Cynorthwyo gofynion datblygiad cymdeithasol a phersonol cwsmeriaid

URN: INSHOU31
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gofynion datblygiad cymdeithasol a phersonol cwsmeriaid.  Mae'n ymwneud â chynorthwyo cwsmeriaid i gaffael, cadw a datblygu'r sgiliau i reoli eu bywydau a'u hamgylchedd.  Mae'n ymwneud â chytuno ar nodau gyda nhw a monitro ac adolygu sut y datblygir eu sgiliau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynorthwyo cwsmeriaid i gyfleu eu gofynion datblygiad cymdeithasol a phersonol o ran rheoli eu bywyd bob dydd
  2. gweithio gyda chydweithwyr perthnasol i nodi a rhoi cymorth i gwsmeriaid sy'n ymwneud â gwella sgiliau a datblygu rhai newydd
  3. gweithio gyda chwsmeriaid yn unol â'ch gweithdrefnau sefydliadol
  4. ymgymryd â'ch gwaith yn unol â chodau ymddygiad a'r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. cytuno ar nodau gyda chwsmeriaid fydd yn eu galluogi i weithio yn ôl eu pwysau eu hunain i gaffael, adennill a chynnal sgiliau sy'n hanfodol i'w bywyd bob dydd
  6. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, cwsmeriaid a chydweithwyr perthnasol ynghylch datblygu a chyflwyno strategaethau cymorth
  7. addasu'r rhaglen gymorth i fynd i'r afael â gofynion cwsmeriaid
  8. darparu cofnodion ac adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ategu'r rhaglen gymorth
  9. pennu meini prawf ar gyfer gwerthuso'r gweithgareddau a'r dulliau a ddefnyddir
  10. monitro ac adolygu'r ddarpariaeth gyda chwsmeriaid a chydweithwyr perthnasol i amserlenni eich sefydliad y cytunwyd arnynt
  11. cyfeirio cwsmeriaid at gydweithwyr perthnasol neu sefydliadau allanol pan na allwch fodloni eu gofynion
  12. cofnodi camau gweithredu, prosesau a chanlyniadau ac adrodd arnynt yn unol â gofynion eich sefydliad a'r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y rhwymedigaethau cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol sy'n berthnasol i gwmpas eich gwaith
  2. y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth sefydliadol berthnasol ar gyfer cydraddoldeb ac iechyd a diogelwch
  3. sut mae'n rhaid i'ch sefydliad gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data
  4. ystod gofynion cwsmeriaid o ran datblygiad cymdeithasol a phersonol a'r gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael
  5. sut i weithio mewn partneriaeth â chwsmeriaid, cydweithwyr a sefydliadau allanol, lle bo hynny'n berthnasol
  6. y gofynion archwilio neu fonitro penodol allanol y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw yn eich maes gwaith
  7. sut mae nodau a gofynion y cwsmer yn effeithio ar eu dewisiadau
  8. sut i osod amcanion a'u monitro
  9. pwysigrwydd cydymffurfio ag arferion da cydnabyddedig
  10. sut i asesu risgiau a'u rheoli yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH322

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu; caffael; cadw; datblygu; sgiliau; rheoli; bywydau; yr amgy