Rheoli rhenti a thaliadau gwasanaeth

URN: INSHOU43
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli rhenti a thaliadau gwasanaeth.  Mae hyn yn cynnwys rheoli prosesau cyfrifo rhent a gweinyddu gweithdrefnau adennill dyledion gyda'r nod o gynnal tenantiaethau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli gweithdrefnau ar gyfer gosod rhenti a thaliadau gwasanaeth yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaethol perthnasol
  2. rheoli'r gwaith o gasglu rhenti a thaliadau gwasanaeth
  3. monitro'r swyddogaethau casglu rhenti a rheoli ôl-ddyledion i wneud yn siŵr bod perfformiad sefydliadol a thargedau gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu cyflawni
  4. rheoli systemau a gweithdrefnau cofnodi gwybodaeth
  5. hyfforddi cydweithwyr ym maes rheoli rhent a defnyddio systemau TG rhent sefydliadol
  6. cynghori cydweithwyr ar y system budd-daliadau lles a deddfwriaeth tai berthnasol
  7. lleihau swm ac effaith ôl-ddyledion rhent
  8. rheoli gweithdrefnau adfer dyledion yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
  9. cynhyrchu gwybodaeth ac adroddiadau rheoli yn ôl yr angen
  10. cyfrannu at ddatblygu polisïau a strategaethau i atal ôl-ddyledion rhent a'u rheoli
  11. cyfrannu at ddatblygu polisïau a strategaethau i wella'r gwaith o osod, talu a chasglu rhenti a thaliadau gwasanaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol perthnasol eich sefydliad a'ch cwsmeriaid mewn perthynas â gosod, talu a chasglu rhenti a thaliadau gwasanaeth
  2. eich gweithdrefnau a'ch polisïau sefydliadol ar gyfer rheoli, gosod, talu a chasglu rhenti a thaliadau gwasanaeth
  3. goblygiadau'r system budd-daliadau lles sy'n berthnasol i'ch cwsmeriaid
  4. sut i ymgysylltu â chwsmeriaid i greu diwylliant talu
  5. sut i nodi cyfrifon sydd mewn ôl-ddyledion ac ymateb iddynt
  6. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer adennill dyledion 
  7. yr offer a'r dulliau sydd ar gael i fynd i'r afael ag ôl-ddyledion rhent
  8. y prosesau cyfreithiol perthnasol sy'n ymwneud ag ôl-ddyledion rhent
  9. pryd i ddefnyddio asiantaeth casglu dyledion a sut maen nhw'n gweithredu
  10. y gofyniad i gadw cofnodion electronig yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
  11. sut i ddatblygu a sefydlu polisïau, strategaethau a gweithdrefnau mewn perthynas â rheoli rhenti a thaliadau gwasanaeth
  12. terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH411

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cefnogaeth; deddfwriaeth; Cydraddoldeb; amrywiaeth; yn ddiogel; trefnu; rhent; gwasanaethau; rheoli; cyfrifyddu; prosesau;