Datblygu cynlluniau gweithredol a rheoli risgiau

URN: INSML010
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli ac Arwain
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 12 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau gweithredol a rheoli risgiau yn eich sefydliad. Rydych chi'n datblygu cynlluniau gweithredol sy'n cyd-fynd â gwerthoedd a strategaeth sefydliadol trwy gydweithredu â chydweithwyr a rhanddeiliaid. Rydych chi'n nodi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau gweithredol a'u cyfleu i sicrhau ymrwymiad. Rydych chi'n nodi gweithgareddau rheoli risg gan gynnwys diffinio meini prawf risg ar gyfer eich sefydliad. Rydych hefyd yn gwerthuso gweithgareddau sefydliadol cyfredol ac yn cynllunio'r rhain i nodi risgiau i gynhyrchu proffil risg. Mae'r safon yn cynnwys cefnogi cydweithwyr i integreiddio elfen rheoli risg mewn gweithgareddau strategol a gweithredol, a gwerthuso sut yr ymdriniwyd â risgiau a nodwyd.

Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. datblygu cynlluniau gweithredol mewn cydweithrediad â chydweithwyr o faes eich cyfrifoldeb a rhanddeiliaid allweddol eraill
  2. datblygu cynlluniau gweithredol sy'n cyd-fynd â gwerthoedd a strategaeth sefydliadol ac amcanion penodol maes eich cyfrifoldeb
  3. nodi synergeddau â meysydd eraill yn y sefydliad wrth ddatblygu cynlluniau gweithredol
  4. cymharu dulliau arloesol ac atebion sydd wedi'u profi wrth ddatblygu cynlluniau
  5. nodi'r adnoddau sy'n ofynnol a'u hargaeledd nawr ac yn y dyfodol
  6. diffinio dangosyddion a dulliau monitro a gwerthuso'r cynlluniau
  7. cyfleu cynlluniau gweithredol i sicrhau ymrwymiad cydweithwyr a chefnogaeth rhanddeiliaid allweddol eraill
  8. adolygu cynlluniau gweithredol, yng ngoleuni newidiadau i'r strategaeth sefydliadol a'r amgylchedd gweithredu
  9. nodi gweithgareddau rheoli risg sy'n ystyried maint a natur eich sefydliad
  10. datblygu polisi rheoli risg ysgrifenedig eich sefydliad, gan gynnwys datganiad o'r risg yr ydych yn fodlon ei gymryd a chyfrifoldebau dros reoli risg
  11. cadarnhau bod y rheolwyr yn cefnogi polisi rheoli risg eich sefydliad a'i fod yn cael ei gyfathrebu'n glir ar draws y sefydliad ac i randdeiliaid eraill
  12. diffinio meini prawf risg ar gyfer eich sefydliad, a'u hadolygu nawr ac yn y man, gan ystyried barn pobl berthnasol ar draws y sefydliad a rhanddeiliaid
  13. gwerthuso gweithgareddau sefydliadol cyfredol ac sydd wedi'u cynllunio i nodi risgiau posibl, natur y risgiau, pa mor debygol y maent o ddigwydd a'r goblygiadau
  14. cynhyrchu proffil risg ar gyfer eich sefydliad gan ystyried meini prawf risg eich sefydliad a gwybodaeth berthnasol arall
  15. blaenoriaethu risgiau a nodwyd gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
  16. cyfleu gwybodaeth am risg i gydweithwyr a rhanddeiliaid fel bod modd gwneud penderfyniadau a chymryd camau o ran derbyn y risgiau neu eu trin
  17. dyrannu adnoddau i allu rheoli risg yn effeithiol
  18. cefnogi cydweithwyr i integreiddio rheoli risg yn rhan o gynlluniau a gweithgareddau strategol a gweithredol
  19. casglu gwybodaeth am sut yr aethpwyd i'r afael â risgiau a nodwyd, neu beth sy'n cael ei wneud yn eu cylch ar hyn o bryd, gan gynnwys cynlluniau wrth gefn sydd wedi'u rhoi ar waith
  20. datblygu diwylliant sefydliadol lle mae pobl yn ymwybodol o risg ond yn barod i gymryd risgiau derbyniol a gwneud camgymeriadau neu ddysgu o ganlyniad i'w gwneud
  21. gofyn am gefnogaeth arbenigol ar faterion rheoli risg, lle bo angen
  22. cynnal y broses rheoli risg yn eich sefydliad, gan nodi gwelliannau posibl a gwneud newidiadau lle bo angen
  23. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth ddatblygu cynlluniau gweithredol a rheoli risgiau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

