Datblygu, gweithredu a gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

URN: INSMAR004
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu, gweithredu a gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid. Rydych yn nodi'r wybodaeth i'w blaenoriaethu yn unol â'r strategaeth farchnata, gan asesu'r risgiau, adnoddau, costau a buddion sy'n gysylltiedig â chael gafael ar wybodaeth. Rydych yn sefydlu sut y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio a'i dadansoddi i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid y sefydliad. Rydych yn cytuno ar gynllun, sy'n cynnwys amserlenni a chyllideb, i gasglu'r wybodaeth ofynnol. Mae'r safon hefyd yn ymwneud â gwirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth a nodi gwybodaeth fydd yn llywio dulliau marchnata. Rydych yn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth ar gael i'r sefydliad yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol. Mae hefyd yn cynnwys monitro a gwerthuso'r strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid yn erbyn cyfres o feini prawf y cytunwyd arnynt a gwneud argymhellion yn seiliedig ar y canlyniadau. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n ymwneud â datblygu, gweithredu a gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Datblygu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

1.      nodi gofynion y sefydliad o ran gwybodaeth am gwsmeriaid

2.       diffinio sut mae gwybodaeth am gwsmeriaid yn cael ei defnyddio yn eich sefydliad

3.      nodi'r wybodaeth i'w blaenoriaethu am gwsmeriaid i ddiwallu anghenion strategaeth farchnata'r sefydliad a thargedau cysylltiedig o ran perfformiad

4.      asesu'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a nodi ffynonellau pellach

5.      sefydlu sut caiff y wybodaeth ei dadansoddi a'i defnyddio i nodi dealltwriaeth

6.      asesu'r risgiau, yr adnoddau, y costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â chael gafael ar wybodaeth am gwsmeriaid

7.      gofyn am gyngor ac arweiniad ychwanegol gan ffynonellau arbenigol cydnabyddedig

8.      ymgynghori â rhanddeiliaid ynglŷn â'r strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid a chael eu hymrwymiad

9.      cytuno ar y strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid a'r meini prawf llwyddiant gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau

Gweithredu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

10.  cadarnhau'r wybodaeth sydd ei hangen am gwsmeriaid, yn unol â'r strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

11.  cytuno ar gynllun i gasglu gwybodaeth am gwsmeriaid a'r diwydiant gan gynnwys amserlenni a chyllidebau

12.  casglu gwybodaeth am gwsmeriaid yn unol â'r cynllun y cytunwyd arno

13.  gwirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth am gwsmeriaid

14.  dadansoddi a strwythuro gwybodaeth am gwsmeriaid mewn fformat priodol

15.  nodi dealltwriaeth mewn gwybodaeth am gwsmeriaid i lywio dulliau marchnata

16.  datblygu gweithdrefnau ar gyfer storio, cyfrinachedd, diogelwch, defnyddio a diweddaru gwybodaeth am gwsmeriaid, yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol

17.  darparu'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i gydweithwyr a rhanddeiliaid

18.  monitro pa wybodaeth am gwsmeriaid y mae cydweithwyr a rhanddeiliaid yn ei chyrchu a'i defnyddio

Gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

19.  sefydlu'r meini prawf sydd eu hangen ar gyfer gwerthuso'r strategaeth

20.  diffinio pryd bydd y strategaeth yn cael ei gwerthuso ac o dan ba amgylchiadau y byddai adolygiad heb ei drefnu yn cael ei gynnal

21.  monitro cydymffurfiaeth barhaus â gofynion cyfreithiol, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol

22.  casglu data dilys a chynhwysfawr, gan gynnwys adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill

23.  gwerthuso'r strategaeth yn erbyn y meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt

24.  gwneud argymhellion i addasu'r strategaeth neu ei chynnal


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Datblygu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

1.      strategaeth farchnata'r sefydliad a thargedau cysylltiedig o ran perfformiad

2.      sylfaen cwsmeriaid y sefydliad mewn gwirionedd a'r un a dargedir

3.      ffynonellau posibl o wybodaeth am gwsmeriaid a sut i gael gafael arnynt

4.      y ffactorau i'w hystyried wrth nodi blaenoriaethau mewn gwybodaeth am gwsmeriaid fydd yn bodloni anghenion y sefydliad

5.      sut i nodi risgiau posibl o ran gwybodaeth am gwsmeriaid a'i hasesu

6.      y ffactorau i'w hasesu wrth bennu gofynion gwybodaeth am gwsmeriaid

7.      yr elfennau i'w hystyried wrth ddatblygu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

8.      y ffynonellau arbenigedd mewnol ac allanol sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad

9.      diben ymgynghori â rhanddeiliaid a sut i sicrhau eu hymrwymiad

Gweithredu strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

10.  ffyrdd o gadarnhau gofynion gwybodaeth am gwsmeriaid a sut gall dulliau amrywio yn ôl y sefydliad a sylfaen cwsmeriaid

11.  y systemau casglu data ac adrodd a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth am gwsmeriaid

12.  y wybodaeth am y diwydiant y gellir ei chasglu a sut i'w defnyddio

13.  sut i wirio ansawdd, dilysrwydd a dibynadwyedd gwybodaeth am gwsmeriaid

14.  sut i nodi dealltwriaeth o wybodaeth am gwsmeriaid fydd yn llywio dulliau marchnata

15.  sut i ddatblygu gweithdrefnau i storio, defnyddio a diweddaru gwybodaeth am gwsmeriaid sy'n bodloni gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol

16.  dulliau sicrhau diogelwch data cyfrinachol

Gwerthuso strategaeth i gael dealltwriaeth o gwsmeriaid

17.  sut i ddewis a defnyddio technegau priodol ar gyfer casglu a dadansoddi data

18.  sut i werthuso gwybodaeth feintiol ac ansoddol yn erbyn y meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt

19.  o dan ba amgylchiadau y byddai angen adolygiad heb ei drefnu

20.  sut i grynhoi data a'i gyflwyno i wahanol gynulleidfaoedd

21.  sut i wneud argymhellion i addasu strategaeth neu ei chynnal, a phryd y gallai fod angen gwneud hynny

22.  y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â chasglu, storio a defnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMAR5, CFAMAR6

Galwedigaethau Perthnasol

Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus