Cydymffurfio â gofynion moesegol, cyfreithiol, rheoliadol a chodau ymarfer ym maes marchnata digidol

URN: INSDGM003
Sectorau Busnes (Suites): Marchnata Digidol
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 03 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd marchnata digidol sy'n gysylltiedig ag egwyddorion a damcaniaethau marchnata digidol. Mae'n ymwneud â chydymffurfio â gofynion moesegol, cyfreithiol a rheoliadol ym maes marchnata digidol. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr marchnata digidol proffesiynol sy'n gorfod cydymffurfio â gofynion moesegol, cyfreithiol, rheoliadol a chodau ymarfer ym maes marchnata digidol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. coladu polisïau, gweithdrefnau a chodau ymarfer eich sefydliad mewn perthynas â chynnwys, gweithgareddau ac allbynnau marchnata digidol
  2. cydnabod y cosbau, y goblygiadau a'r niwed i enw da os na lynir wrth godau ymarfer cyfreithiol, moesegol, rheoliadol a chodau ymarfer
  3. gwirio cynnwys, gweithgareddau ac allbynnau marchnata yn erbyn yr holl ofynion cyfreithiol a rheoliadol
  4. sicrhau bod y trwyddedau neu'r caniatâd angenrheidiol i ddefnyddio deunydd hawlfraint ar waith
  5. gofyn am gyngor arbenigol pan fo angen i sicrhau bod y deunydd marchnata yn cydymffurfio'n gyfreithiol neu'n cyd-fynd â chodau ymarfer a moeseg
  6. monitro gweithgareddau cyfryngau digidol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus
  7. cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. strwythur eang y system gyfreithiol yn y DU yn ogystal â gofynion cyfreithiol penodol, rolau cyfreithiol a therminoleg yn y wlad yr ydych yn gweithio ynddi
  2. y polisïau a'r canllawiau cyfredol ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol
  3. gofynion perthnasol deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud â diogelu data
  4. y gofynion a'r codau ymarfer moesegol, cyfreithiol, rheoliadol perthnasol mewn perthynas â chynnwys, gweithgareddau ac allbynnau marchnata digidol
  5. rheolau moeseg mewn perthynas ag ymgyrchoedd marchnata digidol
  6. y ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â defnyddio data defnyddwyr, ymgyrchoedd marchnata, ymwybyddiaeth o frand ac ymgyrchoedd hyrwyddo
  7. ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol, a phryd a sut i gael gafael arnynt
  8. cosbau torri hawlfraint, difenwi a thorri codau ymddygiad 
  9. pwysigrwydd monitro gweithgareddau a sylwadau ar y cyfryngau digidol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  • dadansoddol
  • trefnus
  • systematig
  • gonestrwydd
  • datrys problemau

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

N/A

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Marchnata Digidol Gweithredol, Rheolwr Marchnata Digidol, Cynorthwyydd Marchnata Digidol, Cydlynydd Marchnata Digidol, Arweinydd Marchnata Digidol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Swyddog Marchnata Digidol, Arbenigwr Marchnata Digidol

Cod SOC

3554

Geiriau Allweddol

cyfreithiol, rheoliadol, cydymffurfio, marchnata digidol, cynnwys marchnata, ymgyrchoedd marchnata, ymgyrchoedd ebost, platfformau cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd hysbysebu arddangos, diogelu data, moeseg, côd ymarfer, cyfrinachedd, ysgrifennu copi