Rheoli prosesau ymgynghori ac adborth gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid

URN: INSHOU46
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli prosesau ymgynghori ac adborth gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid.  Mae'n ymwneud â chynnig opsiynau i gwsmeriaid gymryd rhan wrth arwain polisïau a chynlluniau'r sefydliad a rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod ymgynghori'n dod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau'r sefydliad ac yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis cwestiynau, materion a phynciau perthnasol y ceisir adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid arnynt
  2. nodi dulliau ymgynghori perthnasol er mwyn i gwsmeriaid a rhanddeiliaid gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau'r sefydliad a llywio gweithredoedd yn y dyfodol
  3. rheoli amrywiaeth o blatfformau a dulliau ymgynghori â chwsmeriaid a rhanddeiliaid ar ystod eang o bolisïau, gweithdrefnau a chynlluniau
  4. cynnig opsiynau i gwsmeriaid gymryd rhan wrth arwain polisi a gweithdrefnau cynllunio'r sefydliad
  5. creu a rheoli systemau ar gyfer coladu gwybodaeth a gasglwyd trwy'r ymgynghoriadau
  6. datblygu a rheoli systemau ar gyfer cofnodi a gwerthuso'r negeseuon craidd mewn adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid
  7. rhoi gweithdrefnau ar waith i gadarnhau bod yr adborth o ymgynghoriadau yn dod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau'r sefydliad ac yn llywio gweithredoedd yn y dyfodol
  8. cadarnhau bod canlyniadau ymgynghoriadau yn cael eu trosglwyddo i'r rheolwyr perthnasol yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau'r sefydliad
  9. gwerthuso pwy sy'n cymryd rhan yn y broses ymgynghori ac adborth ar hyn o bryd a nodi cyfleoedd  wneud rhagor o weithgareddau
  10. rhoi adborth i sefydliadau ac unigolion sydd wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar beth wnaeth ddeillio o ganlyniad i gymryd rhan

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. polisïau ac arferion eich sefydliad o ran grymuso cwsmeriaid a rhanddeiliaid
  2. y rhesymau dros gynnwys cwsmeriaid a rhanddeiliaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau'r sefydliad
  3. sut i reoli amcanion yr ymarfer ymgynghori a'u cyfleu i gwsmeriaid a rhanddeiliaid
  4. sut i reoli'r ffordd y caiff adborth ei ddefnyddio yn y sefydliad a chyfathrebu hynny i'r cwsmeriaid a'r rhanddeiliaid sy'n rhoi'r adborth
  5. y meysydd gweithgaredd yn eich sefydliad sy'n berthnasol i drafod a gwneud penderfyniadau mewn fforwm ymgynghori
  6. cryfderau a gwendidau'r dulliau ymgynghori sydd ar gael
  7. sut i gadarnhau bod deunyddiau a dulliau ymgynghori yn bodloni gofynion cynulleidfa darged y cwsmeriaid a'r rhanddeiliaid
  8. y dulliau a'r technegau ar gyfer cynnwys cwsmeriaid a rhanddeiliaid y mae eu safbwyntiau a'u lefelau angen yn amrywio
  9. y systemau sefydliadol ar gyfer casglu a dehongli gwybodaeth
  10. eich strwythur sefydliadol a sut i roi adborth i'r cydweithwyr perthnasol
  11. ystod o ddulliau ar gyfer gwerthuso deilliannau prosesau ymgynghori a'r effaith ar y sefydliad
  12. y cwmpas ar gyfer datblygu gweithgareddau ymgynghori ymhellach
  13. sut i gyfathrebu â chyfranogwyr i roi gwybod iddynt am effaith eu cyfraniad at yr ymgynghoriad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH414

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; datblygu; gweithredu; rheoli; prosesau; ymgynghori;