Rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid

URN: INSCS043
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys iaith a chysyniadau gwasanaeth i gwsmeriaid yn ogystal â'r cyd-destun sefydliadol a'r amgylchedd allanol rydych chi'n gweithio ynddo.  Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Yn gyffredinol, mae cyfrifoldebau rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid yn cynnwys set o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y gellid eu disgwyl gan unrhyw reolwr.  Fodd bynnag, mae natur gwasanaeth i gwsmeriaid yn golygu, os oes gennych gyfrifoldebau penodol am wasanaethau cwsmeriaid, bod angen rhagor o sgiliau a gwybodaeth. Mae'r safon hon yn ymdrin ag egwyddorion allweddol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n dylanwadu ar sut y caiff ei reoli a'r cysylltiadau rhwng eich cyfrifoldebau rheoli a'r egwyddorion allweddol hynny. Mae'r safon hefyd yn cydnabod nad yw gwybodaeth a dealltwriaeth rheolwr o egwyddorion a systemau gwasanaeth i gwsmeriaid mor fanwl â'r rhai sy'n ofynnol mewn rôl gyflwyno.  Yn hytrach, rhaid i'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ymwneud â gwerthfawrogiad mwy strategol o egwyddorion gwasanaeth i gwsmeriaid. 

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n monitro ac yn rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli'r gwasanaeth cyffredinol i gwsmeriaid ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad
  2. meithrin diwylliant gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
  3. nodi a chynnal adnoddau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  4. goruchwylio staff i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid i safonau gofynnol eich sefydliad
  5. hyfforddi a datblygu eich staff i feithrin eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
  6. datblygu sgiliau staff wrth gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  7. cyfrannu at ddatblygu polisïau, diwylliant a moeseg gwasanaetha i gwsmeriaid yn eich sefydliad
  8. monitro lefelau boddhad cwsmeriaid â'ch cynhyrchion a'ch gwasanaethau
  9. gwerthuso opsiynau ar gyfer technoleg fydd yn gwella'r modd y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid
  10. cynnal asesiadau risg wrth ddelio â phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid
  11. lliniaru risgiau gyda phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid ac adolygu'r dulliau lliniaru yn rheolaidd
  12. dangos arweiniad mewn rôl gwasanaeth i gwsmeriaid
  13. recriwtio staff gyda'r sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid a bennir gan eich sefydliad
  14. monitro a chynnal gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
  15. argymell gwelliannau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
  16. sefydlu rhwydwaith o gysylltiadau gwasanaeth i gwsmeriaid
  17. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich rôl a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â gwasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad, disgwyliadau cwsmeriaid a boddhad cwsmeriaid
  2. sut mae systemau, timau a staff unigol sefydliadol yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
  3. y ffyrdd y mae systemau sefydliadol yn cydbwyso boddhad cwsmeriaid ac ystyriaethau ariannol
  4. sut mae gwybodaeth, sgiliau, agweddau, hyfforddiant, profiad a phersonoliaeth staff yn cyfrannu at wasanaeth i gwsmeriaid
  5. yr opsiynau ar gyfer monitro perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid a manteision ac anfanteision pob opsiwn
  6. defnyddio gwasanaeth i gwsmeriaid fel arf cystadleuol gan y sector masnachol a sut y caiff ei ddefnydd fel cyfraniad at y gwerth gorau yn y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector
  7. nodweddion allweddol y diwylliant gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad a sut i feithrin a chynnal hyn
  8. sut y gellir defnyddio asesiad risg i ddelio â phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid
  9. y dulliau lliniaru'r risgiau ac adolygu'r rhain yn barhaus
  10. yr opsiynau cyfredol sydd ar gael ar gyfer defnyddio technoleg i wella'r modd y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid
  11. ffyrdd y gall sefydliad wella ei wasanaeth i gwsmeriaid yn barhaus
  12. sut i recriwtio staff gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer eich sefydliad yn erbyn manylebau swydd a pherson
  13. yr opsiynau ar gyfer hyfforddi, datblygu a chyflawni cymwysterau gan staff eich sefydliad sy'n gweithio ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid a manteision ac anfanteision pob opsiwn
  14. pwysigrwydd monitro a chynnal sut y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad a'r prosesau a ddefnyddir
  15. y ffyrdd y gallwch hyrwyddo gwelliant parhaus yn eich sefydliad
  16. pwysigrwydd sefydlu rhwydwaith cryf o gysylltiadau â diddordebau tebyg mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
  17. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSF5

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid; egwyddorion allweddol; gwybodaeth; dealltwriaeth; egwyddorion strategol