Cynllunio newid yn eich amgylchedd gwaith

URN: INSML016
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio newid yn eich amgylchedd gwaith. Rydych chi'n ymgysylltu â gweithwyr a rhanddeiliaid eraill ac yn asesu'r bwlch rhwng sefyllfaoedd ar hyn o bryd a sefyllfaoedd yn y dyfodol. Rydych chi'n nodi rhwystrau i newid ac yn cynllunio dulliau i'w goresgyn. Mae'r safon yn cynnwys cynllunio gweithgareddau parhad busnes a strategaethau cyfathrebu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid. Rydych hefyd yn nodi newid mewn rolau a chyfrifoldebau yn ogystal â'r hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar weithwyr a chydweithwyr. Rydych chi'n cyfleu eich cynlluniau i newid i egluro sut mae gwahanol randdeiliaid yn cael eu heffeithio ac yn goresgyn anawsterau wrth gynllunio. Rydych hefyd yn monitro ymgysylltiad â'r rhaglen newid ac yn cydnabod cyfraniadau a chydweithrediad y rhai sy'n cymryd rhan. Rydych chi'n gwerthuso'r broses i nodi gwelliannau i newidiadau sefydliadol yn y dyfodol.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. amlinellu'r prosesau, y systemau, y strwythurau, y rolau neu'r diwylliannau y mae angen eu newid gyda rhanddeiliaid
  2. asesu'r bwlch rhwng y sefyllfa ohoni a'r sefyllfa fydd ei hangen yn y dyfodol
  3. nodi rhwystrau i newidiadau
  4. datblygu cynllun i gyflawni'r newidiadau gofynnol y cytunwyd arnynt
  5. cytuno ar feini prawf gwerthuso i fesur llwyddiant prosesau newid gyda rhanddeiliaid
  6. nodi rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr sy'n ymwneud â'r newidiadau neu sydd wedi'u heffeithio ganddynt
  7. cynllunio ar gyfer parhad gweithgareddau busnes yn ystod y cyfnod o newidiadau
  8. gwerthuso'r risgiau sy'n gysylltiedig â chynlluniau a datblygu trefniadau wrth gefn
  9. nodi sut a phryd y bydd cynnydd yn cael ei fonitro yn erbyn y cynlluniau
  10. datblygu strategaethau cyfathrebu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr a rhanddeiliaid am y cynnydd
  11. cyflwyno cynlluniau ar gyfer newid gan ddefnyddio offer priodol i werthuso eu heffaith
  12. gofyn i weithwyr a rhanddeiliaid roi adborth ar newidiadau
  13. gofyn i weithwyr a rhanddeiliaid awgrymu arloesiadau a gwelliannau i gynhyrchion, gwasanaethau, prosesau, systemau, strwythurau, rolau a diwylliannau
  14. cyfleu'r achos busnes dros newidiadau, gan nodi'r manteision, y costau a'r risgiau
  15. rhoi cyfleoedd i weithwyr a rhanddeiliaid eraill drafod achosion busnes dros newid, rhoi adborth, mynegi unrhyw bryderon a gwneud awgrymiadau
  16. cynllunio newidiadau, gan nodi rolau a chyfrifoldebau
  17. gwerthuso sut bydd y newidiadau yn effeithio ar weithwyr a rhanddeiliaid eraill
  18. lliniaru ar gyfer newid a deall y gwahaniaethau rhwng newid a rheoli argyfwng
  19. nodi'r hyfforddiant neu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar weithwyr a rhanddeiliaid a sut a phryd y rhoddir y rhain
  20. cyfathrebu â gweithwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch prosesau newid, gan nodi sut mae'n effeithio arnynt ac unrhyw gamau sy'n ofynnol ganddynt
  21. trafod cynnydd cynlluniau, goresgyn anawsterau a gwahodd awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
  22. monitro ymgysylltiad â'r prosesau cynllunio newid a'r ymatebion iddynt
  23. rhoi hyfforddiant, cefnogaeth ac anogaeth i gydweithwyr
  24. cydnabod cyfraniadau a chydweithrediad y rhai sy'n cymryd rhan ac sy'n cael eu heffeithio gan y newid
  25. gwerthuso profiad gweithwyr o'r broses cynllunio newid a defnyddio'r gwersi a ddysgwyd i wella prosesau newid yn y dyfodol
  26. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      y prif fodelau a dulliau rheoli newid sefydliadol, a'u cryfderau a'u gwendidau, a sut i ddewis dull sy'n cyd-fynd â newid sefydliadol diffiniedig

