Casglu data o ymchwil marchnata a'i ddadansoddi

URN: INSMAR002
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu data o ymchwil marchnata a'i ddadansoddi. Rydych yn defnyddio dulliau casglu a dadansoddi sy'n cyd-fynd ag amcanion yr ymchwil, gan weithredu o fewn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol. Rydych yn cyfathrebu â'r rhai sy'n cymryd rhan ac yn gwrando'n astud i egluro pwyntiau a gwneud yn siŵr eich bod yn deall. Rydych yn dadansoddi’r wybodaeth feintiol ac ansoddol yr ydych wedi'i chasglu o ymchwil marchnata, gan drin data yn unol â chanllawiau sefydliadol. Rydych yn dogfennu canlyniadau a chanfyddiadau eich dadansoddiad mewn fformat sy'n bodloni anghenion y gynulleidfa ymchwil. Gallech weithio ochr yn ochr ag asiantaeth i gynnal yr ymchwil yn ôl pob tebyg. Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n casglu ac yn dadansoddi data o ymchwil marchnata.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. adolygu'r cynllun ymchwil marchnata ac amcanion yr ymchwil gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil 2. cadarnhau paramedrau a thargedau'r ymchwil gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil 3. cadarnhau'r gofynion casglu a dadansoddi data gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil 4. cadarnhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn deall y broses casglu data, diben yr ymchwil a'r amserlenni dan sylw 5. cyfathrebu â'r rhai sy'n cymryd rhan fel yr amlinellwyd yn y cynllun ymchwil marchnata 6. cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir i'r rhai sy'n cymryd rhan 7. gwrando'n astud i egluro a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall 8. casglu data o ymchwil marchnata gan ddefnyddio'r dulliau ymchwil a nodir yn y cynllun ymchwil 9. cofnodi canfyddiadau ymchwil yn gywir ac yn gyflawn, yn unol â gofynion y cynllun ymchwil 10. paratoi data mewn fformat sy'n cyfateb i ddiben yr ymchwil a'i hamcanion 11. defnyddio dulliau dadansoddi sy'n berthnasol i amcanion yr ymchwil 12. dadansoddi'r data i'r dyfnder a nodir yn y cynllun ymchwil marchnata 13. ymchwilio i unrhyw amrywiadau a nodwyd mewn ymatebion a'u dadansoddi 14. gofyn am arweiniad ac eglurhad i'ch cynorthwyo i ddeall, lle bo angen 15. cadw cofnodion cywir o ddadansoddi data gan ddilyn gofynion cyfreithiol a sefydliadol 16. dogfennu canlyniadau a chanfyddiadau'r dadansoddiad mewn fformat sy'n bodloni anghenion y gynulleidfa 17. bodloni'r amserlenni a nodir yn y cynllun ymchwil 18. cynnal pob gweithgaredd ymchwil yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymddygiad proffesiynol a moesegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gadarnhau diben, amcanion, paramedrau'r ymchwil a thargedau gyda'r dylunydd/dylunwyr ymchwil
  2. y gwahanol ddulliau sy'n gysylltiedig â chasglu data ymchwil
  3. cryfderau a gwendidau gwahanol ddulliau ymchwil a phryd i'w defnyddio
  4. sut gall diben yr ymchwil ddylanwadu ar i ba raddau y cymerir rhan yn yr ymchwil
  5. sut i ymateb i gwestiynau gan y rhai sy'n cymryd rhan o fewn cyfyngiadau'r briff ymchwil
  6. sut i gyfathrebu â'r rhai sy'n cymryd rhan gan ddilyn y cynllun ymchwil
  7. sut i gofnodi data yn gywir ac yn gyflawn yng nghyd-destun gwahanol brosiectau ymchwil
  8. y technegau ar gyfer paratoi data i'w ddadansoddi
  9. egwyddorion, cryfderau a chyfyngiadau'r dulliau dadansoddi
  10. sut i ddewis a defnyddio dulliau dadansoddi sy'n briodol i amcanion yr ymchwil
  11. sut i gymhwyso dulliau dadansoddi i edrych yn fanwl ar ddata am y wybodaeth ofynnol
  12. sut i greu a chynnal cofnodion cywir o ddadansoddi yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  13. y cynulleidfaoedd ymchwil gwahanol a sut i ddogfennu canlyniadau a chanfyddiadau'r dadansoddiad i ddiwallu eu hanghenion
  14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMAR2

Galwedigaethau Perthnasol

Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus