Datblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf

URN: INSMAR007
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae'n cynnwys nodi'r ffyrdd y mae eich sefydliad yn gweithio gyda chwsmeriaid a datblygu gweledigaeth fel ei fod yn canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid. Rydych yn gwneud yn siŵr bod eich syniadau yn cyd-fynd â gwerthoedd, brand a delwedd eich sefydliad ac yn cytuno ar y dull gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae'r safon yn cynnwys nodi a chyfathrebu sgiliau ac ymddygiadau disgwyliedig eich sefydliad i gydweithwyr a gosod esiampl o hun eich hun. Rydych hefyd yn dylanwadu ar bolisïau, gweithdrefnau a systemau er mwyn mynd ati'n barhaus i wella dulliau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n datblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi sut mae eich sefydliad yn gweithio ar hyn o bryd gyda chwsmeriaid presennol a chwsmeriaid a dargedir
  2. datblygu gweledigaeth ar gyfer datblygu sefydliad sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
  3. gwneud yn siŵr bod y weledigaeth yn cyd-fynd â gwerthoedd, brand a delwedd eich sefydliad
  4. nodi'r sgiliau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan staff i greu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf.
  5. cytuno ar y weledigaeth ar gyfer sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  6. cyfathrebu'r weledigaeth i gydweithwyr a chwsmeriaid
  7. cyfathrebu'r sgiliau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan eich sefydliad i gydweithwyr
  8. dangos i gydweithwyr yr ymddygiadau sy'n gysylltiedig â chwsmeriaid a ddisgwylir gan eich sefydliad
  9. cynorthwyo cydweithwyr i weithredu sgiliau ac ymddygiadau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  10. herio ymddygiad cydweithwyr sy'n mynd yn groes i'r hyn y mae eich sefydliad yn ei ddisgwyl ganddynt
  11. dylanwadu ar bolisïau, gweithdrefnau a systemau'r sefydliad i wneud yn siŵr eu bod yn rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  12. gwerthuso nodau eich sefydliad i wneud yn siŵr bod dulliau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  13. monitro ac adolygu nodau, polisïau, systemau a gweithdrefnau yn erbyn y weledigaeth
  14. nodi gwelliannau i werthoedd, nodau, polisïau, systemau a gweithdrefnau
  15. gweithredu newidiadau i wella dulliau sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf yn barhaus

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y cysyniad o ddiwylliant sefydliadol a sut mae hyn yn dylanwadu ar y ffordd y mae sefydliad yn gweithredu ac yn cyflwyno ei hun i gwsmeriaid
  2. strategaeth eich sefydliad ar gyfer cadw cwsmeriaid presennol a denu rhai newydd
  3. sut i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  4. gwerthoedd, brand a delwedd eich sefydliad a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid
  5. y technegau y gellir eu defnyddio i broffilio cwsmeriaid presennol
  6. y ffyrdd o nodi cwsmeriaid posibl i'w targedu a deall eu hanghenion a'u disgwyliadau
  7. y dulliau y gellir eu defnyddio i gyfathrebu gweledigaeth a gwerthoedd eich sefydliad i gydweithwyr a chwsmeriaid
  8. pwysigrwydd cynorthwyo'r gwaith o ddatblygu a chynnal y sgiliau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan gydweithwyr
  9. y dulliau y gellir eu defnyddio i ddylanwadu ar nodau, polisïau, systemau a gweithdrefnau i gyd-fynd â gweledigaeth eich sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  10. sut i nodi ymddygiadau fydd yn ategu gwerthoedd eich sefydliad
  11. y ffyrdd o ddylanwadu ar gydweithwyr i newid eu hymddygiad pan maent yn mynd yn groes i ddisgwyliadau eich sefydliad
  12. y nodau, y polisïau, y systemau a'r gweithdrefnau sy'n helpu i ddatblygu sefydliad sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  13. pwysigrwydd monitro ac adolygu i ba raddau mae eich sefydliad yn rhoi'r cwsmer yn gyntaf
  14. y ffyrdd o nodi gwelliannau a'u gweithredu
  15. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMAR9

Galwedigaethau Perthnasol

Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus