Datblygu cynlluniau marchnata sefydliadol a'u gweithredu

URN: INSMAR013
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau marchnata sefydliadol a'u gweithredu. Mae'n cynnwys dewis gwybodaeth o archwiliadau marchnata a chadarnhau amcanion marchnata. Rydych yn cytuno ar gyllidebau ar gyfer gweithgareddau marchnata ac yn cadarnhau'r dull gweithredu cyffredinol. Rydych yn paratoi cynllun marchnata ac yn sefydlu'r meini prawf ar gyfer gwerthuso llwyddiant y cynllun. Rydych yn nodi adnoddau, gan gymryd cyfrifoldeb am gyflawni'r cynllun, gan wneud addasiadau angenrheidiol yn unol â'r strategaeth farchnata. Rydych hefyd yn nodi arferion da a meysydd i'w gwella. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n datblygu cynlluniau marchnata sefydliadol a'u gweithredu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis gwybodaeth o archwiliadau marchnata
  2. cadarnhau amcanion marchnata gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau fel y nodir yn y strategaeth farchnata y cytunwyd arni
  3. cadarnhau'r gyllideb y cytunwyd arni ar gyfer gweithgarwch marchnata gyda deiliaid cyllidebau
  4. nodi a chadarnhau anghenion a nodweddion y cwsmeriaid a dargedir
  5. diffinio'r dull cyffredinol o gynnal gweithgareddau marchnata
  6. gwerthuso dulliau marchnata posibl sy'n berthnasol i'r marchnadoedd a dargedir a'r gyllideb
  7. asesu'r risgiau i gynlluniau marchnata a sut allai'r rhain gael eu lliniaru
  8. pennu'r camau gweithredu a'r adnoddau sydd eu hangen i weithredu cynlluniau marchnata
  9. rhestru'r meini prawf gwerthuso ar gyfer cynlluniau marchnata
  10. gofyn am gyngor ac arweiniad gan ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol
  11. nodi'r adnoddau dynol, ffisegol ac ariannol sydd eu hangen i weithredu cynlluniau marchnata,
  12. cytuno ar ofynion adnoddau dynol, ffisegol ac ariannol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  13. paratoi cynllun marchnata sy'n crynhoi dulliau, camau gweithredu, adnoddau, amserlenni, cyllideb a meini prawf
  14. sefydlu gweithdrefnau monitro i ddarparu gwybodaeth werthuso
  15. ymgynghori â rhanddeiliaid i gasglu adborth
  16. diwygio cynlluniau marchnata yn unol ag adborth
  17. cytuno ar y cynllun marchnata terfynol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  18. nodi'r rhanddeiliaid yn y broses weithredu a sicrhau eu hymrwymiad
  19. gweithredu cynlluniau marchnata, llywio a dylanwadu ar y broses weithredu i gyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt
  20. diwygio'r cynllun marchnata i gyd-fynd â strategaeth farchnata ac anghenion cyffredinol y sefydliad
  21. rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ddiwygiadau i'r cynllun marchnata a'r effaith ar eu gweithgareddau
  22. nodi arferion da o ran marchnata a meysydd i'w gwella wrth weithredu cynlluniau marchnata
  23. cyfathrebu arferion da o ran marchnata a'r meysydd i'w gwella i randdeiliaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol presennol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â datblygu cynlluniau marchnata a'u gweithredu
  2. yr hyn sydd wedi'i gynnwys mewn archwiliadau marchnata a sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon
  3. sut i gadarnhau ac egluro amcanion marchnata gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  4. sut mae amcanion marchnata yn cysylltu â strategaeth farchnata
  5. pwysigrwydd gweithio o fewn cyllideb a sut i gadarnhau hyn gyda deiliaid cyllidebau sefydliadol
  6. sylfaen cwsmeriaid y sefydliad ar hyn o bryd, a'r un a dargedir, a'u hanghenion a'u disgwyliadau
  7. yr ystod o ddulliau marchnata a sut i ddewis y rhai mwyaf priodol ar gyfer y farchnad a dargedir a'r amcanion y cytunwyd arnynt
  8. y mathau o risg i'r cynllun marchnata a sut allai'r rhain gael eu lliniaru
  9. sut i bennu'r camau gweithredu a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni amcanion marchnata y cytunwyd arnynt
  10. pwysigrwydd nodi adnoddau i gefnogi'r gwaith o weithredu cynlluniau marchnata a chytuno arnynt
  11. sut i nodi rhanddeiliaid a'r adnoddau dynol, ffisegol ac ariannol sydd eu hangen i weithredu'r cynllun marchnata
  12. y ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad
  13. y meysydd y mae angen eu cynnwys mewn cynllun marchnata a sut i fformatio hyn yn unol â gofynion a chanllawiau sefydliadol
  14. sut i ddatblygu trefniadau monitro i olrhain cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu marchnata
  15. y ffyrdd o gasglu gwybodaeth sy'n gallu bod o gymorth i werthuso sut y gweithredir cynlluniau marchnata
  16. strwythur a phrosesau busnes eich sefydliad mewn cysylltiad â chynllunio a gweithredu marchnata
  17. sut i ddylanwadu ar sut y gweithredir y cynllun marchnata gyda rhanddeiliaid 
  18. y ffynonellau gwybodaeth ar gyfer datblygu arferion da ym maes marchnata a sut i rannu hyn â chydweithwyr
  19. y dulliau monitro gweithrediad y cynllun marchnata a'r amgylchiadau pan mae angen addasiadau
  20. sut i wneud addasiadau i'r cynllun marchnata yn ystod y broses weithredu a phwy y gellir ymgynghori â nhw
  21. sut i nodi a gwella'r gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau marchnata yn eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMAR16

Galwedigaethau Perthnasol

Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus