Rhoi arweiniad i'ch tîm
Trosolwg
Mae'r safon yn ymwneud â rhoi arweiniad i'ch tîm. Rydych chi'n cyfleu gweledigaeth a gwerthoedd eich sefydliad a diben ac amcanion y tîm. Rydych yn ymgysylltu ag aelodau'r tîm i ddiffinio cyfeiriad ac ymrwymo eu hegni a'u harbenigedd i gyflawni canlyniadau. Rydych chi'n cytuno ar amcanion gwaith i unigolion ac yn rheoli eich tîm trwy heriau. Mae'r safon yn cynnwys annog eich tîm i gymryd cyfrifoldeb, bod yn greadigol ac arloesol, cymryd yr awenau a gweithio'n annibynnol o fewn ffiniau diffiniedig. Rydych chi'n cymell ac yn cefnogi eich tîm i gyflawni amcanion, gan ddangos esiampl o werthoedd ac ymddygiadau disgwyliedig eich sefydliad.
Mae'r safon hon ar gyfer pob rheolwr ac arweinydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cyfleu diben ac amcanion y tîm i'r holl aelodau
2. diffinio cyfeiriad o fewn maes eich cyfrifoldeb trwy ymgysylltu â'ch tîm
3. cynllunio sut bydd y tîm yn cyflawni ei amcanion trwy ymgynghori â nhw
4. cytuno ar amcanion gwaith unigol gyda holl aelodau'r tîm
5. esbonio sut mae amcanion unigol yn helpu i gyflawni amcanion y tîm a'r sefydliad
6. argyhoeddi eich tîm i ymrwymo eu hymdrechion a'u harbenigedd i gyflawni canlyniadau
7. cyfleu gweledigaeth a'r gwerthoedd a rennir o ran ble mae eich sefydliad yn mynd
8. gwneud yn siŵr bod eich tîm yn deall sut mae'r cynlluniau gweithredol yn cyd-fynd â gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion eich sefydliad
9. rheoli eich maes yn llwyddiannus trwy heriau
10. datblygu ystod o arddulliau arwain a'u defnyddio mewn gwahanol rolau a sefyllfaoedd
11. cyfathrebu â'ch tîm rheolaidd ac yn effeithiol
12. dangos eich bod yn gwrando ar beth mae eich tîm yn ei ddweud a chymryd camau ar sail hynny
13. annog aelodau'r tîm i gymryd cyfrifoldeb am eu hanghenion datblygu eu hunain
14. cefnogi gwytnwch aelodau'r tîm
15. rhoi cefnogaeth a chyngor wyneb yn wyneb neu wrth weithio o bell
16. annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd o fewn y tîm
17. cymell aelodau'r tîm i gyflawni eu hamcanion gwaith a datblygu, gan roi cydnabyddiaeth pan maent yn llwyddiannus
18. galluogi aelodau'r tîm i weithio'n annibynnol a gwneud eu penderfyniadau eu hunain o fewn ffiniau y cytunwyd arnynt
19. annog aelodau'r tîm i arwain yn eu meysydd arbenigedd eu hunain, gan ddilyn eu harweiniad
20. dangos esiampl o ymddygiadau sy'n adlewyrchu gwerthoedd ac ymddygiadau disgwyliedig eich sefydliad i feithrin ymddiriedaeth a chefnogaeth yn eich tîm
21. gwneud penderfyniadau sy'n bodloni gofynion eich sefydliad o ran tegwch ac uniondeb
22. amddiffyn eich gwaith eich hun a'ch tîm rhag effeithiau negyddol
23. gofyn am adborth gan eraill a chymryd camau ar sail hyn i wella eich ymarfer arwain
24. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol, sy'n berthnasol i'ch rôl wrth roi arweiniad i'ch tîm
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
1. sut i gynnwys aelodau'r tîm ym maes eich cyfrifoldeb i ddiffinio cyfeiriad y tîm a'u hargyhoeddi i ymrwymo eu hegni a'u harbenigedd i gyflawni canlyniadau
2. y gwahaniaethau rhwng rheoli ac arwain a sut i alluogi aelodau'r tîm
3. sut i greu gweledigaeth sy'n mynd i ennyn brwdfrydedd a'i chyfleu i wahanol gynulleidfaoedd ym maes eich cyfrifoldeb
4. y gwahanol arddulliau arwain a sut i ddewis a defnyddio'r rhain mewn gwahanol sefyllfaoedd a gyda gwahanol aelodau'r tîm
5. sut i arwain ac ysgogi eich tîm wyneb yn wyneb neu o bell
6. sut i gael adborth ar eich arweinyddiaeth gan aelodau'r tîm a chydweithwyr eraill a'i ddefnyddio
7. y mathau o anawsterau a heriau a allai godi a ffyrdd o'u hadnabod a mynd i'r afael â nhw
8. sut i greu a chynnal diwylliant sy'n annog ac yn cydnabod creadigrwydd ac arloesedd
9. pwysigrwydd cydnabod cryfderau unigol, annog eraill i arwain, a ffyrdd o gyflawni hyn
10. sut i ddewis gwahanol ddulliau a'u defnyddio'n llwyddiannus i annog, cymell a chefnogi aelodau'r tîm a chydnabod cyflawniad
11. sut i osod amcanion gwaith Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig ac â therfyn amser (CAMPUS)
12. sut i gynllunio sut y caiff amcanion y tîm eu cyflawni a phwysigrwydd cynnwys aelodau'r tîm yn y broses hon
13. pwysigrwydd dangos i aelodau'r tîm sut mae amcanion gwaith personol yn cyfrannu at gyflawni amcanion tîm a sefydliadol
Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol o'r diwydiant a'r sector
14. gofynion y diwydiant a'r sector ar gyfer datblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd
15. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ymwneud â chyd-destun penodol
16. eich rôl, eich cyfrifoldebau a lefel eich awdurdod
17. aelodau eich tîm, eu rolau, cyfrifoldebau, cymwyseddau, anghenion, cymhellion, cryfderau, cyfyngiadau a photensial
18. sut i annog a chefnogi gwytnwch aelodau eich tîm
19. eich gwerthoedd, eich cymhellion, eich emosiynau, eich cryfderau a'ch cyfyngiadau yn eich rôl arwain
20. gweledigaeth, amcanion strategol a diwylliant y sefydliad yn gyffredinol a sut mae diben, amcanion a chynlluniau gweithredol eich tîm ar gyfer maes eich cyfrifoldeb yn cyd-fynd
21. y mathau o gefnogaeth a chyngor fydd eu hangen ar aelodau'r tîm yn ôl pob tebyg a sut i ymateb i'r rhain
22. yr arddulliau arwain a ddefnyddir ar draws y sefydliad a sut rydych chi'n cymharu â nhw
23. amcanion gwaith personol a safonau perfformiad sefydliadol aelodau eich tîm
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
- Hyfforddi
- Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Grymuso
- Gwerthuso
- Dilyn
- Cynnwys eraill
- Dylanwadu
- Arwain
- Arwain trwy esiampl
- Rheoli gwrthdaro
- Monitro
- Yn ysgogi
- Cael adborth
- Rheoli perfformiad
- Argyhoeddi
- Cynllunio
- Datrys problemau
- Cyflwyno gwybodaeth
- Blaenoriaethu
- Rhoi adborth
- Datrys problemau
- Rhoi adborth
- Cefnogi timau
- Cefnogi gwytnwch unigol
- Gosod amcanion
- Adeiladu Tîm
- Gwerthfawrogi eraill a'u cefnogi