Gwneud yn siŵr bod gweithgareddau marchnata yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol, a gwerthoedd sefydliadol

URN: INSMAR008
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gweithgareddau marchnata mewn ffyrdd sy'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol, a gwerthoedd sefydliadol. Mae'n cynnwys datblygu polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod y gofynion hyn yn cael eu bodloni, sicrhau bod cydweithwyr a rhanddeiliaid priodol yn deall y goblygiadau i'r sefydliad os na ddilynir polisïau a gweithdrefnau, a phwysigrwydd cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyfredol ac arferion gorau. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod gweithgareddau marchnata yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol, a gwerthoedd sefydliadol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu gwerthoedd eich sefydliad gan gynnwys unrhyw gymwyseddau a chanllawiau cysylltiedig
  2. datblygu polisïau a gweithdrefnau marchnata i wneud yn siŵr bod y sefydliad yn bodloni'r holl ofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol presennol
  3. cadarnhau bod gweithgareddau marchnata yn cyd-fynd â gwerthoedd eich sefydliad
  4. gweithredu polisïau a gweithdrefnau marchnata yn eich sefydliad
  5. cyfathrebu'r polisïau a'r gweithdrefnau marchnata i gydweithwyr a rhanddeiliaid
  6. gwneud yn siŵr bod cydweithwyr a chwsmeriaid yn deall y polisïau a'r gweithdrefnau
  7. nodi'r goblygiadau i'r sefydliad os na ddilynir polisïau a gweithdrefnau marchnata
  8. monitro'r defnydd o bolisïau a gweithdrefnau marchnata i wneud yn siŵr y cedwir at y rhain
  9. rhoi cymorth i gydweithwyr sy'n defnyddio'r polisïau a'r gweithdrefnau
  10. annog adborth gan gydweithwyr a rhanddeiliaid a chymryd camau priodol os na chedwir at bolisïau a gweithdrefnau marchnata
  11. cynnal eich gwybodaeth am arferion gorau o ran gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn cysylltiad â marchnata
  12. adolygu polisïau a gweithdrefnau marchnata yn unol â gofynion sefydliadol
  13. diweddaru polisïau a gweithdrefnau marchnata er mwyn ystyried datblygiadau newydd ac arferion gorau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gwerthoedd eich sefydliad ac unrhyw gymwyseddau cysylltiedig, a sut i alinio'r rhain â'ch gweithgareddau marchnata
  2. pwysigrwydd alinio gweithgareddau marchnata â gwerthoedd eich sefydliad
  3. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau marchnata
  4. pwysigrwydd alinio polisïau a gweithdrefnau marchnata â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol
  5. sut i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau marchnata sy'n ystyried gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol cyfredol
  6. y technegau cyfathrebu y gellir eu defnyddio i rannu polisïau a gweithdrefnau â chydweithwyr a rhanddeiliaid
  7. y goblygiadau posibl i'ch sefydliad os na ddilynir polisïau a gweithdrefnau marchnata
  8. sut i gyfathrebu effaith peidio â dilyn polisïau a gweithdrefnau i gydweithwyr a rhanddeiliaid a chytuno ar gamau gweithredu
  9. dulliau monitro'r defnydd o bolisïau a gweithdrefnau marchnata
  10. y camau y gellir eu cymryd os na ddilynir polisïau a gweithdrefnau marchnata
  11. ffynonellau gwybodaeth am ddatblygiadau cyfredol ac arferion gorau o ran gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol ym maes marchnata
  12. pwysigrwydd diweddaru polisïau yn unol â datblygiadau newydd ac arferion gorau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMAR10

Galwedigaethau Perthnasol

Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus