Cynorthwyo tenantiaid a phreswylwyr i gynrychioli eu buddiannau yn y gymuned leol

URN: INSHOU15
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod tenantiaid a phreswylwyr yn ymwybodol o'u hawliau yn y gymuned leol a'u cynorthwyo i gynrychioli eu buddiannau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cefnogi hawliau tenantiaid a phreswylwyr yn y gymuned leol yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
  2. cadarnhau bod tenantiaid a phreswylwyr yn ymwybodol o'u hawliau eu hunain a sut gellir eu cynrychioli
  3. nodi a rhoi mesurau ar waith i gynorthwyo'r holl denantiaid a phreswylwyr i gynrychioli eu buddiannau
  4. nodi ffynonellau cymorth a chynrychiolaeth ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr
  5. cael cyngor os oes angen gan gydweithwyr a sefydliadau perthnasol ynghylch gofynion penodol tenantiaid a phreswylwyr
  6. rhoi cymorth sy'n seiliedig ar ofynion unigol tenantiaid a phreswylwyr
  7. rhoi'r wybodaeth berthnasol i'r tenantiaid a'r preswylwyr i'w helpu i gynrychioli eu buddiannau eu hunain
  8. cynnig cymorth i'r tenantiaid a'r preswylwyr a'u helpu i gynrychioli eu buddiannau eu hunain ac ymarfer eu hawliau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol sy'n gysylltiedig â chefnogi hawliau tenantiaid a phreswylwyr
  2. terfynau eich cyfrifoldeb dros gefnogi hawliau tenantiaid a phreswylwyr
  3. y gwahanol ddulliau o gefnogi hawliau tenantiaid a phreswylwyr yn y gymuned
  4. y sefydliadau sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth ar hawliau tenantiaid a phreswylwyr
  5. y mathau o ddulliau cael gafael ar wybodaeth sy'n ymwneud â hawliau cyfreithiol a phersonol perthnasol
  6. y ffynonellau perthnasol sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth ar hawliau a sut gall tenantiaid a phreswylwyr gael mynediad atynt
  7. pan mae'n ofynnol i eiriolwr/cynrychiolydd roi cymorth a chyngor cyfreithiol i denantiaid a phreswylwyr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH226

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

tenantiaid a phreswylwyr; cydweithwyr; risg; diogelwch; cymuned leol; cymorth; agored i niwed; deddfwriaeth; dogfennaeth; ymholiadau; trefnu; hawliau; buddiannau