Arwain tîm i ddatblygu gwasanaeth i gwsmeriaid a'i wella

URN: INSCS030
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Rheoli Gwasanaethau Cwsmeriaid.  Mae'n cynnwys arwain tîm i ddatblygu a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â gweithgareddau a dulliau gweithredu sy'n chwarae rhan hanfodol mewn gwasanaeth i gwsmeriaid drwy chwilio am welliannau a datblygiadau a'u rhoi ar waith.  Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Rydych yn gyfrifol am arwain tîm sy'n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn cynllunio ac yn trefnu eu gwaith ac yn eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu eu perfformiad. Rydych yn edrych ar eich sefydliad a'ch adnoddau staffio ac yn dod â'r rhain at ei gilydd mewn ffordd adeiladol i wella gwasanaeth cyffredinol i gwsmeriaid. Rydych yn rhoi cymorth ac arweiniad i'ch tîm i'w hannog i wella sut maent yn cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid.  Rydych yn rhannu eich brwdfrydedd gyda'ch tîm ac yn ei arwain drwy esiampl. Rydych yn datblygu staff newydd yn unol â safonau gofynnol eich sefydliad ac yn diweddaru staff sefydledig ar weithdrefnau a thechnegau newydd.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefel oruchwylio neu reoli sy'n arwain tîm i ddatblygu a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno ar y gwahanol rolau ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid gydag aelodau'r tîm
  2. cynnwys aelodau'r tîm wrth gynllunio a threfnu eu gwaith gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. dyrannu gwaith yn seiliedig ar sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid aelodau'r tîm ac amcanion eich sefydliad
  4. ysgogi aelodau'r tîm i gydweithio i wella eu perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
  5. gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm yn deall eu rolau wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  6. nodi'r cymorth y gallai fod ei angen ar aelodau'r tîm i gyflawni eu rolau
  7. rhoi cymorth a chyfeiriad i aelodau'r tîm pan mae angen help arnynt
  8. rhoi adborth i aelodau'r tîm am eu perfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  9. annog aelodau'r tîm i adolygu a thrafod eu perfformiad eu hunain o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  10. cytuno ar gamau gweithredu gydag aelodau'r tîm i wella eu perfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  11. nodi pryd mae angen hyfforddiant a datblygiad i wella perfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  12. helpu aelodau'r tîm i nodi eu hanghenion datblygu a hyfforddi eu hunain
  13. cytuno ar y gweithgareddau datblygu a hyfforddi staff sydd eu hangen i ddatblygu perfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  14. rhoi gwybod am anghenion datblygu staff i gydweithwyr sy'n gyfrifol am hyfforddi a datblygu
  15. cytuno ar nodau ac amcanion gweithgareddau datblygu a hyfforddi gwasanaeth i gwsmeriaid gyda chydweithwyr sy'n gyfrifol am hyfforddi a datblygu
  16. cadarnhau'r dulliau datblygu a hyfforddi gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cyd-fynd â'r nodau a'r amcanion y cytunwyd arnynt
  17. trefnu gweithgareddau datblygu gwasanaeth i gwsmeriaid a hyfforddiant ar gyfer aelodau eich tîm
  18. monitro perfformiad aelodau'r tîm yn dilyn datblygiad a hyfforddiant i gadarnhau bod dysgu'n cael ei roi ar waith
  19. trefnu datblygiad a hyfforddiant ychwanegol i aelodau'r tîm pan fo angen
  20. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr amcanion a'r targedau presennol sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid ym maes eich cyfrifoldeb
  2. rolau a chyfrifoldebau aelodau eich tîm a sut maent yn cyd-fynd â strwythur cyffredinol eich sefydliad i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. sut gall perfformiad tîm ac unigol effeithio ar gyflawni amcanion sefydliadol ar gyfer cyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  4. sut i annog eich tîm i gynllunio a threfnu eu gweithgareddau gwaith o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  5. sut i gynllunio a dyrannu gwaith i'ch tîm mewn ffordd sy'n sicrhau eu dealltwriaeth a'u hymrwymiad
  6. sut i gynnwys ac ysgogi staff i annog gwaith tîm i wella'n barhaus y modd y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid
  7. sut i hwyluso cyfarfodydd i annog trafodaeth agored rhwng aelodau'r tîm i egluro eu rolau a'r berthynas rhyngddynt
  8. sut i roi adborth i gydnabod perfformiad effeithiol a delio'n sensitif â materion sy'n ymwneud â thanberfformio
  9. pwysigrwydd datblygu staff yn barhaus sy'n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid a'u hannog i adolygu eu perfformiad eu hunain
  10. y dulliau a ddefnyddir i gytuno ar gamau gwella gydag aelodau'r tîm a'r mathau o gamau gweithredu y gallai fod eu hangen
  11. sut i nodi pryd y byddai datblygu a hyfforddi yn gwella perfformiad o ran darparu gwasanaeth i cwsmeriaid
  12. yr ystod o ddulliau datblygu a hyfforddi sydd ar gael a sut i ddewis y rhai sy'n briodol i wasanaeth i gwsmeriaid, eich sefydliad, y nodau a'r amcanion hyfforddi a datblygu penodol, a'r gyllideb
  13. y cydweithwyr yn eich sefydliad sy'n gyfrifol am weithgareddau datblygu a hyfforddi a sut i roi gwybod iddynt am anghenion hyfforddi eich tîm
  14. pwysigrwydd rhoi mewnbwn i ddull dylunio a chyflwyno gweithgareddau hyfforddi a datblygu staff gwasanaeth i gwsmeriaid, a'r effaith a gaiff hyn
  15. pwysigrwydd trefnu gweithgareddau datblygu a hyfforddi er mwyn iddynt beidio ag effeithio'n ormodol ar waith eich sefydliad o ddydd i ddydd
  16. sut y gallwch helpu staff i roi'r hyn y maent wedi'i ddysgu yn ystod hyfforddiant ar waith yn y gweithle
  17. sut i asesu'r effaith y mae datblygiad a hyfforddiant wedi'i chael ar berfformiad o ran darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  18. y mathau o gymorth ychwanegol y gallech eu darparu i aelodau'r tîm yn dilyn datblygiad a hyfforddiant
  19. goblygiadau methu â gwella gwasanaeth i gwsmeriaid i aelodau eich tîm a'ch sefydliad
  20. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSD11, CFACSD15

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

arwain tîm; gwasanaeth i gwsmeriaid; canolfannau cyswllt; adnoddau staffio; cymorth, arweiniad; arwain drwy esiampl; datblygu; gwella; cyfathrebu; datrys problemau; gweithio gydag eraill; gwaith tîm; rhoi gwybodaeth; derbyn gwybodaeth;