Rheoli perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid

URN: INSCS035
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaeth i Gwsmeriaid.  Mae'n cynnwys rheoli perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â gweithgareddau a dulliau gweithredu sy'n chwarae rhan hanfodol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid drwy chwilio am welliannau a datblygiadau a'u rhoi ar waith.  Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Caiff perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid ei fesur gan amrywiaeth eang o fetrigau a sgoriau a gesglir mewn gwahanol ffyrdd gan eich sefydliadau. Rydych yn defnyddio metrigau a sgoriau monitro ansawdd eich sefydliad i reoli perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid yn systematig a nodi camau i'w gwella.  Rydych yn casglu gwybodaeth ac yn ei dehongli drwy gyfeirio at safonau, meincnodau, targedau a goddefiannau. Rydych hefyd yn nodi tueddiadau a phatrymau o ran canlyniadau monitro ansawdd ac yn addasu targedau perfformiad.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n rheoli perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu metrigau ar berfformiad gweithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid
  2. dehongli patrymau eang o fetrigau gweithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. ymchwilio i'r cwestiynau a godwyd gan eich dehongliad a'ch dadansoddiad o berfformiad
  4. dehongli metrigau perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer gwasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad
  5. sicrhau bod metrigau perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid yn cyd-fynd â'r meincnodau, y targedau, y safonau a'r goddefiannau y cytunwyd arnynt
  6. dadansoddi metrigau perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid i nodi patrymau a thueddiadau
  7. cymharu metrigau perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid â sgoriau monitro ansawdd eich sefydliad
  8. adolygu'r gofynion o ran adnoddau sy'n gysylltiedig â rheoli perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
  9. llunio achos busnes sy'n cynnwys camau gweithredu manwl i wella perfformiad gan gynnwys crynodeb o'ch dadansoddiad
  10. pennu camau gweithredu Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig, wedi'u rhwymo gan Amser (SMART) i gynnal perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid a'i wella
  11. briffio aelodau eich tîm ar y camau y mae angen iddynt eu cymryd i wella perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
  12. trefnu newidiadau i adnoddau i wella perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid pan fo angen
  13. trefnu hyfforddiant i wella perfformiad aelodau'r tîm lle nodwyd anghenion datblygu
  14. addasu targedau perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid i'w cadw'n heriol ac yn gyraeddadwy
  15. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y dulliau a ddefnyddir i gasglu metrigau ar berfformiad gweithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid
  2. y technegau ar gyfer dehongli metrigau perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid i nodi patrymau eang
  3. pwysigrwydd ymchwilio ymhellach i unrhyw gwestiynau y mae eich dehongliad o fetrigau yn eu codi a'r dulliau y gallwch eu defnyddio
  4. pwysigrwydd dehongli metrigau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau a chynhyrchion penodol yn ogystal â pherfformiad cyffredinol gwasanaeth i gwsmeriaid
  5. ffynonellau targedau meincnodau, safonau a goddefiannau y cytunwyd arnynt ar gyfer perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid eich sefydliad
  6. sut i nodi patrymau a thueddiadau mewn metrigau perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
  7. y technegau a ddefnyddir i gymharu metrigau perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid â chanlyniadau monitro ansawdd eich sefydliad
  8. y gwahanol fathau o adnoddau sy'n cefnogi perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid a sut i adolygu a chyfrifo unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau
  9. sut i ysgrifennu achos busnes, beth y dylid ei gynnwys a fformat dewisol eich sefydliad
  10. y mathau o gamau gweithredu fydd yn gwella perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid a sut i'w hysgrifennu drwy ddefnyddio'r model Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig, wedi'u rhwymo gan Amser (SMART)
  11. pwysigrwydd briffio aelodau eich tîm am y rôl sydd ganddynt o ran gwella perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid ac ennill eu hymrwymiad i'r camau a nodwyd gennych
  12. y newidiadau posibl o ran adnoddau y gallai fod eu hangen a sut i'w sicrhau
  13. y dulliau hyfforddi sy'n gallu gwella perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid aelodau'r tîm a sut i gael gafael ar y rhain yn eich sefydliad
  14. y ffyrdd y gallwch wirio bod targedau'n heriol ac yn gyraeddadwy a sut i'w haddasu
  15. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSD20

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

Rheoli; perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid; metrigau; sgoriau; mesur; mesur perfformiad; meincnodi; targedau; nodi tueddiadau; nodi patrymau; monitro canlyniadau; gwasanaeth i gwsmeriaid; canolfannau cyswllt;