Rheoli gwelliant parhaus ym mherfformiad cyffredinol eich sefydliad

URN: INSML018
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o wella perfformiad cyffredinol eich sefydliad yn barhaus. Rydych chi'n sefydlu systemau i fesur perfformiad sefydliadol a chreu cynlluniau gweithredu i wneud gwelliannau, gan gasglu adborth a syniadau gan gydweithwyr a chwsmeriaid. Mae'r pwyslais ar nodi a rhoi newidiadau ar waith fydd yn ychwanegu gwerth yng ngolwg cwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgysylltu â chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol wrth reoli gwelliant parhaus
  2. nodi mesurau dilys a dibynadwy ar gyfer gwerthuso perfformiad eich sefydliad
  3. sefydlu systemau ar gyfer casglu ac asesu gwybodaeth am berfformiad cyffredinol y sefydliad
  4. nodi achos ac effeithiau problemau a newidiadau
  5. nodi cyfleoedd lle gellir gwella perfformiad gan ddefnyddio gwybodaeth am berfformiad cyffredinol y sefydliad
  6. sefydlu diwylliant sefydliadol lle mae gan bobl rwydd hynt i wneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
  7. annog cwsmeriaid, cyflenwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill i roi adborth ar berfformiad eich sefydliad ac awgrymu gwelliannau
  8. meincnodi perfformiad eich sefydliad yn erbyn sefydliadau tebyg eraill
  9. nodi gwelliannau sydd o fudd i'ch sefydliad, ei gwsmeriaid a rhanddeiliaid allweddol eraill
  10. creu cynlluniau gweithredu yn seiliedig ar adborth a'r canfyddiadau meincnodi
  11. cytuno ar gamau gwella parhaus gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  12. rhoi camau ar waith i wella perfformiad sefydliadol
  13. rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae gwelliannau wedi cael eu gwneud ar draws eich sefydliad, neu sut gellir gwneud y gwelliannau hyn
  14. gwneud yn siŵr bod unrhyw welliannau a wneir yn cyd-fynd â gweledigaeth ac amcanion y sefydliad
  15. dangos bod y gwelliannau a wnaed yn lleihau'r bwlch rhwng yr hyn y mae eich cwsmeriaid a'ch rhanddeiliaid allweddol ei eisiau, a'r hyn y mae cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau eich sefydliad yn ei gyflawni
  16. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i reoli gwelliant parhaus

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i gynnwys cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth reoli gwelliant parhaus

2.      yr egwyddorion sy'n cefnogi gwelliant sefydliadol

3.      sut i sefydlu systemau a mesurau ar gyfer casglu ac asesu gwybodaeth am berfformiad cyffredinol y sefydliad a sut i ddefnyddio'r canfyddiadau i nodi cyfleoedd lle gellir gwella perfformiad sefydliadol.

4.      sut i feincnodi perfformiad eich sefydliad yn erbyn sefydliadau eraill a chymryd camau yn seiliedig ar y canfyddiadau

5.      pwysigrwydd cael adborth gan gwsmeriaid a chyflenwyr ar berfformiad eich sefydliad, a sut i gael yr adborth hwn a'i ddadansoddi

6.      pwysigrwydd meithrin diwylliant sy'n gwella'n barhaus a sut i gynnwys eraill wrth gyflawni hyn

7.      pwysigrwydd darganfod achos ac effeithiau problemau a newidiadau

8.      y ffyrdd o fesur effaith gwelliannau

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

9.      yr ystod o ffynonellau gwybodaeth a thechnegau ar gyfer casglu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector y mae eich sefydliad yn gweithio ynddo

10.  y tueddiadau a'r datblygiadau yn y sector sy'n gysylltiedig â gwelliant parhaus

11.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i reoli gwelliant parhaus

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

12.  gweledigaeth, amcanion, cynlluniau, strwythur, gwerthoedd, diwylliant a rhanddeiliaid allweddol eich sefydliad

13.  sut mae eich sefydliad yn ychwanegu gwerth trwy ddarparu ei gynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau

14.  cwsmeriaid eich sefydliad a gwerth diwylliant sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf

15.  y mesurau perfformiad sy'n berthnasol i'ch sefydliad

16.  y ffynonellau gwybodaeth ffurfiol ac anffurfiol sy'n berthnasol i'ch sefydliad a sut i gasglu gwybodaeth addas


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Dadansoddi
  2. Meincnodi
  3. Cyfathrebu
  4. Gwneud penderfyniadau
  5. Gwerthuso
  6. Rheoli gwybodaeth
  7. Cynnwys eraill
  8. Arwain
  9. Cynllunio
  10. Cyflwyno gwybodaeth
  11. Blaenoriaethu
  12. Meddwl yn strategol
  13. Meddwl yn systematig
  14. Meddwl gyda phwyslais ar gwsmeriaid
  15. Gwerthfawrogi aelodau staff a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LFE5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; rheolwr; gwelliant