Ysgrifennu a chreu cynnwys ar gyfer mwy nag un platfform digidol

URN: INSDGM004
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Digidol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 03 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd sy'n ymwneud â datblygu cynnwys, adrodd straeon a dylanwadu ar gyfer marchnata digidol. Mae'n cynnwys ysgrifennu a chreu cynnwys ar gyfer mwy nag un platfform digidol. Mae creu cynnwys digidol yn rhan hanfodol o ymgyrchoedd marchnata digidol. Gall y cynnwys fod mewn gwahanol ffurfiau gan gynnwys podlediadau fideo, blogiau, hysbysebion ac e-farchnata, astudiaethau achos, cylchlythyrau, hysbysebu, ymgyrchoedd hyrwyddo, neu'n gynnwys ar gyfer eich gwefan. Marchnata cynnwys yw un o'r technegau hyrwyddo mwyaf effeithiol sy'n denu eich darpar ddefnyddwyr ac sy'n cynyddu rhyngweithio ar-lein gyda chynulleidfa darged. Rydych yn deall manteision marchnata cynnwys ac yn cymhwyso'r rhain i hyrwyddo eich cynhyrchion, eich gwasanaethau neu eich brandiau. Yn seiliedig ar ddadansoddiad berfformiad eich cynnwys, rydych yn gwerthuso ei lwyddiant ac yn gwneud addasiadau perthnasol, lle bo angen i wneud yn siŵr eich bod yn cadw eich cynulleidfa. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n ymwneud ag ysgrifennu a chreu cynnwys ar gyfer mwy nag un platfform.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal ymchwil marchnata i nodi diddordebau, anghenion, ymddygiad a chymhellion eich cwsmeriaid
  2. diffinio eich cynulleidfaoedd targed yn unol â dulliau segmentu'r farchnad
  3. nodi mantais gystadleuol neu bwynt gwerthu unigryw eich sefydliad (USP)
  4. creu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd targed mewn fformatau testun a gweledol
  5. datblygu elfennau animeiddio, graffig neu fideo ychwanegol i ehangu eich cynnwys
  6. gwneud yn siŵr bod eich cynnwys yn unigryw er mwyn rhoi cymaint o sylw â phosibl i'ch cynulleidfaoedd targed
  7. cyhoeddi cynnwys sy'n rhoi hwb i'ch gradd optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
  8. cyhoeddi a hyrwyddo eich cynnwys ar eich gwefan, a phlatfformau digidol eraill a gwneud yn siŵr eu bod yn gysylltiedig
  9. defnyddio'r ystod o weithgareddau rhyngweithiol i gysylltu ac ymgysylltu â'ch cynulleidfaoedd targed
  10. nodi gwelliannau i'ch cynnwys ar-lein a gwneud newidiadau, lle bo angen
  11. dilyn y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol sy'n ymwneud â gweithgareddau marchnata

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. egwyddorion marchnata ymchwil a segmentu
  2. diddordebau, anghenion, ymddygiadau a chymhellion eich cwsmeriaid
  3. ystyr mantais gystadleuol neu bwynt gwerthu unigryw (USP)
  4. sut i roi cymaint o sylw â phosibl i'ch cynulleidfaoedd targed
  5. y technegau cynllunio cynnwys yn unol ag ymchwil marchnata a dulliau segmentu
  6. ystod y fformatau a'r arddulliau ar gyfer eich cynnwys
  7. rôl dylunio graffig a'i chysyniadau craidd
  8. y berthynas rhwng platfformau a'u rhyngwyneb
  9. y sgiliau ysgrifennu a golygu copi ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol ac ar fwy nag un platfform digidol
  10. peryglon ehangach torri hawlfraint, difenwi, mynd yn groes i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA)
  11. ystyriaethau fideo, sain, podledu, delweddau a straeon cyfryngau cymdeithasol
  12. sut i greu disgrifiadau perthnasol sy'n canolbwyntio ar gynnwys ar gyfer unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu frandiau
  13. amrywiaeth yr elfennau animeiddio, graffig neu fideo ar gyfer eich cynnwys
  14. yr amrywiaeth o gysylltiadau i roi hwb i'ch gradd optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
  15. pwysigrwydd optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
  16. ystod y sianeli cyfryngau cymdeithasol neu blatfformau digidol eraill ar gyfer cyhoeddi a hyrwyddo eich cynnwys
  17. elfennau a nodweddion eich cynnwys a sut i brofi a ydyn nhw'n gweithio
  18. y gweithgareddau rhyngweithiol i gysylltu ac ymgysylltu â'ch cynulleidfaoedd targed
  19. sut i optimeiddio perfformiad sianelau allweddol
  20. y dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs)
  21. y technegau monitro ar gyfer marchnata perfformiad cynnwys
  22. y platfformau dadansoddol a systemau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM)
  23. sut i adrodd ar nifer y darpar ddefnyddwyr a'u hansawdd
  24. pam mae angen adolygu eich cynnwys yn rheolaidd
  25. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol mewn perthynas â gweithgareddau marchnata

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  • dadansoddol
  • trefnus
  • cyfathrebu
  • adrodd straeon
  • cydweithio
  • datrys problemau
  • gwneud synnwyr
  • technoleg ddigidol
  • creadigrwydd
  • arloesol
  • cadw at derfynau amser

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

N/A

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Marchnata Digidol Gweithredol, Rheolwr Marchnata Digidol, Cynorthwyydd Marchnata Digidol, Cydlynydd Marchnata Digidol, Arweinydd Marchnata Digidol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Swyddog Marchnata Digidol, Arbenigwr Marchnata Digidol

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

cynhyrchion a gwasanaethau, marchnata digidol, cynnwys marchnata, ymgyrchoedd marchnata, ymgyrchoedd ebost, platfformau cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd hysbysebu arddangos, gweminarau, ail-frandio, dadansoddi, optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)