Hysbysebu a marchnata eiddo i gwsmeriaid

URN: INSHOU03
Sectorau Busnes (Suites): Tai
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 29 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hysbysebu a marchnata eiddo i gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â pharatoi gwybodaeth i'w defnyddio mewn deunyddiau marchnata gan gynnwys arddangosfeydd, hysbysebion a chyfryngau ar y we.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dod o hyd i'r holl wybodaeth berthnasol am eiddo a'i choladu
  2. cadarnhau bod y wybodaeth am yr eiddo yn gywir ac yn gyflawn
  3. dewis pa nodweddion o'r eiddo i'w farchnata i gwsmeriaid
  4. cael sêl bendith eich rheolwr llinell ynglŷn â'r wybodaeth derfynol a sut caiff ei chyflwyno
  5. hysbysebu'r eiddo i gwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. cysylltu â chyflenwyr gwasanaethau ar-lein a deunyddiau marchnata i gadarnhau cywirdeb y cynnwys terfynol
  7. nodi'r lleoliad perthnasol ar gyfer arddangos deunyddiau marchnata
  8. cadarnhau bod cynllun arddangosfeydd yn bodloni gofynion diogelwch eich sefydliad
  9. monitro arddangosfeydd yn ôl yr amserlenni y cytunwyd arnynt ac ailgyflenwi stociau yn ôl yr angen
  10. monitro cynnwys ar-lein i wneud yn siŵr bod ymholiadau'n cael eu hateb yn ogystal â diweddaru manylion yn ôl yr angen
  11. gwerthuso'r gweithgaredd marchnata ac argymell newidiadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o weithgareddau marchnata ar gyfer cwsmeriaid a ddefnyddir gan eich sefydliad
  2. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer hysbysebu eiddo i gwsmeriaid
  3. terfynau eich awdurdod eich hun mewn gweithgareddau hysbysebu a marchnata
  4. sut i ddewis a choladu gwybodaeth am eiddo
  5. pa nodweddion i'w dewis am eiddo i'w defnyddio mewn hysbysebion a gwybodaeth a arddangosir
  6. eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cymeradwyo deunyddiau marchnata
  7. y mathau o gyflenwyr gwasanaethau ar-lein a'r deunyddiau marchnata a ddefnyddir gan eich sefydliad, a'ch gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cymeradwyo deunyddiau marchnata terfynol
  8. y mathau o arddangosfeydd a sut i'w gosod
  9. sut i gynnal deunyddiau arddangos i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni gofynion sefydliadol
  10. sut i fonitro hysbysebion ar-lein ac ymateb i ymholiadau
  11. sut i fonitro lefelau stoc ac ailgyflenwi deunyddiau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

06 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTH206

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwy-ydd Cynnwys Preswylwyr, Cynorthwy-ydd Tai, Cynorthwy-ydd Cymdogaeth, Gweinyddwr Tai, Cynorthwy-ydd Gosod Eiddo, Rheolwr Portffolio Cynorthwyol (heb bortffolio), Trafodwr Gosod Llety, Cynorthwy-ydd Refeniw, Cynorthwy-ydd Atgyweirio

Cod SOC

3234

Geiriau Allweddol

cwsmeriaid; cydweithwyr; gweithgareddau hyrwyddo; arddangosfeydd; hysbysebu; marchnad; ar-lein; gwasanaethau; rhanddeiliaid