Dylunio a chynllunio ymchwil marchnata

URN: INSMAR001
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio a chynllunio ymchwil marchnata.  Rydych yn cytuno ar amcanion, amserlen a chyllideb yr ymchwil, gan nodi'r meysydd allweddol i'w cynnwys. Rydych hefyd yn ystyried y ffynonellau gwybodaeth ac yn dewis dulliau ymchwil i gyflawni'r amcanion. Rydych yn dylunio cynllun ymchwil marchnata, gan roi sail resymegol i'ch dull gweithredu ac, os oes angen, yn briffio'r cydweithwyr mewnol ac allanol fydd yn cynnal yr ymchwil. Gallech weithio ochr yn ochr ag asiantaeth i gynnal yr ymchwil yn ôl pob tebyg.
Mae'r safon ar gyfer gweithwyr marchnata proffesiynol sy'n dylunio a chynllunio ymchwil marchnata.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi amcanion ymchwil a chytuno arnynt gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  2. cytuno ar y dull ymchwil cyffredinol gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  3. diffinio'r prif feysydd ymchwil a'r cwestiynau
  4. amlinellu amserlenni realistig ar gyfer cynnal yr ymchwil
  5. cytuno ar gyllideb ymchwil gyda deiliad/deiliaid y gyllideb
  6. nodi ffynonellau gwybodaeth ymchwil sy'n cyd-fynd â'r prif feysydd ymchwil a'r cwestiynau
  7. dewis y dulliau ymchwil ar gyfer casglu'r wybodaeth ofynnol
  8. nodi'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r ymchwil
  9. pennu sut caiff risgiau eu lliniaru a'u rheoli
  10. nodi'r samplau perthnasol o'r boblogaeth
  11. nodi deunyddiau ymchwil sy'n bodoli y gellir eu haddasu
  12. cynhyrchu deunyddiau ymchwil newydd i fodloni'r amcanion ymchwil gan ddilyn canllawiau sefydliadol
  13. dylunio cynllun ymchwil marchnata i'w weithredu
  14. rhoi sail resymegol i'r dulliau a ddewisir i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  15. cytuno ar y cynllun gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  16. briffio cydweithwyr mewnol ac allanol i gynnal yr ymchwil marchnata
  17. cynorthwyo cydweithwyr i egluro gofynion yr ymchwil

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi amcanion ymchwil a chytuno arnynt
  2. sut i drafod y dull ymchwil cyffredinol a chytuno arnynt gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  3. pwysigrwydd diffinio meysydd ymchwil a chwestiynau allweddol a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar brosiectau ymchwil
  4. egwyddorion, cryfderau a chyfyngiadau dulliau ymchwil ar gyfer casglu gwybodaeth
  5. cryfderau a gwendidau ymchwil sylfaenol ac eilaidd
  6. sut i nodi a dewis y dull mwyaf priodol o ymdrin â phroblem ymchwil
  7. elfennau allweddol cynllun ymchwil a pham maent yn bwysig
  8. sut i gynllunio prosiect ymchwil o fewn cyfyngiadau amser a chyllidebol
  9. y mathau o risg sy'n gysylltiedig ag ymchwil marchnata a sut gellir lliniaru'r rhain
  10. cydrannau cynllun ymchwil marchnata a sut i ysgrifennu un
  11. y technegau samplu y gellir eu defnyddio mewn ymchwil marchnata a sut i ddewis y rhai mwyaf priodol ar gyfer y boblogaeth
  12. y mathau o ddeunyddiau ymchwil a sut i ddewis ac ysgrifennu'r rhai mwyaf priodol ar gyfer darn penodol o ymchwil
  13. y mathau o gydweithwyr mewnol ac allanol sy'n ymwneud ag ymchwil marchnata a'u hanghenion briffio
  14. yr arferion gorau ar hyn o bryd a'r datblygiadau diweddaraf mewn dulliau a deunyddiau ymchwil
  15. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMAR1

Galwedigaethau Perthnasol

Marchnata a Gwerthiant, Swyddog Marchnata, Rheolwr Marchnata a Gwerthu, Cydymaith Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

Marchnata, gwerthu, rheoli marchnata, ymchwil i'r farchnad, hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus