarnhau adnoddau arbenigol i gynorthwyo gyda gweithgareddau cynllunio'r gweithlu, lle bo angen
  3. gwerthuso amcanion a chynlluniau strategol eich sefydliad i gael y wybodaeth sydd ei hangen at ddibenion cynllunio'r gweithlu a nodi unrhyw faterion allweddol i'w hystyried ymhellach
  4. nodi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd sy'n ofynnol i gyflawni amcanion a chynlluniau strategol eich sefydliad
  5. adolygu adnoddau a gallu'r gweithlu presennol i fodloni gofynion a nodwyd o ran gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
  6. nodi unrhyw anghenion dysgu neu ddatblygu'r gweithlu presennol i fodloni gofynion
  7. gwirio bod amrywiaeth y gweithlu yn rhoi cymysgedd addas o bobl i gyflawni ei amcanion
  8. dehongli ystod anghenion eich gweithlu
  9. datblygu cynlluniau gweithlu sy'n bodloni gofynion tymor hir, canolig a thymor byr y sefydliad, gan ddefnyddio arbenigwyr mewnol ac allanol yn effeithiol
  10. gwneud yn siŵr bod contractau cyflogaeth yn diwallu anghenion y sefydliad
  11. cadarnhau bod yr adnoddau sydd eu hangen i recriwtio, datblygu, cadw ac adleoli pobl ar gael
  12. datblygu cynlluniau wrth gefn i ddelio ag amgylchiadau annisgwyl a sicrhau parhad busnes
  13. nodi unrhyw faterion sy'n codi dro ar ôl tro sy'n achosi i bobl adael eich sefydliad a cheisio mynd i'r afael â'r rhain
  14. cyfleu cynlluniau'r gweithlu i gydweithwyr
  15. adolygu eich cynlluniau ar gyfer y gweithlu yn ôl gofynion eich sefydliad, neu yng ngoleuni newidiadau i amcanion a chynlluniau strategol eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth gynllunio'r gweithlu

2.      yr hyn y dylai cynllun gweithlu effeithiol ei gwmpasu i fodloni gofynion sefydliadol

3.      y wybodaeth sydd ei hangen i gynllunio'r gweithlu

4.      y ddeddfwriaeth a'r gofynion sy'n ymwneud â chyflogaeth, lles a hawliau gweithwyr, cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch

5.      sut i ystyried materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth gynllunio'r gweithlu

6.      y strategaethau a'r gwasanaethau y mae angen iddynt fod ar waith pan mae gweithwyr yn gadael, gan gynnwys cwnsela dileu swyddi

7.      pwysigrwydd rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith a sut i wneud hynny'n effeithiol

8.      y gwahanol ffyrdd y gellir cwrdd â gofynion y gweithlu, eu manteision a'u hanfanteision, eu costau a'u buddion

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

9.      y mathau o gontractau cyflogaeth a ddefnyddir yn y diwydiant a'r sector fel arfer

10.  y patrymau ar gyfer cyflogi, recriwtio a chadw gweithwyr yn y diwydiant a'r sector

11.  y tueddiadau a'r datblygiadau yn y sector sy'n berthnasol i gynllunio'r gweithlu

12.  y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r codau ymarfer sy'n berthnasol yn y diwydiant a'r sector

13.  diwylliant ac arferion gwaith y diwydiant a'r sector

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

14.  yr unigolion yn eich sefydliad, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial

15.  yr adnoddau arbenigol mewnol ac allanol sydd ar gael ar gyfer cynllunio'r gweithlu a sut i'w defnyddio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Dadansoddi
  2. Cyfathrebu
  3. Trefniadau wrth gefn
  4. Gwneud penderfyniadau
  5. Gwerthuso
  6. Rheoli gwybodaeth
  7. Monitro
  8. Cynllunio
  9. Blaenoriaethu
  10. Adolygu
  11. Adeiladu senarios
  12. Meddwl yn greadigol
  13. Meddwl yn strategol

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LDA1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; gweithlu; cynllunio