1.      sut i gynnwys gweithwyr a rhanddeiliaid mewn prosesau cynllunio gweithredol

2.      egwyddorion a dulliau cynllunio tymor byr i ganolig a sut i ddatblygu a phenodi amcanion Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â Therfyn Amser (CAMPUS)

3.      sut i ddadansoddi a rheoli risgiau trwy baratoi cynlluniau wrth gefn

4.      sut i nodi pa adnoddau syn ofynnol a gwerthuso a ydynt ar gael a'u cynaliadwyedd

5.      y safonau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ym maes rheoli risg

6.      y gwahanol fathau o risgiau a'r ffactorau sy'n gyrru gwahanol fathau o risgiau

7.      y camau allweddol yn y broses rheoli risg, gan gynnwys datblygu polisi rheoli risg ysgrifenedig a'r hyn y dylai ei gwmpasu yn ogystal ag offer, technegau a dangosyddion rheoli risg

8.      sut i gyfleu'r polisi rheoli risg ysgrifenedig i gydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill

9.      beth allai gael ei gynnwys gan feini prawf risg, gan gynnwys pwysigrwydd ceisio barn cydweithwyr a rhanddeiliaid a'u hystyried

10.  y ffyrdd o nodi risgiau posibl a'u disgrifio'n glir mewn perthynas â gweithgareddau cyfredol ac a gynlluniwyd, natur y risgiau, pa mor debygol yr ydynt o ddigwydd, a goblygiadau

11.  y mathau o benderfyniadau a chamau gweithredu y gellir eu cymryd mewn perthynas â risgiau a nodwyd

12.  pam mae'n bwysig a sut i gasglu a gwerthuso gwybodaeth ar sut yr aethpwyd i'r afael â risgiau a nodwyd, neu beth sy'n cael ei wneud yn eu cylch ar hyn o bryd, gan gynnwys cynlluniau wrth gefn

13.  y ffyrdd o ddatblygu diwylliant sefydliadol lle mae cydweithwyr yn ymwybodol o risg ond yn barod i gymryd risgiau derbyniol wrth ymgymryd â gweithgareddau

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector

14.  y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

15.  y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn a'r rhai sy'n cydweithredu â chi yn y sector ar hyn o bryd a'r rhai posibl yn y dyfodol, a'u strategaethau a'u cynlluniau

16.  y risgiau nodweddiadol yn y sectorau y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol

17.  amgylchedd gweithredu eich sefydliad, y sylfaen wirioneddol a phosibl o gwsmeriaid, cyfleoedd a gweithgareddau sefydliadol cyfredol ac wedi'u cynllunio

18.  gweledigaeth a gwerthoedd cyffredinol eich sefydliad a'r amcanion rydych chi'n gyfrifol am eu cyflawni

19.  y prosesau ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr yn eich sefydliad i bennu eu hanghenion a'u disgwyliadau

20.  diwylliant eich sefydliad mewn perthynas â meini prawf risgiau

21.  y rhanddeiliaid allweddol sydd â diddordeb mewn rheoli risg yn eich sefydliad

22.  y polisi rheoli risg ysgrifenedig a'r meini prawf o ran risgiau

23.  proffil risg cyfredol eich sefydliad, risgiau sydd wedi'u blaenoriaethu a'r penderfyniadau a'r camau gweithredu

24.  y risgiau posibl a nodwyd, gan gynnwys unrhyw gynlluniau wrth gefn sydd ar waith

25.  yr adnoddau sydd ar gael ar draws y sefydliad i gefnogi gwaith rheoli risg

26.  ffynonellau cefnogaeth arbenigol ar reoli risg

27.  y systemau sydd ar waith ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd y prosesau rheoli risg yn eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. Asesu
  2. Creu consensws
  3. Cyfathrebu
  4. Ymgynghori
  5. Trefniadau wrth gefn
  6. Gwneud penderfyniadau
  7. Dirprwyo
  8. Gwerthuso
  9. Dylanwadu
  10. Rheoli gwybodaeth
  11. Arloesi
  12. Cynnwys eraill
  13. Monitro
  14. Argyhoeddi
  15. Cynllunio
  16. Cyflwyno gwybodaeth
  17. Blaenoriaethu
  18. Myfyrio
  19. Adolygu
  20. Rheoli risg
  21. Gosod amcanion
  22. Adeiladu senarios
  23. Meddwl yn systematig
  24. Meddwl yn feirniadol

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAM&LBA9, CFAM&LBB1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion

Cod SOC

1114

Geiriau Allweddol

Rheoli ac arwain; cynlluniau gweithredol;