Cynorthwyo cwsmeriaid i symud ac ymgartrefu mewn amgylcheddau byw newydd

URN: INSHOU32
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo cwsmeriaid i symud ac ymgartrefu mewn amgylcheddau byw newydd.  Gallai hyn gynnwys symud unigolion a theuluoedd o lety dros dro a'u hailsefydlu mewn cartrefi parhaol.  Gallai hefyd gynnwys cynorthwyo unigolion sy'n symud o amrywiaeth o wahanol leoliadau fel amgylcheddau diogel, y lluoedd arfog, yr ysbyty neu ganolfannau adsefydlu o ganlyniad i gyffuriau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau'r math perthnasol o lety i gwsmeriaid
  2. cynorthwyo cwsmeriaid i nodi a chyfleu eu gofynion ynghylch symud o'u trefniadau byw cyfredol i amgylchedd byw newydd
  3. cynllunio'r camau ar gyfer y symud a nodi dulliau fydd yn galluogi'r broses symud i gael ei chynnal
  4. rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am y broses symud
  5. gwneud cwsmeriaid yn ymwybodol o'r effaith y gallai newidiadau yn eu hamgylchedd byw ei chael arnynt
  6. ymgymryd â gwaith yn unol â'r codau ymddygiad a'r ddeddfwriaeth berthnasol
  7. cynorthwyo cwsmeriaid i symud ac ymgartrefu yn eu hamgylchedd byw newydd
  8. gweithio gyda chwsmeriaid, cydweithwyr a phobl berthnasol yn yr amgylchedd newydd i gynllunio'r broses symud, gan gadarnhau ei bod yn ystyried gofynion y cwsmeriaid
  9. cynorthwyo cwsmeriaid i addasu i'r trefniadau byw newydd
  10. rheoli disgwyliadau cwsmeriaid a rhoi cyngor ar gwynion neu weithdrefnau apelio eich sefydliad
  11. cymryd camau yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodau a gofynion y cwsmer
  2. sut i weithio mewn partneriaeth â chwsmeriaid, cydweithwyr a sefydliadau allanol wrth wneud trefniadau ailsefydlu
  3. y gweithdrefnau sefydliadol a'r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch.
  4. sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
  5. yr ystod o gefnogaeth a chymorth sydd ar gael i gwsmeriaid symud ac ymgartrefu mewn amgylcheddau byw newydd
  6. sut mae nodau a gofynion y cwsmer yn effeithio ar eu dewisiadau
  7. sut y gall gwahanol egwyddorion, blaenoriaethau a chodau ymarfer sefydliadol effeithio ar weithio mewn partneriaeth
  8. y camau, y gweithdrefnau, y gwaith papur a'r sefydliadau perthnasol sy'n ymwneud ag ailsefydlu mewn amgylcheddau byw newydd
  9. mentrau llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig sy'n effeithio ar faes eich gwaith
  10. sut a ble i gael gafael ar lenyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i lywio eich arferion gwaith
  11. yr ystod lawn o offer a mecanweithiau cymorth sydd ar gael i chi
  12. terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH323

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; unigolion; ymgartrefu; amgylcheddau byw; teuluoedd;