2.      theori timau, gan gynnwys technegau adeiladu tîm a sut i'w defnyddio wrth ymgysylltu â gweithwyr a rhanddeiliaid i gynllunio newid sefydliadol a'i gyflwyno

3.      sut i ddatblygu a sicrhau consensws ar feini prawf ar gyfer gwerthuso llwyddiant y broses newid gyda rhanddeiliaid

4.      sut i asesu'r risgiau a'r manteision sy'n gysylltiedig â strategaethau a chynlluniau newid

5.      pwysigrwydd cynlluniau wrth gefn a sut i ddatblygu hyn yn effeithiol

6.      y rhwystrau i newid, a'r technegau sy'n delio â'r rhain

7.      yr ystod o ddisgwyliadau rhanddeiliaid a sut maent yn dylanwadu ar y broses

8.      sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid eraill mewn prosesau newid

9.      egwyddorion a dulliau cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso

10.  sut i annog pobl i roi adborth ac ymateb yn briodol iddo

11.  sut i nodi anghenion hyfforddi unigol a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl i ymdopi â newid

12.  egwyddorion, dulliau, offer a thechnegau monitro a gwerthuso

13.  sut i werthuso profiad pobl o newid a nodi'r gwersi i'w dysgu

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

14.  safle eich sefydliad yn ei sector a'i amgylchedd gweithredu ar hyn o bryd, o'i gymharu â'i brif gystadleuwyr, sy'n berthnasol i raglenni newid

15.  yr ystod o ffynonellau gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector, a sectorau cysylltiedig, y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt

16.  y tueddiadau a'r datblygiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg yn eich sector

17.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

18.  yr unigolion ym maes eich gwaith, eu rolau, cyfrifoldebau, cymwyseddau a'u potensial

19.  diwylliant eich sefydliad, y weledigaeth ar gyfer y dyfodol, rhesymau dros newid, prosesau ymgynghori, y risgiau a'r manteision disgwyliedig

20.  y gweithgareddau sy'n hanfodol i fusnes, ffactorau sy'n dibynnu ar ei gilydd, ffactorau y mae angen eu newid, a'r blaenoriaethau cysylltiedig a'r rhesymau drostynt

21.  sianelau cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol eich sefydliad

22.  y fframweithiau rheoli newid a'r dulliau a ddefnyddir yn eich sefydliad

23.  sut i liniaru newid a'r gwahaniaethau rhwng rheoli newid a rheoli argyfwng

24.  yr achos busnes dros newid yn eich sefydliad, gan gynnwys technegau dadansoddi cost a manteision

25.  y gwahanol rwystrau i newid yn eich sefydliad

26.  rhanddeiliaid eich sefydliad, eu buddiannau a'u disgwyliadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Dadansoddi
  2. Asesu
  3. Cyfathrebu
  4. Ymgynghori
  5. Trefniadau wrth gefn
  6. Gwneud penderfyniadau
  7. Dangos empathi
  8. Grymuso
  9. Gwerthuso
  10. Dylanwadu
  11. Rheoli gwybodaeth
  12. Arloesi
  13. Cynnwys eraill
  14. Monitro
  15. Cyd-drafod
  16. Cael adborth
  17. Argyhoeddi
  18. Cyflwyno gwybodaeth
  19. Cynllunio
  20. Datrys problemau
  21. Myfyrio
  22. Adrodd
  23. Rheoli risg
  24. Rheoli Straen
  25. Adeiladu Tîm
  26. Meddwl yn systematig
  27. Gwerthfawrogi eraill a'u cefnogi

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LCA2, CFAM&LCA3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; newid cynllun