Hyrwyddo gwelliant parhaus

URN: INSCS038
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid.   Mae'n cynnwys hyrwyddo gwelliant parhaus. Mae'n ymwneud â gweithgareddau a dulliau gweithredu sy'n chwarae rhan hanfodol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid drwy chwilio am welliannau a datblygiadau a'u rhoi ar waith.  Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Rydych yn ymroddedig i wella gwasanaeth cwsmeriaid yn barhaus yn eich sefydliad ac yn cymryd rhan mewn trefnu newidiadau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid yn barhaus.  Rydych yn nodi newidiadau posibl, yn ystyried eu goblygiadau yn llawn, ac yn gwneud iddynt weithio.  Yn anad dim, rydych yn canolbwyntio ar drefnu a gweithredu newidiadau sy'n gynaliadwy ac yn cyd-fynd â'r dyhead i wella'n barhaus mewn gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n hyrwyddo gwelliant parhaus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynllunio gwelliannau mewn gwasanaeth i gwsmeriaid ar sail adborth cwsmeriaid
  2. casglu adborth gan gwsmeriaid i nodi cyfleoedd i wella gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. dadansoddi adborth cwsmeriaid i nodi cyfleoedd i wella gwasanaeth i gwsmeriaid
  4. trafod goblygiadau posibl unrhyw newidiadau arfaethedig i'ch cwsmeriaid a'ch sefydliad gyda'ch tîm a'ch rheolwr
  5. trafod newidiadau i wella systemau gwasanaeth i gwsmeriaid gyda chydweithwyr sydd â'r awdurdod i gymeradwyo treialon neu roi newidiadau ar waith yn llawn
  6. trefnu sut i roi treialon a newidiadau cymeradwy ar waith
  7. hysbysu cydweithwyr sydd wedi'u heffeithio gan y newidiadau a wneir am y rhesymau drostynt
  8. monitro adweithiau cynnar i newidiadau a gwneud addasiadau pan fo angen
  9. casglu a chofnodi adborth cwsmeriaid a chydweithwyr am effeithiau newidiadau
  10. dadansoddi a dehongli adborth er mwyn dod i gasgliadau
  11. rhannu eich canfyddiadau ar effeithiau newidiadau â'ch tîm a'ch rheolwr
  12. crynhoi manteision ac anfanteision y newidiadau
  13. defnyddio eich dadansoddiad a'ch dehongliad o newidiadau i nodi cyfleoedd i wella ymhellach
  14. cyflwyno'r cyfleoedd hyn i gydweithwyr sydd â'r awdurdod i roi'r rhain ar waith
  15. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gasglu adborth gan gwsmeriaid o fewn canllawiau eich sefydliad a'r offer a'r prosesau a ddefnyddir
  2. sut i ddadansoddi a dehongli adborth cwsmeriaid i nodi cyfleoedd posibl i wella'r gwasanaeth y mae eich sefydliad yn ei ddarparu i gwsmeriaid
  3. pwysigrwydd nodi canlyniadau posibl newidiadau a sut i ystyried y rhain gyda'ch rheolwr a'ch tîm cyn trafod newidiadau
  4. y gwahanol dechnegau trafod y gellir eu defnyddio i gytuno ar dreialon a rhoi newidiadau llawn ar waith gyda chydweithwyr sydd ag awdurdod
  5. sut i drefnu'r ffordd y caiff newidiadau eu rhoi ar waith o fewn terfynau eich awdurdod a'r hyn y mae angen i chi ei ystyried
  6. pwysigrwydd datblygu rhesymeg dros y newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith a sut i gyfathrebu â chydweithwyr yr effeithir arnynt gan roi rhesymau
  7. y dulliau a ddefnyddir i fonitro newidiadau yn y camau cychwynnol ac addasu dulliau ar sail yr ymateb gan gwsmeriaid a chydweithwyr gwasanaeth i gwsmeriaid
  8. pwysigrwydd casglu a chofnodi adborth am effeithiau'r newidiadau a roddir ar waith ar gwsmeriaid a'ch sefydliad
  9. y technegau dadansoddi y gellir eu defnyddio i ddod i gasgliadau o adborth a materion i'w hystyried wrth i chi eu dehongli
  10. pwysigrwydd rhannu eich canfyddiadau â'ch rheolwr a'ch tîm a sut i wneud hyn
  11. manteision sefydliadol crynhoi manteision ac anfanteision y newidiadau yr ydych wedi'u rhoi ar waith
  12. sut i gyflwyno achos busnes i eraill er mwyn rhoi newid ar waith yn y gwasanaethau neu'r cynhyrchion rydych chi'n eu cynnig
  13. sut mae datblygiadau mewn sianeli cyfathrebu fel cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd i wella gwasanaeth i gwsmeriaid
  14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSD9

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

nodi newidiadau; trefnu; gwelliant parhaus; gwasanaeth i gwsmeriaid; canolfannau cyswllt; datblygu; gwella; cyfathrebu; datrys problemau; gweithio gydag eraill; gwaith tîm; rhoi gwybodaeth; derbyn gwybodaeth