Dehongli canfyddiadau ymchwil marchnata a'u cyflwyno

URN: INSMAR003
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli canfyddiadau ymchwil marchnata a'u cyflwyno drwy nodi patrymau yn y data. Rydych yn datrys neu'n amlygu gwallau, anghysondebau, bylchau ac anomaleddau yn y data, gan ddod i gasgliadau yn seiliedig ar y dystiolaeth. Rydych hefyd yn cadw cofnodion ac yn gwneud argymhellion rhesymegol yn y fformat a nodir yn y cynllun ymchwil, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n dehongli ac yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil marchnata.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau'r gofynion ar gyfer dehongli data a'i gyflwyno gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil
  2. dehongli'r data o ymchwil marchnata gan ddefnyddio'r dulliau a nodir yn y cynllun ymchwil
  3. cadarnhau dibynadwyedd a dilysrwydd y canfyddiadau
  4. nodi materion, tueddiadau, themâu, cysylltiadau a rhyng-ddibyniaethau o'r dadansoddiad o'r data ymchwil marchnata
  5. datrys gwallau, anghysondebau, bylchau ac anomaleddau yn y data ymchwil marchnata
  6. cyfeirio gwallau na allwch eu datrys at y dylunydd ymchwil i'w cywiro
  7. nodi materion allweddol a'u blaenoriaethu
  8. cyfiawnhau lefel yr hyder, y risgiau a'r tybiaethau y seilir y dehongliad arnynt
  9. gofyn am arweiniad neu eglurhad i gynorthwyo dealltwriaeth o'r data, lle bo angen
  10. cyfiawnhau casgliadau yn seiliedig ar y dystiolaeth
  11. gwneud argymhellion rhesymegol yn seiliedig ar y casgliadau
  12. cyflwyno'r canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion yn fformat adrodd penodedig eich sefydliad
  13. addasu adroddiadau i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd
  14. cadw cofnodion data a llwybrau archwilio cywir
  15. cynnal gweithgareddau ymchwil yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol, codau ymddygiad proffesiynol a moesegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gael gafael ar y cynllun ymchwil a'i ddefnyddio yn unol â pholisïau a gofynion sefydliadol
  2. sut i egluro'r gofynion dehongli ac adrodd gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil
  3. dulliau gwirio ansawdd y data i baratoi ar gyfer dehongli
  4. y materion a allai godi wrth ddehongli a sut i ymateb yn unol â chanllawiau ymchwil sefydliadol
  5. y ffyrdd y gall ansawdd y data effeithio ar ganfyddiadau ymchwil marchnata
  6. y dulliau ar gyfer sicrhau dibynadwyedd a dilysrwydd y data, gan gynnwys cymharu â data hanesyddol a normau
  7. sut i nodi tueddiadau, cysylltiadau a rhyng-ddibyniaethau yn y data o ymchwil marchnata
  8. ystod y technegau y gellir eu defnyddio i ddatrys gwallau, anghysondebau, bylchau ac anomaleddau mewn data
  9. ystyr arwyddocâd ystadegol a sut i gymhwyso hyn wrth nodi lefelau hyder
  10. pwysigrwydd nodi risgiau a'r tybiaethau a wnaed wrth ddehongli data
  11. sut i gyflwyno adroddiadau gan ddilyn arddull, tôn a fformat eich sefydliad
  12. cryfderau a gwendidau gwahanol fformatau adrodd a chyflwyno a sut i ddewis y fformat mwyaf priodol ar gyfer y gynulleidfa
  13. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMAR4

Galwedigaethau Perthnasol

Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus