Rheoli llety dros dro

URN: INSHOU25
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau, monitro a rheoli llety dros dro, gan gynnwys llety "gwely a brecwast".  Mae cwsmeriaid yn cynnwys teuluoedd a chwsmeriaid anabl.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli llety dros dro
  2. cadwch gwybodaeth gywir a chyfredol am lety dros dro sydd ar gael yn y lleoliadau sy'n berthnasol i'ch sefydliad
  3. cysylltu â landlordiaid a sefydliadau eraill i drefnu llety dros dro i gwsmeriaid
  4. asesu pa mor addas a chymwys yw cwsmeriaid ar gyfer llety dros dro
  5. nodi llety dros dro addas ar gyfer cwsmeriaid cymwys a'u darparu o fewn amserlenni gofynnol eich sefydliad
  6. cadarnhau'r ddogfennaeth ofynnol ar gyfer y denantiaeth dros dro
  7. esbonio gweithdrefnau apelio a/neu gwynion eich sefydliad i'r cwsmer
  8. rhoi gwybodaeth a chyngor i gwsmeriaid i'w cynorthwyo â'u hanghenion llety
  9. nodi a chofnodi problemau gyda'r llety neu'r addasiadau sy'n ofynnol ar gyfer cwsmeriaid anabl
  10. cymryd camau perthnasol i gadarnhau bod problemau'n cael eu datrys, a bod addasiadau ar gyfer cwsmeriaid anabl wedi'u gwneud i'r llety lle bo angen
  11. monitro llety dros dro i gadarnhau ei fod yn bodloni safonau sefydliadol a statudol perthnasol
  12. cadarnhau'r "cymorth fel y bo'r angen" a ddarperir ar gyfer cwsmeriaid ag anghenion arbennig
  13. cynorthwyo i fonitro costau rhent llety dros dro a'u rheoli

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau sydd ar waith gan eich sefydliad i fonitro a chofnodi llety dros dro
  2. y cyfyngiadau cyfreithiol neu sefydliadol perthnasol ar ddyrannu llety dros dro
  3. sut i asesu pa mor addas yw cwsmeriaid ar gyfer llety dros dro
  4. sut i brosesu a rheoli tenantiaethau dros dro
  5. sut i gadarnhau eich iechyd, diogelwch a diogeledd eich hun a'ch cwsmeriaid
  6. cyfrifoldebau eich sefydliad a'ch cwsmeriaid ynghylch cyflwr y llety dros dro
  7. targedau perfformiad eich sefydliad ar gyfer lleihau'r defnydd o lety dros dro
  8. y rhesymau pam mae'n rhaid i lety fodloni'r safonau iechyd a diogelwch gofynnol
  9. terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a goblygiadau gweithredu y tu allan i'r terfynau hyn
  10. sut i fonitro a rheoli costau rhent llety dros dro i'ch sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH314

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

eiddo; ymchwilio; delio; torri cytundeb; llety; tenantiaeth; trwydded; lesddeiliad; cytundebau; cwsmeriaid; dogfennaeth; diogelwch; cymorth; deddfwriaeth; cydraddoldeb; amrywiaeth; diogel; trefnu